Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Bardd y Gadair- agorwch y drws

Twm Morys Yr oedd hi y fuddugoliaeth fwyaf poblogaidd ar lwyfan yr Eisteddfod ers blynyddoedd lawer fel y tystiodd y fonllef o gymeradwyaeth pan gododd Twm Morys ar ei draed wedi caniad y corn gwlad.

Y fuddugoliaeth fwyaf poblogaidd ers buddugoliaeth un o'r beirniaid ar y lwyfan eleni efallai, yr Adferwr, Ieuan Wyn.


Gyda naw yn cystadlu am y gadair gydag awdlau ar y testun, Drysau, dywedodd y beirniaid fod un Twm Morys dan y ffugenw Heilyn ben ac ysgwydd yn well na'r gweddill.

Twm Morys - yn dangos ei docyn aelodaeth CymunedWrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd feirniaid, Donald Evans a Ieuan Wyn, dywedodd Myrddin ap Dafydd fod y gynghanedd yn clecian weithiau, yn canu dro arall ond ei bod yn nwylo Twm Morys yn "gwau amdanom".

"Cyfunir rhythmau llafar ac ieithwedd ffigurol i gyfleu dychymyg a chenadwri'r bardd, ac mae'r geiriau yn drymlwythog o ystyr ac arwyddocâd."

Y drws yn ei awdl oedd yr un yng Ngwales yn rhan olaf ail gainc y Mabinogi. Drws yr ofnai y Cymry ei agor. Y ffurf Gymreig o flwch Pandora.

Mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r cadeirio dywedodd Twm Morys mai ei anogaeth i'r Cymry yw i fynd i'r afael a'u hargyfwng wyneb yn wyneb ac agor 'y drws'.

"Efallai na fydd agor y drws y peth iawn i'w wneud ond o leiaf byddwn wedi gwneud rhywbeth," meddai.

Atgyfnerthwyd neges yr awdl gan y crys-T "Dal dy dir" a wisgai Twm wrth gael ei dywys i'r llwyfan.

Mynnodd hefyd ddangos ei docyn aelodaeth i newyddiadurwyr yn y gynhadledd i'r wasg gan bwysleisio ei fod hefyd yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a chroesawu yr ysbryd o gydweithio a fu rhwng y ddau fudiad ar faes Mathrafal ym Meifod.

"Does yna ddim pwynt rhannu'r milwyr," meddai wrth alw ar y Cymry i ymgyrchu'n herfeiddiol ond hefyd gyda mwynhad a hyder y byddai llwyddiant.

Rhybuddiodd na fyddai neb yn cefnogi ymgyrchoedd pruddglwyfus sy'n gwneud dim ond darogan gwae a difodiant.

Trydydd tro
Dywedodd mai dyma'r trydydd tro iddo gystadlu am y Gadair ac yr oedd yn wybyddus iddo ddod yn agos iawn y llynedd pan gadeiriwyd un o'r beirniaid eleni, Myrddin ap Dafydd.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý