Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llandeilo
Gwyn y Gof, llun trwy garedigrwydd Hywel Jones. Gwyn y Gof
Portread o un o hen gymeriadau pentref Cwmdu, Gwyn y Gof, yng ngeiriau ei fab, Hywel Jones.
  • Gwyn y Gof wrth ei waith

    Dechreuodd Gwyn y Gof ei yrfa fel gof yn ôl ar ddechrau y 1920au gyda'i frawd Dafydd (a oedd yn of yn y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd maint y ceffylau a ddefnyddiwyd,) a'i dad Evan Gof.

    Crefftwr medrus, canwr da, chyfansoddwr penillion, a chymeriad hoffus, unigryw oedd Gwyn y Gof. Medrai drin traed ceffylau a da yn ogystal â'u pedoli. Uchafbwynt iddo oedd pedoli buwch i'r diweddar Vincent Davies Glanyrafonddu Isaf ar ddechrau'r 1960au a gafodd ei ffilmio gan deledu Â鶹ԼÅÄ Cymru fel rhan o raglen ddogfen am "Banc yr Eidon Du".

    Medrai fy nhad droi ei law at atgyweirio a thrawsnewid nifer o wahanol beiriannau fferm, yn enwedig yn y cyfnod o ddiwedd oes y ceffylau at oes y tractor, trwy ddefnyddio cylchau olwyn cert i wneud bachyn i dynnu cert ac olwyn teiars tu ôl y tractor. Meddiannol ydoedd ar gorff hynod o ran nerth ac yn ystod yr helynt i ddiflaniad Sykut, y Pwyl o fferm Cefn Hendre yn 1953, portreadwyd Gwyn Y Gof gan un o bapurau newydd Lloegr fel "The Srong Man Of Cwmdu". (Gweler fwy am hanes y diflaniad yma.)

    Dyma enghraifft o'i gryfder. Aeth i arwerthiant gefail yn Abergorlech. Prynodd lawer o offer ac yn eu plith hen ffwrn wal. Wedi'r arwerthiant aeth i'r Black Lion i gwrdd â hen gyfeillion ac yn ystod y sgwrsio dyma rai yn betio cyfanswm o dair punt na allai "Gwyn y Gof "gario y ffwrn adref ar ei gefn.

    Cafodd gymorth y diweddar Jim Price brodor o Abergorlech, a ffwrdd ag ef adref. O gofio i bobl ei ddisgrifio yn gawr nid rhyfedd iddo gyrraedd adref fore drannoeth a'r ffwrn ar ei gefn ac ennill y dair bunt a hynny y swm a dalwyd ganddo am yr holl offer a brynodd . Roedd £3 yn werth llawer o arian ar ddiwedd y 1950au.

    Pan ddaeth yr oes ceffylau i ben arall gyfeiriodd i wneud clwydi haearn allan o olwynion certi a'u cario adre' ar ei gefn o Gwmdu i ble bynnag yr oedd yr archeb yn y plwyf. Clywais Brenda James gynt o Blaenant, Talyllychau (sydd bellach yn byw yn Rhydaman) yn adrodd yr hanes fod "Gwyn y Gof wedi cyrraedd clôs y fferm am hanner awr wedi wyth y bore a'r glwyd ar ei gefn," taith o tua 4 milltir o Gwmdu. Gwnaeth ei mam frecwast iddo, cyn cychwyn yn ôl ar y daith adref ac i gyflawni diwrnod arall dyfal o waith yn yr efail. Pris y glwyd, yn cynnwys cludiant, oedd dwy bunt a chweugain.


    Gweithiodd yn galed gydol ei oes, rhy galed yn ôl rhai ohonom gan iddo farw yn 1968 yn gymharol ifanc yn 61 mlwydd oed.

    Gan Hywel Jones.

  • Hen luniau Cwmdu
  • 'Cofio slawer dydd' gan Brenda James

  • Cyfrannwch

    Siw Harston o Laleham
    Roedd Anne yn helpu ei Wncwl Gwyn yr un pryd a fi! Roedd Anne a fi'n ffrindiau yn yr ysgol ac dw i wedi colli cysylltiad gyda hi ers y saithdegau. Mae hi'n cofio fi fel Susan Price o'r Maerdy.
    Thu Feb 28 23:46:02 2008

    Anne Ormson (neice of Gwyn y gof
    Odd rhaid i fi ddysgu Cymraeg pan does i fyw yn Cwmdu.

    (Cyfieithwyd gweddill y neges hon i'r Gymraeg ar gyfer y wefan hon.) Trof i'r Saesneg am weddill y neges, ac yn ymddiheuro am hynny. Helpais Wncwl Gwyn gyda'r meginau, ac mae gennyf atgofion tebyg; swn ergydion yr eingion yn atseinio trwy'r pentref; o fy nhad Tom Morgan yn pladuro gyda Wncwl Gwyn. Un atgof parhaus yw o Wncwl Gwyn yn gofyn am fowlen. Byddai'n cael caseg i mewn i'w phedoli, yn godro ac yfed y llaeth. Diolch Cwmdu am atgofion arbennig .Anne Ormson [nee Morgan Penyrheolwen].


    Wed Feb 20 22:49:23 2008

    Siw Harston o Laleham
    Mae gyda fi cofion cynnes iawn am Gwyn y Gof o Gwmdu. Pan o'n ni'n blentyn yn mynd i'r ysgol yn y pentref yn y chwedegau byddai Gwyn yn gadael i fi a'r plant eraill helpu e wrth gweithio'r belws yn yr efail. Roedd e wastad yn croesawgar i ni'r plant amser cinio pan o'n ni'n cael caniatâd i fynd i'r pentref. Roedd neb wedi clywed am iechyd a diogelwch y dyddiau hynny ac ron ni gyd yn elwa o'r profiad bythgofiadwy o helpu yn yr efail. Mae rhyw gof 'da fi hefyd o'i lais cryf yn canu wrth fynd ymlaen a'i waith. Dw i'n cofio iddo wneud olwyn fach i fi a'm mrawd. Y cof mwya' ydy edrych arno fe'n gwneud pedolau a pedoli rhyw farch neu gaseg un o'r ffermwyr lleol. Cofion da.
    Mon Feb 4 22:29:26 2008


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Trefi
    Radio Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý