Â鶹ԼÅÄ

Neges fideo Ioan Gruffudd

Ioan Gruffudd - methu bod yno ond yn anfon neges fideo

Neges fideo arbennig gan Ioan Gruffudd

Bydd nifer o artistiaid adnabyddus a gafodd addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn cymryd rhan mewn cyngerdd wythnos yr Eisteddfod i ddathlu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.

Mae'r cyngerdd Tri10 - a gynhelir nos Wener Awst 1 am wyth yn y pafiliwn yn dilyn y seremoni agoriadol - yn rhan o ddathliadau pen-blwydd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn 30 ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn ddeg.

Yr artistiaid a fydd yn cymryd rhan yw, Hanner Pei; Mathew a Daniel Glyn; Huw Stephens; Jeremy Huw Williams; Paul Carey Jones; Anthony Stuart Lloyd; Alys Reed; Marged Jones; Branwen Gwyn; Rhodri Llywelyn; Sara Gibson; Eleri Morgan; Dafydd James; Gareth Bonello; Lowri Walton; Rhidian Marc ac Eiri Thomas.

Cymerir rhan hefyd gan gôr o 350 o gyn ddisgyblion, athrawon a rhieni, Côr Unedig Glantaf.

Ac er na all fod yn bresennol bydd yr actor Ioan Gruffudd, a fu'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, yn cyflwyno neges ar fideo.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Rwy'n siwr y bydd hi'n noson lwyddiannus, yn enwedig gyda'r ystod o dalent sydd ymhlith y myfyrwyr presennol a'r cyn ddisgyblion enwog."

Pris tocynnau yw £7 ac £8 i blant a £14 ac £16 i oedolion.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.