Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Abertawe
Y Parchedig Eirian Wyn Llais Cymraeg y Liberty
Faint ohonoch chi sy'n mynd i wylio gemau'r Elyrch ar faes Liberty yn Abertawe a wedi sylwi ar y sylwadau Cymraeg dros yr uchel seinydd yn y stadiwm newydd? Un o ffans pennaf y tîm, y Parchedig Eirian Wyn yw'r wyneb tu ôl y llais.
Llais Cymraeg Liberty
"Dim ond ers i'r stadiwm newydd agor rydw i wedi bod yn lais ar y system sain yn gemau cartref yr Elyrch. R'on i'n gefnogwr yn y Fetch, pob gêm gatre ers blynyddoedd mawr. Ond digwydd bod y gêm gyntaf yn Liberty, wedes i wrth cwpwl o fois bydde fe'n neis i glywed Cwmrag yn y stadiwm newydd a r'on i'n ddigon ewn i fynd lan at y trefnwyr a chynnig fy ngwasanaeth yn rhad ac am ddim, a medden nhw "ie pam lai." A byth oddi ar 'ny rydw i wedi bod yn croesawu pawb yn Gwmrag a dweud ambell i hysbys cyn i'r gêm ddechrau. Mae'r ymateb wedi bod yn arbennig.

"Ma rhaid i fi ddweud bo fi ddim yn lico clywed llais yn unan, wi byth yn gwrando ar y rhaglen sydd gen i ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru bob dydd Sul - Parch, ond mae pobl eraill yn dweud bod gen i lais hawdd i wrando arno. Mae'n fraint cael neud hyn yn Liberty felly rwy'n gorfod derbyn ei glywed e ar y cae!

"Beth sy'n wefreiddiol yw, mae miloedd ar filoedd o bobl fel arfer ddim yn clywed y Gymrag, a pan mae timoedd fel Southend neu Colchester yn dod lawr i Liberty maen nhw yn puzzlan beth yw'r iaith 'na? Ac yn hapus i glywed yr iaith hefyd. Sneb wedi dweud gair yn erbyn e, maen nhw yn ymfalchïo. Mae'r Cymry di-Gymrag yn dod lan ata i, sy'n gwbod mai fi yw'r llais, yn dweud "I don't understand it, but it's nice to hear it."

Tu mewn Stadiwm Liberty"Rwy'n ffan o'r Elyrch ers yn grwt ifanc, ond rwy'n cofio dechre yn y Weinidogaeth yn 1975, r'on i'n weinidog yn sir Benfro, teithio o Grymych i Abertawe ar y motobeic i bob gêm gartref. Rwy'n dipyn o ffan ers hynny. Heb os nac onibai mae Stadiwm y Liberty yn le gwych. Piti bod e ddim yn fwy, mae'n dal 20 mil o bobol ond ar gyfartaledd mae 14 neu 15 mil yn dod i bob gêm yr Elyrch a pan fydd y timoedd eraill yn dod â mwy o gefnogwyr, bydd y lle yn rhy fach.

Trefn y diwrnod
Rwy wastad yn cyrraedd yn gynnar ac yn mynd i'r bwyty gyferbyn â'r Stadiwm i gael bwyd Eidalaidd cyn pob gêm gartre. Wedyn rwy'n mynd draw i'r stadiwm rhyw awr cyn y gêm. Rwy'n cael sêt, ond weda i ddim bo fi'n cael y sêt gorau! Erbyn hyn mae'r Gymrag i'w chlywed jyst cyn i'r gêm ddechrau lle o'r blaen byddai'r Gymraeg i'w chlywed ond pan oedd pobl heb gyrraedd neu yn mynd i brynu byrger neu rywbeth.

Yr Elyrch: cefnogol i'r Gymraeg
Mae'n rhaid canmol yr Elyrch am fod mor gefnogol. Erbyn hyn hefyd mae tudalen Gymrag yn y rhaglen swyddogol. Ac os yw rhywun am gyfrannu iddi, allan nhw e-bostio fi ar eirian.wyn@ntlworld.com - gall unrhyw un gyfrannu ac anfon llun digidol hefyd. Sdim gwahaniaeth am sgwennu fe'n Gymrag alla i gyfieithu fe os yw rhywun am sgwennu yn Saesneg.

Eirian Wyn ac Owain Tudur Jones ar fws Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006Cymro Cymraeg
Mae un Cymro Cymrag yn chware i'r Elyrch - Gog yw e - Owain Tudur Jones, mae'n wastad yn neis i glywed e'n rhoi cyfweliad Cymraeg i Radio Cymru a wedyn yn Saesneg i Radio Wales. Mae'n perthyn i'r actor Gwyn Elfyn sy'n chwarae Denzil ar Pobol y Cwm.

Mae'r cerddor Karl Jenkins yn ffan a wedi bod lawr i wylio'r Elyrch hefyd.

Gemau o adref
Mae cefnogwyr Abertawe yn dda am fynd i gemau bant hefyd. Dw i ddim di bod bant yn gwylio'r gemau achos fi'n pregethu ar y Sul, bydden i'n shattered yn mynd i oedfa 10.30am ar ôl bod i ffwrdd! Ond rwy'n gwrando ar bob gêm ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru neu ar opt out Â鶹ԼÅÄ Radio Wales. Wedi dweud hynny fe fues i bant i weld Hartlepool. Wnes i'r Great North Run i gasglu arian a daeth criw teledu lan i ffilmio fi'n rhedeg a wedes i wrthyn nhw bo ni'n mynd i fynd draw i weld yr Elyrch yn chwarae, felly daeth criw Tinopolis da fi!"

  • Cliciwch yma i weld rhai lluniau o Stadiwm y Liberty. Oes gennych chi luniau? Anfonwch nhw aton ni!

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Bws Â鶹ԼÅÄ Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý