Â鶹ԼÅÄ

'Apps' yn Feibl y Maes

10 Gorffennaf 2010

'Ap Steddfod' - tywysydd y maes

Pwy sydd heb fod ar goll ar faes eisteddfod? Ar frys i gyrraedd rhywle a heb fod yn gwybod lle'r ydych chi'n iawn heb sôn am lle'r ydych chi i fod o fewn yr ychydig eiliadau nesaf.

A faint yn union o'r gloch mae'r digwyddiad na allwch fforddio ei golli?

Yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 yng Nglynebwy fydd hynny ddim yn broblem i berchenogion iPhone gan fod apps newydd ar gael i'ch tywys o amgylch y maes ac yn rhoi gwybodaeth am wahanol ddigwyddiadau.

Ac ymhlith y cyntaf i fod yn defnyddio'r gwasanaeth newydd y mae Adrian Morgan o Aberystwyth sy'n aelod o Gyngor yr Eisteddfod ac yr oedd yn hael ei ganmoliaeth i'r iSteddfod fel mae'n cael ei alw.

"Mae'n wych," meddai.

Glynebwy yw'r lle cyntaf i'r Eisteddfod i ddefnyddio'r apps a ddatblygwyd gan Ambrose Choy:

"Roeddwn i'n teimlo erioed nad oedd 'na ffordd hawdd o gael gafael ar yr wybodaeth i gyd mewn un lle pan yn symud o gwmpas a chawsom y syniad o greu iSteddfod ar ôl yr Eisteddfod y llynedd, a dyma ni!" meddai.

"Mae wedi cymryd rhai misoedd a rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod Genedlaethol trwy gydol y broses a gobeithio y bydd pobl yn ei ddefnyddio ac yn teimlo'i fod yn adnodd gwerthfawr," ychwanegodd.

A chyda phob arwydd y bydd yr ap Cymraeg cyntaf erioed hwn yn llwyddiant ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen yn awr at weld nifer o apps Cymraeg eraill yn cael eu creu.

Gwêl Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, yr ap yn hwb nid yn unig i'r Eisteddfod ond i'r Gymraeg ei hun hefyd.

"Bydd iSteddfod yn adnodd penigamp yn ystod yr Eisteddfod ac wrth i bobl gynllunio'u wythnos," meddai, " ac mae'n dda gweld yr iaith yn cael ei defnyddio ym myd technoleg. Rwy'n edrych ymlaen i weld iSteddfod yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol."

Ac mae rhai yn holi'n barod a yw dyddiau'r Rhaglen y Dydd drwchus sy'n syrthio'n ddarnau yn eich dwylo erbyn bore Iau wedi eu rhifo!


Blogiau Â鶹ԼÅÄ Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.