Â鶹ԼÅÄ

Hunanymwybyddiaeth

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Vox-pops gan blant i gwestiynau ar ddelwedd a hunanymwybyddiaeth.

Ymateb plant yng Nghymru i gwestiynau ar ddelwedd a hunanymwybyddiaeth:
• Sut mae dy ffrindiau yn dy weld di?
• Ydy ymddygiad pobl enwog yn dylanwadu arnat ti?
• Sut rwyt ti'n teimlo pan fydd dy ffrindiau'n dy feirniadu?
• Gyda phwy fyddi di'n siarad pan fydd rhywbeth yn dy boeni?
Beth fyddech chi'n ei ychwanegu at yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud?

O: Dim wedi darlledu -saethwyd yn arbennig ym Ebrill 2013

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Cyfeillgarwch, Hunan-ddelwedd, Hunanymwybyddiaeth

Nodiadau : Clip saethwyd yn arbennig; adnodd ychwanegol i'r gyfres'Tri Chwestiwn i Lara'

Gellir defnyddio'r clip hwn i sbarduno trafodaeth am hunan-ddelwedd a hunanhyder, pwysau gan gyfoedion a'r baich y mae pobl ifanc yn ei deimlo oherwydd portreadau afrealistig ar deledu, mewn ffilmiau a chyfryngau eraill.
Mae'r clip yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• teimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ymwrthod â phwysau ac ymddygiad diangen gan gyfoedion
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd

Mae'r clip yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddangos agwedd gyfrifol at gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• datblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• bod yn bendant ac ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

Mae clip yn rhoi cymorth i'r myfyrwyr deall y canlynol:
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.