Â鶹ԼÅÄ

Ffon symudol

Canllaw i gynnwys y wefan hon

Yr Eisteddfod ar Twitter

Dilynwch Â鶹ԼÅÄ Cymru ar Twitter am y penawdau newyddion diweddaraf o'r Maes a negeseuon ychwanegol caiff eu hychwanegu gan dîm y wefan hon yn ystod yr wythnos.

Os fyddwch chi'n trydar o'r Eisteddfod ac yn tagio eich neges eich hun gyda #eisteddfod, gallwn ddewis rhai o'r goreuon a'u dangos ar y safle hwn. Byddwn hefyd yn chwilio am y gair 'eisteddfod' ar Twitter yn y Gymraeg a Saesneg yn ystod yr wythnos, a gall rhai o'r negeseuon ymddangos ar y safle. Ewch i'r adran 'Gwylio a Gwrando' i'w darllen yn ystod yr wythnos.

Â鶹ԼÅÄ Cymru ar Twitter

Blogiau

Bydd ein gohebwyr ar y Maes â'u bys ar y pyls, yn blogio am y straeon a'r clecs a glywir o gwmpas yr Eisteddfod.

Flickr

Trwy ymuno â grŵp flickr Eisteddfod y Â鶹ԼÅÄ, gallwch ychwanegu eich lluniau o'r Maes at y wefan i bawb gael eu gweld. Ymunwch â'r grŵp i rannu eich lluniau.

Termau ac amodau Flickr

Gwylio'n fyw dros y we

Bydd llif byw o'r pafiliwn ar y wefan hon o 9:30 (amser haf Prydain BST) bob bore pan mae'r cystadlu'n cychwyn tan ddiwedd y cystadlu gyda'r hwyr. Mae ar gael eleni ar draws y byd, yn y Gymraeg a gyda sylwebaeth Saesneg ar ein gwasanaeth Saesneg (cliciwch ar 'English' ar dop dde y safle.) Ewch i'r adran Gwylio a Gwrando am fwy o wybodaeth.

Clipiau fideo

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod gallwch wylio eitemau o raglenni teledu uchafbwyntiau nosweithiol Â鶹ԼÅÄ Cymru, clipiau o raglen Newyddion ac o'r Babell Lên trwy fynd i adran Gwylio a Gwrando. Mae yno hefyd glipiau o'r archif o Eisteddfodau Bala y gorffennol. Ar gael yn rhyngwladol.

Canlyniadau

Bydd clipiau fideo o'r cystadleuwyr sy'n cael y wobr gyntaf, ail a thrydydd mewn pob cystadleuaeth llwyfan ar gael ar y wefan hon yn yr adran Canlyniadau. Ar gael yn rhyngwladol.

Tocyn Wythnos

Gallwch wylio gweddarllediad o raglen Radio Cymru Tocyn Wythnos ar y wefan hon yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mwy o fanylion i ddilyn.

Vocab

Os am help gyda'r Gymraeg, cliciwch ar y botwm 'Vocab' ar dop dde y safle am gyfieithiad Saesneg o rai geiriau Cymraeg.

Mwynhewch yr arlwy!

(Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol.)


Mwy

Canlyniadau

Côr Cynta i'r Felin

Rhestr lawn

Canlyniadau'r wythnos yn llawn.

C2

Cyfweliad gyda Gwyneth Glyn

Yn y Steddfod

Lluniau a chlipiau ecscliwsif o gigs yr Eisteddfod.

Â鶹ԼÅÄ Lleol

Cerflun yn nhref Y Bala

Y Bala

Adnabod tref Y Bala ar wefan Â鶹ԼÅÄ Lleol i'r gogledd orllewin.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.