Â鶹ԼÅÄ

Glynebwy Gwilym - Mawrth

03 Awst 2010

Gwilym Owen

Sylwadau Gwilym Owen bob dydd o Brifwyl Blaenau Gwent

Rhywun yn gofyn imi ddoe pam nad ymddangosodd Côr Glanaethwy ar y llwyfan yn ôl eu haddewid bnawn Sul. Rhyfedd, medda fo, ar ôl clywed Cefin Roberts mor feirniadol o gorau Cymreig am beidio cystadlu yn Eisteddfod Llangollen.

Ac ydi, mae Glynebwy yn bell o Fangor, medda fo wedyn, ond wedi'r cyfan mae o'n dipyn nes na mynd i gystadlu yn China. Dweud dim oedd galla.

Methu'r Tarw

Gair o ddiolch rŵan i'r Sanhedrin eisteddfodol am sicrhau bod yna deyrnged i'r diweddar Orig Williams, El Bandito, yng nghanol yr enwogion yn Rhaglen y Dydd.

Ond cam gwag go fawr mae gen i ofn oedd cyfeirio at Orig o'r Bryniau fel "Tarw Nefyn".

Dim o'r fath beth. Idris Evans, cyfaill mynwesol ac o gyffelyb fryd i Orig ydi'r Tarw go iawn.

Ac mae o'n dal o gwmpas ei bethau tua thre Caernarfon yna.

Cym on the Vale!

Brathu'r llaw?

Gweld bod yr Archdderwydd newydd, Jim Parc Nest, yn barod iawn i ddangos ei ddannedd gwleidyddol ac wedi datgan ei gefnogaeth i brotest a gynhelir ar y Maes yr wythnos hon gan rieni Treganna a Than yr Eos yng Nghaerdydd.

T James Jones

Protest sy'n cyfeirio at Brif Weinidog Cymru fel Carwyn Welsh Not Jones.

Sgwn i ydi'r Archdderwydd yn canu o'r un llyfr emynau fan hyn â'r Sanhedrin Eisteddfodol sy'n dibynnu cymaint ar gefnogaeth ariannol Llywodraeth dyn yr honedig Welsh Not. Dim ond gofyn.

Llygad barcud 'Lol'

Yn ôl at Ein Sianel Hoff - dwi'n siŵr bod digwyddiadau'r wythnos ddwetha ym Mharc Tŷ Glas wedi bod yn loes calon i olygydd a chyhoeddwyr y cylchgrawn Lol.

Roeddan nhw'n amlwg wedi bod yn ymchwilio'n fanwl yng nghiarpad bag y donfedd Gymraeg ac yn barod i danio clamp o ffiwsan.

Ond yn sydyn nos Fercher dwetha aed â'r gwynt o'u hwyliau ac fe drodd y cyfan yn esiampl o gau drws stabl ar ôl i'r ceffyl ddianc.

Ond chwarae teg mae ganddyn nhw glasur o adroddiad am ddiflaniad cwmni Barcud Derwen. Stori o lygad y ffynnon ac wedi ei sgwennu'n ardderchog felly marciau llawn i Lol.

Sut gyfarfod

Bnawn ddoe, cyflwynwyd darn o bapur imi ar y Maes - a'r cyfan oedd arno oedd y geiriau, "S4C yn gwrando, Dylan Iorwerth yn arwain y drafodaeth ym mhafiliwn S4C am chwech o'r gloch nos Fawrth."

Dim esboniad beth fydd pwnc y trafod na phwy fydd yn ymateb ar ran y Sianel.

Dwi ddim yn credu yr af i yno i gael rhagor o lwch yn cael ei luchio i'm llygaid. Mae digon o hwnnw o gwmpas y Maes yn barod!

Moch diolch

A gorffen gyda digwyddiad annisgwyl. Bnawn ddoe fe geisiodd dirprwyaeth o Foch Daear Cymru gael mynediad i Babell y Cymdeithasau 2.

Roedden nhw am gyfarfod Derec Llwyd Morgan a'i banel o uwch weision sifil Cymru i ddatgan eu diolch iddyn nhw am eu diffyg meistrolaeth o'r gyfraith wrth fynd ati i lunio deddf ar ran y Gweinidog Elin Jones i'w difa nhw.

"Diolch ichi am gael byw," oedd eu neges seml.

Ond chawson nhw ddim croeso. Doedden nhw ddim yn gallu cyfleu eu neges yn y Gymraeg. Biti, biti.


Blogiau Â鶹ԼÅÄ Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.