Â鶹ԼÅÄ

Gwrthdaro

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Vox-pops gan blant i gwestiynau ar ffraeo a gwrthdaro.

Ymateb plant yng Nghymru i gwestiynau ar ffraeo a gwrthdaro:
• Wyt ti wedi gwneud dewisiadau oherwydd pwysau gan ffrindiau?
• Sut rwyt ti'n gwybod pwy i'w ddilyn a phwy i'w anwybyddu?
• Beth sy'n achosi dadleuon rhwng ffrindiau?
• Sut byddwch chi'n dod yn ffrindiau eto ar ol ffraeo?
Syt ydych chi'n ymdopi gyda chwympo mas, cecru, ffraeo hefo'ch ffrindiau?

O: Dim wedi darlledu -saethwyd yn arbennig ym Ebrill 2013

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Cyfeillgarwch, Gwrthdaro, Ffraeo

Nodiadau :

Clip saethwyd yn arbennig; adnodd ychwanegol i'r gyfres'Tri Chwestiwn i Lara'

Gellir defnyddio clip i sbarduno trafodaeth am reoli cyfeillgarwch ac archwilio sut i ddelio â sefyllfaoedd chwithig, gan gynnwys ffraeo.
Mae'r clip yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro a delio â bwlio
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• gwerthfawrogi teulu a ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch

Mae'r clip yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro

Mae clip yn rhoi cymorth i'r myfyrwyr deall y canlynol:
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro a natur bwlio
• bod pobl yn wahanol i'w gilydd o safbwynt eu barn am yr hyn sy'n dda a'r hyn sy'n ddrwg
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.