Diwylliant chwaraeon
Doniau arwyr rygbi, pel-droed a chwaraeon eraill
Pob math o chwaraeon ar y maes
Bydd amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon ar faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos.
Bydd y cyfan yn cychwyn am 1100 fore Llun pan fydd Dai Young yn rhoi rhai o chwaraewyr amlwg Gleision Caerdydd drwy'u pethau Ben Blair, Paul Tito, Xavier Rush, Gethin Jenkins a Tom Shanklin.
Yn ystod yr wythnos bydd sêr Sgarlets Llanelli ar y maes hefyd ac yn cynrychioli'r bêl gron, rhai o chwaraewyr disglair Caerdydd.
I gricedwyr bydd Clwb Criced Morgannwg yn cynnig hyfforddiant.
Chwaraeon eraill fydd yn cael sylw yw tennis dan do, pêl-rwyd, hoci, golff ac athletau.
Noddir ardal ffitrwydd gan sefydliad Cymru, Caerdydd gyda gwobr am rwyfo.
Bydd rhywfaint mwy o hamdden yn perthyn i deithiau beic hyd Llwybr Tâf nosweithiau Mawrth a Iau ar gyfer preswylwyr y maes carafanau.