Does dim yn well na'r bwrlwm o gerdded y daith fer o dÅ· Mam-gu yng Nghoedlan Denham at glwyd Pwll End y Strade. Wrth adael ei thÅ· min nos fyddai yna fyddin o gefnogwr ffyddlon, oll yn gwisgo sgarlad eu catrawd yn llithro'n ofalus rhwng y ceir wrth fynd tuag at faes y gad, i ddal y stadiwm dan warchae.
Pleserus oedd y cymysgedd o wyntoedd wrth fynd trwy'r clwydi- gwair newydd ei ladd, mwd gwlyb dan faniau'r Â鶹ԼÅÄ, finegr ar sglods o'r stondin, cwrw stâl wedi ei sarnu ar y gwair, a chlywed gwynt melys donyts newydd eu pobi.
Ychwanega'r sŵn at yr awyrgylch ffair: plant yn chwerthin, gwerthwyr rhaglenni wrthi'n annog bargen, mil o sgyrsiau byrlymus, a llais clir Eifion Price a cherddoriaeth gwerin Jac-y-Do'n annog pawb i fwynhau'r achlysur.
Ond rhagflas yn unig oedd y paratoadau tu allan i'r Strade. Does yr un lle'n well na Tanner Banc i wylio gêm o rygbi. Wrth sefyll yn y dorf- ambell waith fel sardîns mewn tin- fyddai'r awyrgylch yn wych beth bynnag oedd ganlyniad y gêm. Heclo penderfyniadau'r dyfarnwr- ambell waith a sylwad tebyg i un a gafwyd gan Voltaire neu Groucho Marx, ond yn ambell waith yn dipyn mwy amrwd.
"Mr Larynx" oedd pencampwr y sylwadau bach witty. Fel Mr Larynx roeddwn i'n ei adnabod gan roedd ei lais, wedi ei grasu gan yfed, gwaeddi, a smocio dros y blynyddoedd, yn swnio mor glir ac uchel fel petai'n sefyll drws nesaf i chi, le bynnag yr oedd e mewn gwirionedd.
Roedd nifer o'r chwaraewyr yn derbyn chwip tafod wrth y dorf hefyd - y gwrthwynebwyr yn chwarae'n frwnt, neu chwaraewyr gartre'n neud camgymeriad. Hedd, perffaith hedd oedd, fodd bynnag, pan ymgeisiai unrhyw dîm gic at gôl. Roedd chwarae teg yn bwysig i'r dorf ar y Tanner Banc, fel byddai canmol rhediad neu gais gwych, a chanu anthem y tîm: Sosban Fach.
Roedd y gemau min nos- fel arfer ar nos Wener ond yn aml ar nos Fawrth ar ddechrau a diwedd y tymor- yn fwy o achlysur i mi. Roedd awyrgylch trydannol wrth wylio rhai o chwaraewyr a thimoedd gorau Ewrop ar Barc y Strade.... ac enwau'r timoedd yn y Gymraeg ar sgôrfwrdd nodweddiadol y Strade, yn gorucwhylio'r digwyddiadau o'r banc ar Town End y cae. Picwns Llundain oedd un o'r cyfieithiadau mwyaf diddorol - er ei fod yn llenyddol gywir, fel y 'Was-ps' adnabyddai pawb yn y dre tîm Laurence Dallalgio.
Yn wahanol i gemau bêl-droed, nid yw cefnogwyr rygbi'n cael ei arwahanu - a hir oes i hynny! Dydw i byth yn ymwybodol o unrhyw drais yn y dorf, ac mae rhannu profiadau gyda chefnogwyr o Gaerlŷr, Gaeredin, a hyd yn oed Abertawe yn rhan o brofiad Barc y Strade. Cefnogwyr go iawn, sydd yn ymwybodol o hanes, traddodiad, a brwdfrydedd gwŷr tre'r Sosban dros y bêl hirgrwn, ac yn hoff o drafod y gêm dros beint o Felin-foel wedi'r gêm.
Ymhlith y cefnogwyr mwyaf brwdfrydig oedd cefnogwyr timoedd De'r Ffrainc. Yn rownd go-gyndefynol Cwpan Ewrop 2003 yn erbyn Perpignian (pan ddistawyd Tanner Banc gyda Dafydd Jones yn derbyn carden goch ar ôl wyth munud) roedd carfan fach o'r Catalaniaid yn cystadlu o'r dechrau am wneud y stŵr mwyaf. Er mai ond ryw 300 ohonynt oedd yna, roeddent yn swnio fel petai deg gwaith fwy ohonynt!
Felly hefyd y Basgiaid a ddaeth y flwyddyn ganlynol i gefnogi Biarritz Olympique. Roedd yna fand pres gyda'r cefnogwyr yn chwarae drwy gydol y gêm, heb gymeryd saib, na cholli egni chwaith. Yn sicr mae yna wers i ddysgu wrth y cefnogwyr hyn!
Yr unig gêm rwy'n cofio oedd yn eithriad i'r carnifal hyn a gafwyd yn y Cynghrair Celtaidd rhwng Llanelli ac Abertawe ar nos Fawrth, Medi'r 11eg 2001, pan roedd tawelwch od dros y dorf. Yn hytrach na thrafod newyddion rygbi, a chymharu cryfderau chwaraewyr, y digwyddiadau erchyll yn Efrog Newydd roedd pawb yn sôn amdanynt. Fawr o sylw a roddwyd i'r gêm: roedd fel petai i bobl fynd i geisio gadael bywyd i fynd yn ei flaen, ond yn gwneud hynny mewn math o wacter anesboniadwy: eu calonnau a'u meddyliau yn bell o'r Strade.
Wedi elwch y gêm- a'r dathlu priodol - fyddai dim yn well na mynd yn ôl i dŷ Mam-gu i drafod a dadansoddi'r gêm a'i heiliadau allweddol ar y ffordd. Fel pawb arall ar Danner Banc, pwndit amaturaidd yr oeddwn. Wedi cyrraedd tŷ Mam-gu swper ôl gêm annodweddiadol o goco a theisen fyddai'n ein disgwyl o flaen y tân ar ôl yr oerfel neu'r glaw tu allan.
Yna'r siwrne nôl at Gwmtawe, gan basio'r Strade tawel, tywyll a oedd yn wrthgyferbyniad pur i'r ffair liwgar ychydig oriau'n gynt, i baratoi am ysgol fore trannoeth ac i frolio yn llwyddiant y Sgarlad (gan amlaf).
Rhys Jones
Haf 2006