Βι¶ΉΤΌΕΔ

Newyddion Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Digwyddiadau'r noson yr enillodd Barack Obama etholiad arlywyddol UDA ( 2008).

Adroddiad newyddion Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r noson yr enillodd Barack Obama ei etholiad arlywyddol gyntaf UDA yn 2008. Dangosir y gohebydd Aled Huw, yn fyw o rali'r dathlu, yn sΓ΄n am y freuddwyd a wireddwyd. Gwelwn luniau o'r dorf cyn canolbwyntio ar araith ddathlu Obama. Enillodd e ail dymor ym 2012.
O: Newyddion Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Darlledwyd yn gyntaf : 05 Tachwedd 2008

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Hanes, Astudiaethau Cyfryngau, Cymdeithaseg

Testun : Byd modern, Newyddion teledu, Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Dogfennu digwyddiad tyngedfennol, Cynrychiolaeth ,Semiotig, Hanes yr UDA, Etholiad arlywyddol yr UDA 2008, Barack Obama, Lleiafrif ethnig

Nodiadau : Dadansoddi'r dilyniant agoriadol gan nodi codau a chonfensiynau'r genre newyddion; cyflwynydd, set, mise en scene, lliwiau, eiconograffeg, cyfwelydd, lleoliadau, set, trefn y naratif ac yn y blaen.
Dadadeiladu'r dilyniant teitl ar ei ben ei hun; dynodi beth a welir a beth a glywir ac yna rhoi'r cynodiad.
Cymharu hwn gyda Wales Today - beth sydd yn debyg a beth sydd ddim yn debyg?
Sut y mae'r cynhyrchydd yn creu realaeth yn y darn am Obama?
Beth sy'n digwydd ar y sgrΓ®n yn y stiwdio ar ddechrau'r darn? - mise en scene, y dorf a'u sΕµn, siotiau, 'yn fyw', lleoliad ac yn y blaen.
Ysgrifennu erthygl ar gyfer papur newydd neu gylchgrawn papur newydd o dan y teitl 'Gwireddwyd y Freuddwyd' gan gyfeirio at yr hyn y mae Obama yn dweud yn y clip.
Gellir ymchwilio'n bellach i ddarganfod geiriau allweddol eraill a ddywedodd e.e. 'Yes we can!' ac wrth gwrs, ymchwilio erthyglau am Martin Luther King.
Cynllunio poster i bortreadu America newydd i'r byd gyda phwyslais ar gynrychiolaeth.
Cynllunio hysbyseb 30 -60 eiliad ar ffurf storifwrdd dan y teitl 'Dewch i America 2009' neu 'America'r Dyfodol' neu deitl gwreiddiol eu hunain yn awgrymu'r pethau hyn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.