Βι¶ΉΤΌΕΔ

Heddwch rhwng y meini

03 Gorffennaf 2010

Selwyn Iolen yn gosod y goron ar ben yr Archdderwydd newydd

Gorymdeithiodd yn agos i fil o bobl drwy strydoedd Wrecsam ar gyfer seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2011.

Cynhelir yr Eisteddfod yn y dref fis Awst 2011, blwyddyn dathliadau canrif a hanner y Brifwyl ar ei gwedd bresennol.

O fewn cylch yr Orsedd, gyda'r meini platig yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf ar gyfer y cyhoeddi, yr oedd cymysgedd o lawenydd a thristwch wrth i T James Jones - Jim Parc Nest - gael ei urddo'n Archdderwydd newydd yn dilyn marwolaeth ei gyfaill Dic Jones yn y swydd.

Arweinwyd y gweithgareddau agoriadol gan y Dirprwy Archdderwydd, Selwyn Iolen, sydd hefyd yn wael iawn.

Yn ystod ei araith gyntaf ef o'r maen llog cyfeiriodd T James Jones yn benodol at "ddewrder" Selwyn Iolen.

Yn ysbryd llinell a gyfansoddodd Dic Jones nid llawer cyn ei farwolaeth - "Ni all lladd ennill heddwch" - yr oedd i gondemniad o ryfel ran amlwg yn y gweitgareddau gyda'r Archdderwydd newydd yn gresynu na chafodd gwleidyddion eu dwyn gerbron eu gwell yn sgil rhyfel Irac.

Gan atgoffa'r gynulleidfa fod seremoni'r cyhoeddi yn dilyn Dydd y Luoedd Arfog y Sadwrn cynt dywedodd y byddai Dic Jones, pe byddai'n dal yn fyw, yn cyhoeddi'r Sadwrn ΓΆ'i dilynai yn Wrecsam "yn ddiwrnod lluoedd heddwch".

"Yn ddiwrnod cyhoeddi cariad at gyd-ddyn pwy bynnag y bo ac yn ddiwrnod canmol diwylliant a iaith sy'n ein gwareiddio," meddai.

  • I ddarllen mwy am weithgareddau'r cyhoeddi cliciwch
  • Ac i ddarllen araith T James Jones fel y'i thraddodwyd cliciwch Yma

Blogiau Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.