Â鶹ԼÅÄ

Pob wan jac ar lwyfan!

'Yr union beth ar gyfer pnawn Sul!'

O Bontyberem i Gaerdydd!

Fel sy'n gweddu i bantomeim o'r enw Jac a'r Jereniym bydd pob un wan jac o aelodau Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn cymryd rhan mewn pantomeim yn Theatr Fach y Maes heddiw.

Mae addasiad Carys Edwards a Gwenda Owen o bantomeim Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn yn addo bod yn dipyn o sioe felly gyda digonedd o wisgoedd lliwgar.

"Yr union beth i rieni a phlant ar bnawn Sul," meddai Carys Edwards a oedd ar y maes ddydd Gwener yn hyfforddi'r criw gyda Gwenda Owen.

Y prif gymeriadau gyda Carys Edwards a Gwenda Owen

Dyma'r ail dro i'r cwmni gynhyrchu'r panto hwn.

"Fe gafodd o'i wneud gyntaf gennym rhyw ddeng mlynedd yn ôl ond mae'r cynhyrchiad hwn wedi ei addasu ar gyfer heddiw ac yn cynnwys caneuon newydd," meddai Carys.

Bellach mae nifer o'r rhai a gymerodd ran yr adeg honno yn actorion proffesiynol, gan gynnwys Matthew Pegram, Catherine Ayers, Anwen Lewis, Aled Pugh ac Owain Rhys davies.

Ar y llaw arall, ni fydd gan nifer o'r perfformwyr yng Nghaerdydd heddiw gof o gwbl o'r digwyddiad hwnnw gan fod yna rai cyn ieuenged ag wyth oed yn y cwmni.

Yn gwmni brwd daw yr aelodau o holl ysgolion Cwm Gwendraeth gan gyfarfod bob nos Fercher ym Mhontyberem dan arweiniad Carys, Gwenda a thîm cyfarwyddo.

Maen nhw'n ymarfer pob math o sgiliau theatraidd gan gynnwys dawns a meim.

"Mae datblygu'r sgiliau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn datblygu hyder yn ein ieuenctid," meddai Carys.

Perfformiwyd y fersiwn hwn o Jac a'r Jereniym ym Mhontyberem gan y criw yn ystod mis Chwefror gyda dros 80 o bobl ifainc yn cymryd rhan.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.