Â鶹ԼÅÄ

Meic Stevens - un o berfformwyr y maes. Gweler isod

Pigion Pontcanna

Dyddiadur boreol o faes y Steddfod

Mewn "hoil twym heddi", fel y dywedir yn William Jones ymwelodd 22,659 â'r Ledi Binc ddoe.

Mwy na'r Wyddgrug y llynedd (, 21,089, ag Abertawe ddwy flynedd yn ôl, 22,659.

Ond pwy oedd y naw yna yn y 22,659 tybed? Oedden nhw yr un naw a'r naw a aeth i'r Wyddgrug y llynedd ar ddydd Iau?

Un teulu mawr ynteu dau deulu yn teithio mewn dau gar yr holl ffordd o'r gogledd gan ddal y traffig i gyd yn ôl.

Chawn ni byth wybod.

Materion Maes

Ychwanegiad gwerth chweil i'r Maes dros y blynyddoedd diwethaf yw'r llwyfannau perfformio sy'n cyson orfodi rhywun i sefyll a gwrando.

Bu amrywiaeth o berfformwyr yn amrywio o grŵp Jas i Ddafydd Iwan a Meic Stevens ddoe.

Jasio

Y cyfan yn rhoi rhyw sbarc a sbonc arbennig i'r Å´yl.

Ond os yw'r rhain yn gaffaeliad i'r Maes mae mwy nag un yn cwyno am brinder arwyddion i'ch cyfeirio i wahanol leoedd.

Un yn holi pam fod rhifau i'r gwahanol stondinau ar y map swyddogol ond dim rhifau o gwbl ar ben y rhesi ar y maes.

Ond rhywun heb amser i oedi a chwyno'n hir oedd hwnnw a welai eisiau arwydd yn cyfeirio ymwelwyr at y tai bach!

"Rhaid imi fynd . . ."

Sgwrs sydyn

Sgwrs rhwng dau ar y Maes ganol pnawn:
"Be wnei di heno?"
"Meddwl mynd draw i'r Sherman."
"Esu Grist!"
"Ie, dyna chdi."

Deialu beirniad

Y sôn yw y bydd neges anarferol iawn yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a fydd ar gael wedi seremoni - neu ddim seremoni - y Cadeirio y pnawn yma.

Dywedwyd wrthyf na allodd Aled Jones Williams lunio beirniadaeth lawn fel un o dri beirniaid y Fedal Ryddiaith oherwydd iddo gael ei daro'n wael a chael triniaeth lawfeddygol.

Ac yn absenoldeb beirniadaeth lawn yn y Cyfansoddiadau y mae rhif ffôn Aled fel y gall unrhyw un o'r ymgeiswyr gysylltu ag ef am sylwadau pellach.

Ni ddigwyddodd hynny o'r blaen!

Sgiam Orseddol?

Gydag aelodau'r Orsedd yn cael mynediad i'r Maes am bris gostyngol yr oedd yna gryn wneud syms rhwng y glas, gwyrdd a gwyn wedi seremoni'r Fedal Ryddiaith ddydd Mercher.

Gorymdeithiodd rhai

Gwnaeth 276 o Orseddogion gais am wisgoedd ond dim ond 145 a ymunodd â'r osgordd.

Mae'r 130 arall dan amheuaeth yn awr o fod wedi defnyddio'r Orsedd yn esgus i gael dod ar y maes yn rhatach.

"A oes twyllwyr?"

Esgid rugl

Mewn gwlad lle bu'r iaith ar drai a than fygythiad mor hir diddorol oedd gweld un stodin ar y Maes yn gwerthu "Welis Cymraeg".

Allwch chi ddychmygu'r sgwrs dros frecwast?
"Beth oedd gan dy welingtons i'w ddweud wrthyt ti'r bore ma?"

Ydi, mae'r iaith ar gerdded.

Cadeiriau newydd

Erbyn hyn mae gan yr Orsedd ddwy gadair ychwanegol, newydd, ar gyfer veu defnyddio mewn seremonïau.

Rhodd ydyn nhw gan y cyn, gyn Archdderwydd Robyn LlÅ·n a eglurodd iddo dalu amdanynt gydag arian a gafodd gan y Daily Post yn dilyn trafodaeth rhwng cyfreithiwr a chwnsler Mr Lewis a'r papur hwnnw yn dilyn rhywbeth a gyhoeddwyd am y prif lenor.

Tybed a fydd y ddwy gadair yn cael eu hadnabod fel Y Cadeiriau Troseddol?

Addo dim

Mae'r Gweinidog Diwylliant newydd i'w weld yn un sy'n dysgu'n sydyn.

Pan ofynnwyd iddo gan yr Arglwydd Roger Roberts mewn cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau a allai 'r gweinidog sicrhau fod baner Draig Goch yn cael ei hanfon i bob llysgenhadaeth a chonsiwlet ar draws y byd i'w defnyddio ar achlysuron Cymreig dramor fel Dydd Gŵyl Dewi ateb Alun Ffred Jones oedd:

"Dwi wedi dysgu un peth yr wythnos yma; peidio ag addo dim byd ydi hwnnw!"

Alun Ffred Jones

Ymateb swta yr Arglwydd Roberts oedd, "Os na fedrwch chi addo peth mor syml a hynna,wel!"

Serch hynny . . .

Yr oedd ddoe yn ddiwrnod aduniad hen fyfyrwyr Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd - neu Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy fel ag yr oedd pan fwriais i dymor neu ddau yno.

Ymunais â'r aduniad gan obeithio gweld 'cariad-o-bell' y dyddiau hynny.
Ond welais i mohoni.
Ond fe welais nifer o rai eraill y gallwn syrthio mewn cariad â hwy!

Sion Steddfod

Cyhoeddir Pigion Pontcanna bob diwrnod o faes yr Eisteddfod. Cliciwch ar y diwrnod i weld.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.