Prifddinas codi arian!
Cadeirydd yn canmol ymdrechion y bobl
Wedi codi mwy na'r disgwyl
Yn ariannol mae pethau'n edrych yn llewyrchus iawn ar Eisteddfod Caerdydd.
Cyn i neb roi ei droed ar y maes mae'r gronfa leol wedi codi mwy na'r disgwyl.
Gosodwyd nod ariannol o £286,000 ond dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith, Huw Llywelyn Davies, yng nghyfarfod diwethaf Cyngor yr Eisteddfod i £304,890 gael eu codi - saith y cant yn fwy na'r nôd.
Canmolodd Mr Davies ymdrechion trigolion y Brifddinas gan ddweud i rai ardaloedd y tu allan i ddalgylch yr Eisteddfod gyfrannu hefyd.
Bydd arian sylweddol yn dod yn dâl am unedau hefyd gyda 370 ohonynt ar y maes, sef "ffigwr uchel iawn" yn ôl Mr Davies.
Ychwanegodd mai £418,000 o nawdd sydd wedi ei dderbyn.
"Mae'r gronfa gyffredinol neu cronfa aelodau Llys yr Eisteddfod wedi cyrraedd £7,777 a'r gronfa Awdurdodau Lleol, ar wahan i gefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyrraedd £12,325," meddai.
"Mae llawer iawn, iawn, o bethau calonogol tu hwnt ond mae rhyw ddau beth yn ein poeni:
"Y cyntaf yw y tywydd a fedrwn ni wneud dim oll am hwnnw.
"Yr ail yw pobl. Mae eisiau i bawb dyrru i Gaerdydd er mwyn gwneud hon yn chwip o Eisteddfod ac i brofi bod y brifddinas yn medru cynnal ein gŵyl genedlaethol," meddai.