Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Porc Peis Bach O Diar - Porc Peis Bach
Llwyddo ar lwyfan
Adolygiad Ian Edwards o O Diar, Porc Peis Bach yn Theatr Gwynedd wythnos Eisteddfod Genedlaethol Eryri, 2005.

Hunanladdiad, ail atgyfodiad yr Iesu, anffyddlondeb priodas, psychosis prif gymeriad sy'n clywed lleisiau o du hwnt i'r bedd a phroblem gamblo Edgar Siop.

Ie diwrnod cyffredin arall yn hanes trigolion Llanllewyn!

Unigryw Gymraeg
Gydag O Diar!, y fersiwn llwyfan o'r gyfres deledu Porc Peis Bach mae'r awdur a'r actor Wynford Ellis Owen wedi llwyddo i greu comedi gyda stamp unigryw Gymraeg arni yn yr un ffordd mae'r ffilmiau Carry On yn dwyn stamp unigryw Brydeinig.

Drwy cymysgu rheolau clasurol ffars - a choeliwch chi fi mae pob elfen yma o'r drysau yn agor a chau ar wib i'r Ficer lleol yn ymddangos yn ei ddillad isa! - a chymeriadau sy'n debycach i gymeriadau cartŵn na phobol go iawn gyda math o hiwmor unigryw y gyfres deledu mae'r sioe hon yn taro deuddeg.

Mae'r cast i gyd yn rhoi cant y cant i'w perfformiad.

Ac yr oedd y rhai hynny yn y gynulleidfa oedd yn cwyno fod yr actorion yn mynd dros ben llestri ambell waith wedi colli yr hyn sy'n gwneud Porc Peis Bach - ac yn awr, O Diar! yn llwyddiant.

Mynd ag anadl
Llwydda Sion Trystan (Kenneth), Wynford Ellis Owen (Donald) a gweddill yr actorion i ail greu ar lwyfan yr egni manic a welwyd ar y sgrin fach mewn ffordd mor effeithiol maent bron a mynd ag anadl y gwyliwr.

Ar ben hynny, mae cyfarwyddo Valmai Jones yn symud y stori ymlaen mewn ffordd sy'n manteisio'n llwyr ar egni'r cast dawnus - camp ynddo'i hun.

Hefyd, rhaid dweud fod coesau siapus Lowri Steffan (Yvonne) werth y pris mynediad eu hunain!

Gwnaeth y criw technegol, yntau, wyrthiau gyda'r set, sain a goleuo gan greu awyrgylch arbennig iawn.

Y ddrama hon sy'n dod â hanes Kenneth a gweddill criw gwallgof Llanllewyn i derfyn.

Mae Kenneth, bellach, yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth yn ngholeg Bala Bangor ac yn briod â Helen James - sy'n disgwyl babi.

Pen i waered
Ond fel sy'n arferol ym mywyd Kenneth Parry, buan iawn mai y mae ei fyd yn troi ar ei ben - a phan fo trigolion y pentre yn cael eu bygwth mae'n amser iddo yntau wynebu ei dynged.

Mae'r sioe hon o bosib yn fwy addas i rai sy'n gyfarwydd â'r rhaglen deledu yn hytrach na chynulleidfa newydd - ond wedi dweud hynny mae Wynfford Ellis Owen a Valmai Jones wedi llwyddo i greu rhyw fath o Laregub ar gyffuriau sy'n cynnig hwyl a sbort golau i unrhyw un.

Mwy o storiau Dydd Sadwrn


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý