Â鶹ԼÅÄ

Teisen a thalent wrth ddathlu addysg Gymraeg

Noson fawr addysg Gymraeg

Cyngerdd i ddathlu pen-blwydd Ysgolion Cyfun Cymraeg Glantaf a Phlasmawr yng Nghaerdydd oedd cychwyn yr wythnos o weithgareddau yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch.

Sylwadau Elin Angharad

Roeddwn yn edrych ymlaen at weld rhai o'r cyn ddisgyblion sydd wedi mynd ymlaen i ddisgleirio ar lwyfannau byd enwog ym myd cerdd a drama yng nghyngerdd Tri10 nos Wener.

Ond erbyn cyrraedd fy sedd yn y Pafiliwn roeddwn wedi cael fy nal mewn cawod drom o law ac yn poeni mai dyma fyddai ein tynged yng Nghaerdydd.

Ond o'r eiliad y cychwynnodd y cyngerdd roedd 'na ymdeimlad o hwyl yn y "babell binc".

Ar y llwyfan cafwyd perfformiadau arbennig gan nifer o enwogion sydd wedi cael eu haddysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf - sydd eleni yn 30 oed.

Ar Fedi 5 1978 yr agorodd drysau'r ysgol am y tro cyntaf ac 20 mlynedd yn ddiweddarach yn 1998 fe wnaeth ail ysgol gyfun Gymraeg agor yn y ddinas, Ysgol Plasmawr.

Felly, dathlu pen-blwydd y ddwy ysgol oedd y cyngerdd gyda'r cyn-ddisgyblion, disgyblion presennol, rhieni a rhieni, athrawon a chyn athrawon.

Ar ffurf rhaglen radio gyda'r cyflwynydd Huw Stephens y cychwynnodd y cyngerdd wrth iddo gyflwyno siart o ddeg uchaf o fandiau gychwynnodd eu taith yn yr ysgol.

Hanner Pei oedd ar y brig ac fe gafwyd perfformiad byw egniol gan y band.

Yna daeth y newyddiadurwr Eleri Morgan ymlaen gyda hanes yr ysgol cyn i Rhodri Llywelyn a Sara Gibson gyflwyno gwybodaeth a hen luniau archif o'r athrawon a disgyblion.

Ac fe gododd y gyflwynwraig Branwen Gwyn rywfaint o gywilydd efallai drwy ddangos hen luniau a pherfformiadau cyn ddisgyblion yn eisteddfodau'r gorffennol!

Rhwng y bwletinau cafwyd eitemau cerddorol, dawns a chomedi.

Cafwyd perfformiad arbennig gan dri cherddor sy'n gyn ddisgyblion o Ysgol Glantaf, Anthony Stuart Lloyd, Jeremy Huw Williams a Paul Carey Jones oedd yn canu alawon Cymreig.

Ar y llwyfan













Bu'r ddawnswraig Lowri Watson yn ein swyno gyda'i symudiadau celfydd ac roedd y cerddor Gareth Bonello wedi cyfansoddi cân arbennig, Ar y lan, ar gyfer yr achlysur.

Cafwyd neges arbennig gan dri o enwogion Glantaf, Gethin Jones yn Llundain a Ioan Gruffudd a Matthew Rhys yn Los Angeles.

Roedd 'na dipyn o hwyl wrth wrando ar y ddau actor yn hel atgofion am eu cyfnod yn yr ysgol.

Roedd Côr Unedig Glantaf a Chôr Meibion Unedig Glantaf hefyd yn perfformio - corau oedd yn cynnwys cyn ddisgyblion, rhieni a chyn athrawon, yn ogystal â'r disgyblion presennol.

Daeth y côr llawn i'r llwyfan o'r gynulleidfa wedi eu gwasgaru drwy'r pafiliwn wrth i brifathro cynta'r ysgol, Malcolm Thomas, alw'r cofrestr.

Daeth cynrychiolaeth o wyth ysgol gynradd y brifddinas i'r llwyfan erbyn y diweddglo hefyd, nhw fydd doniau'r 30 mlynedd nesaf!

Dyma gychwyn da i'r Eisteddfod felly, oedd yn adlewyrchu doniau plant Glantaf a Phlasmawr a'r hyn a gafodd ei feithrin yn ein prifddinas dros y 30 mlynedd diwethaf.

Ac roeddwn wedi hen anghofio am y gawod law gan fod cynhesrwydd arbennig yn y pafiliwn ac yn barod am wythnos arbennig yn ein Prifddinas.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.