Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Eglwys Teilo Sant Amgueddfa'n dathlu pen-blwydd
Mae'n 60 mlynedd ers i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan agor ei drysau i'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Fel rhan o'r dathliadau ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2008, bu curadurion a staff o'r adran gadwraeth yn egluro'r gwaith sy'n digwydd tu ôl i'r llenni'n dehongli a gofalu am yr adeiladau hanesyddol a'u cynnwys. Hefyd bu'r adeiladwyr yn cael cyfle prin i orffwyso er mwyn siarad am eu gwaith yno ac roedd siawns i ymwelwyr glywed mwy am gynlluniau'r amgueddfa ar gyfer y dyfodol.

Agorodd yr amgueddfa yng Nghaerdydd ar 1 Gorffennaf 1948 ac erbyn hyn mae'n un o brif amgueddfeydd awyr agored y byd. Saif yr amgueddfa ar dir Castell Sain Ffagan, plasty sy'n dyddio o ddiwedd y 16 ganrif.

Fe'i rhoddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth a bellach mae dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol i'w gweld ar y 100 erw o dir. Adeilad diweddaraf yr amgueddfa yw eglwys ganoloesol Teilo Sant a gafodd ei hagor gan Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams yn Hydref 2007.

  • Cliciwch yma i weld lluniau ac i ddarllen fwy am yr Eglwys hon ac am yr agoriad yn Hydref 2007.

    Tolldy "Mae'r dathliadau pen-blwydd yn gyfle gwych i'r cyhoedd gael siarad gyda gweithwyr yr amgueddfa ac i wybod mwy am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Sain Ffagan," meddai cyfarwyddwr yr amgueddfa, John Williams-Davies.

    "Bydd yn gyfle i ni hefyd allu dangos y sgiliau sydd gennym yn yr amgueddfa werin a byddwn yn holi ymwelwyr am yr hyn yr hoffent hwy ei weld yn Sain Ffagan yn y dyfodol."

    Dros y degawd nesaf bydd yr amgueddfa yn cael ei thrawsnewid i fod y lle i adrodd hanes pobloedd Cymru o'r amseroedd cynharaf hyd at heddiw. Cymerwyd y cam cyntaf yn y broses hon y llynedd gydag agoriad Oriel 1, oriel sy'n edrych ar hunaniaeth.

    Llynedd oedd blwyddyn brysuraf erioed Sain Ffagan gyda 642,289 o ymwelwyr. Mae wedi derbyn llu o wobrau, o dlws arbennig am ddifyrru ymwelwyr gan Awdurdod Ymwelwyr Prydain 20 mlynedd yn ôl, i wobr fwy diweddar gan Fwrdd Croeso Cymru am fod y profiad ymwelwyr gorau.

  • Bu Hywel a Nia'n darlledu'n fyw o'r Amgueddfa ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf, 2008. Cliciwch yma i wrando ar y rhaglen eto (tan ddydd Mawrth, 8 Gorffennaf, 2008.
  • Mwy am ben-blwydd Sain Ffagan yn 60


  • Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý