Y planedau ar rêls
Taith y planedau ar y Maes
Athrawes o Ysgol Glantaf fydd yn cadw'r byd a'r planedau yn llythrennol 'ar y rêls' yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Yr oedd Gwen Owen, o Lanedwen Ynys Môn yn wreiddiol, wrthi'n brysur fore Gwener yn paratoi arddangosfa, y tu allan i'r Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg, o gyfundrefn yr haul gyda'r planedau yn cylchdroi ar reilffordd fechan o amgylch yr haul.
"A phob rhyw bum munud fe fydd yna gomed nad yw i'w gweld weddill yr amser yn ymddangos yn annisgwyl," meddai.
Cynlluniwyd yr arddangosfa 'planedau ar rêls' gan Gwen, sy'n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Glantaf, a Guto Roberts, cyn gadeirydd y pwyllgor gwyddoniaeth a thechnoleg.
Yn ystod yr wythnos bydd Gwen yn gofalu hefyd am gystadleuaeth boblogaidd "Wil i'w Wely" y Babell Wyddoniaeth.