Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mared Davies, Nia Tudor a Emma Sullivan o flynyddoedd 9 a 10 Ysgol Maes Yr Yrfa, Cefneithin Profiadau'r cast
Dyma beth sydd gan rhai aelodau o gast sioe Gymraeg Les Miserables i'w ddweud am y profiad o fod yn rhan o sioe unigryw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar Fai 31 a Mehefin 1, 2005.
Mae Mared Davies, Nia Tudor a Emma Sullivan o flynyddoedd 9 a 10 Ysgol Maes Yr Yrfa, Cefneithin wrth eu bodd o gael y cyfle i berfformio mewn sioe Gymraeg unigryw fel hon:

"Rydyn ni'n ymarfer ar benwythnosau a dros wyliau'r Pasg, a mae'n lot o sbort achos r'yn ni'n cael aros yng Ngwersyll yr Urdd yn y bae yng Nghaerdydd, a fel 'na ni'n gallu gwneud lot mwy o ffrindiau.

"Rydw i mo'yn mynd mewn i fyd y ddrama, felly mae hwn yn brofiad da iawn i fi," meddai Nia Tudor.

Mared Davies:
"Gafon ni'r clyweliad cyntaf yn Ysgol Bro Myrddin, wedyn disgwyl clywed ac yna ail glyweliad yng Nghanolfan y Mileniwm. O'n i'n excited iawn ond yn poeni yr un pryd, achos oedd fy ffrindiau wedi cael llythyr i ddweud bo nhw wedi cael lle yn y cast cyn fi!"

Rhodri Davies a Dani Davies - dau o'r prif gymeriadau
Rhodri Davies a Dani Davies Mae Dani Davies sy'n 17 oed o Ysgol Gyfun y Cymer a Rhodri Davies o Goleg y Drindod, Caerfyrddin eisoes wedi cael profiad o berfformio. Mae Dani wedi bod yn aelod o 'Spotlight Theatre Company' ers blynyddoedd ac yn gobeithio astudio drama yn y brifysgol gan fynd ymlaen i actio yn broffesiynol.

Mae Rhodri hefyd wedi cael blas o berfformio ag yntau yn aelod o Theatr Ieuenctid Cwm Gwendraeth.

"Rydw i wedi mwynhau y profiad o gyfarfod pobl o wahanol rannau o Gymru," meddai Rhodri."Mae'n grêt cael y cyfle i berfformio sioe gerdd mor enwog yn y Gymraeg, a'r perfformiad cyntaf ohono yn y Gymraeg."

"Mae'r sioe gerdd yn adlewyrchu y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg yn y theatr," meddai Dani

  • Darllenwch Adolygiad o'r sioe

  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r cast yn ymarfer
  • Darllenwch gyfweliad gyda Carys Edwards, un o gyfarwyddwyr y sioe gerdd.


  • Cyfrannwch

    Lisa Thomas o Nantycaws
    Roedd y sioe yn WYCH. Perfformiad gwefreiddiol gan SION IFAN. Wedi ei fwynhau yn fawr iawn.

    Rachel, Caerdydd
    A oes copi o'r sioe Gymraeg Les Miserables yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar werth. Roedd y sioe yn ffantastic a dwi am brynu copi. Gan: rachelandianr@aol.com


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Caerdydd
    Eisteddfodau
    Lluniau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý