Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Sara Huws Dyddiadur Sara Huws: Medi - Hydref 2007
Dyddiadur mis Medi a Hydref 2007 Sara Huws, Dehonglydd Eglwys Teilo Sant yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
  • Dyddiadur Ionawr - Hydref 2007 a lluniau or Eglwys

    Hydref 24, 2007

    Pnawn da! Welsoch chi hi te? Does dim lle i'w droi 'di bod ers agoriad yr eglwys - mae hi ym mhobman! Yn ogystal â'r diddordeb yn y cyfryngau Cymreig, cyrhaeddodd y stori amryw o'r prif bapurau Prydeinig hefyd - dewisodd y Mirror 'Lord Moved in Mysterious Way' fel pennawd - y gorau eto!

    Roedd yr agoriad swyddogol yn fwrlwm o gamerau, newyddiadurwyr a phwysigion. Ond, chware teg, fe wnaethom ni job iawn o'u cadw nhw i gyd yn hapus - cafodd y newyddiadurwyr eu 'siots', a'n amryw gynrychiolwyr eu cyfle i draddodi. Roedd rhestr hir o bobl i'w diolch - nid ar chware bach mae symud Eglwys ac roedd hi'n werth gweld y tîm adeiladu yn eu civvies, yn wên o glust i glust, yn ystod y seremoni. Gallwch weld Ray Smith, ein prif saer, yn cael sgwrs â'r Archesgob yn y galeri luniau yma.

    Nawr bod y gwaith adeiladu ar ben fe fydd cwmpeini'r bois yn brin. Fe fyddan nhw'n mynd ymlaen 'nawr i baratoi at ail-godi'n prosiect nesaf - tÅ· carreg, canoloesol, o Hwlffordd. Mae dipyn yn llai 'na'r eglwys, ond mae'n cael ei adeiladu i fewn i ochr bryn! Sialens arall, felly, i'r crefftwyr...

    Bu'r dathlu yng nghwmpeini trigolion Pontarddulais yn hyfryd - dwi'n gobeithio y cafodd pawb gyfle i fusnesa rownd yr 'Hen Eglwys' newydd, a digon o gacennau cri Amgueddfa Cymru, hefyd. Roedd y sylwadau a adawyd yn y llyfr ymwelwyr yn galonnog i gyd - gobeithio'n wir y bydd addolwyr Eglwys Teilo Sant (newydd) yn ymweld â ni eto cyn diwrnod Teilo ym mis Chwefror. Cliciwch yma i weld lluniau o bobl Pontarddulais a chlywed eu barn am yr Eglwys yn ei chartref newydd yn Sain Ffagan.

    Byddwn yn cadw'r adeilad ar agor yn ystod ein nosweithiau 'Coeden Nadolig' fis Rhagfyr, ond yn osgoi'r gwasanaeth carolau fictoriaidd, ac yn creu naws fwy hynafol, fwy llonnydd yno: yn noddfa o'r tinsel, siopa a'r bandie pres! Edrych ymlaen, wedyn, at y Pasg: amser pwysicaf y flwyddyn gristnogol - yn enwedig yn oes y Tuduriaid. Yn wir, bydd yr eglwys yn cael ei defnyddio ar gyfer llawer o weithgareddau - ac mae croeso i chi drefnu taith neu sgwrs drwy gysylltu â mi, yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

    Dw inne di bod yn brysur yn ceisio cydbwyso pethe - mae cymaint o ymwelwyr wedi dod draw yn barod, gyda nifer o sgyrsiau a theithiau ar y gweill. Ffeindio'r amser i wneud pob dim, wrth gwrs, yw'r rhwystr fel arfer - yn enwedig gan fod haul cynnes ac aer oer yr Hydref wastad 'di'n neud i deimlo'n reit laid back!

    Fe fyddai'n troi fy ngolygon yn awr at geisio gwella gwefan swyddogol yr eglwys - cadwch lygad arno am bodlediadau (ffilms bach neis o'r eglwys, i'r rhai ohonoch sy'n llai rhugl yng Nghymraeg y Rhithfro...), gweithgareddau, newyddion ac adnoddau i rieni ac athrawon. Mae gen i dipyn o waith o fy mlaen eto felly!

    Bydd y dyddiadur hwn yn arafu go dipyn o 'nawr ymlaen - ond cofiwch gael pip yma, neu ar wefan yr amgueddfa, i weld y gwaith diweddara' - cofiwch, er ein bod ni wedi agor, mae dipyn go lew o waith peintio ac addurno i'w wneud eto!

    Gobeithio i chi fwynhau clywed am daith yr eglwys dros y flwyddyn ddiwethaf - diolch am ddarllen a hwyl am y tro!


    Hydref 12, 2007

    Mae'r trefniadau'n dod i ben nawr - ry'n ni'n ceisio cael y manion bethau'n iawn ac yn disgwyl nawr am ein bysus o Bontarddulais. Mae tua tri chant o bobl yn dod, rhai ohonynt i wasanaeth, eraill i gael cip ar yr adeilad. Dwi'n gobeithio y cân nhw amser da gyda ni - a bod tu fewn yr eglwys ddim yn peri gormod o sioc a llewyg! Rhaid derbyn fod y lle'n wahanol iawn nawr i sut mae'r rhan fwya'n ei chofio - ond roedd y darluniau 'dyn ni wedi'u copïo'n ôl yno drwy'r adeg, yn cuddio dan y plastr. Byddai'n ddelfrydol i mi petai'r trigolion (neu rai ohonynt, oleia!) yn gadael ar ddiwedd y dydd fory yn teimlo mae'u hanes nhw sydd wedi'i gadw, ei ail-greu, ei arddangos. Cawn weld - sdim plesio pawb ond allwn ni drio!

    Bydd y brif seremoni, ar ddydd sul, 14 Hydref 2007 yn fater llawer iawn mwy ffurfiol - gobeithio y gallai ddod â chofnod fer i chi o'r pasiant i gyd.

    Bydd yn gyfnod gwahanol 'nawr ar ôl yr agoriad - mi fyddai'n parhau i roi blas i chi ar ddigwyddiadau a hanesion yr adeilad, am 'chydig o leia'. Tan hynny, dwi am fynd i swatio'n gynnar, i mi gael bod ar fy ngorau fory - nid brysio'n ôl i dapio'r rhaglenni Newyddion fyddai go iawn...


    Hydref 11, 2007

    Pnawn prysur arall heddiw yn Sain Ffagan - dwi newydd ddychwelyd o ddarlith a thaith diddorol yng nghwmni Dr John Morgan Guy. Fy ail daith i'r eglwys heddiw - roedd rhaid mynd i drio'r thiruble newydd. Thiruble yw'r enw ar y cawg o arogldarth, neu incense, sy'n cael ei swingio 'nôl a mlaen mewn eglwys. Er mwyn creu naws ganoloesol, dy'n ninnau'n llosgi canhwyllau cwyr gwenyn a thus yn yr adeilad (ac hefyd yn y marquee dyn ni 'di'i hurio, ond am ei fod e'n arogli fel steddfod stêl fwy na dim!) Mae angen perffeithio'r dechneg o swingio'r cawg heb golli golosg dros y lle - ac maen debyg fod rhai yn credu na ddylai merched gael gwneud o gwbl!

    Mae'r eglwys wedi'i chlirio 'nawr, ac mae'n adran gadwraeth 'di bod yn gosod rhai o ddodrefn y casgliad yn eu lle. Mae rhai o ddarnau mwyaf hynafol y casgliad yn cael eu rhoi yn y gangell, gan gynnwys dwy fainc sy'n dyddio 'nôl i'r 13/14eg ganrif.

    Mae cist dderw, a fyddai wedi'i defnyddio i ddal gwisgoedd, canhwyllau a chyfarpar cyffredinol yr eglwys, wedi'i gosod yng nghapel y gogledd. Mae honno wedi cael gymaint o waith 'cadwriaethol' wedi'i wneud arni yn oes fictoria bod y pren yn llawn cemegion a llenwadau. Mae'n saff, ond mae'r cemegion sydd 'di suddo mewn i'r pren yn ei gwneud yn llawer iawn trymach na'ch cist arferol - roedd hi mor drwm nes bod rhaid defnyddio cyfarpar yr adeiladwyr: mae'n pwyso dros 500kg: sy'n gwneud i'n bedyddfaen - 140kg - ymddangos fel pwyse plu!

    Wel, mi geisia i roi cofnod i chi yfory - yr ola', maen siwr cyn yr agoriad. Mae gymaint i'w weld ar hyn o bryd, a naws hydrefol yr amgueddfa yn rhoi rhin ramantus ar y cyfan - gobeithio y gwelai chi yn y cnawd ar ôl dydd Llun hefyd!

  • Lluniau diweddaraf o'r Eglwys (Hydref 2007)

    Hydref 2, 2007

    Am ddiwrnod prysur! Y gof, peintwyr, murlunwyr, seiri coed a maen, curaduron, cerfwyr, ffotograffwyr - yng nghanol 'rhein i gyd, ro'n i'n teimlo braidd yn segur! O fod wedi treulio dros flwyddyn gyda'r adeilad erbyn hyn, rhaid cyfadde fod fy sgiliau crefftwaith bron yr un mor llwm ag oedden nhw pan ddechrues i (heblaw am weu - ges i fynd ar raglen 'Hywel a Nia' ar Radio Cymru i sôn am hynny rhyw fis yn ôl!).

    Dwi'n gallu esbonio'n glir sut mae rhoi to newydd at ei gilydd, peintio murlun neu danio croes o efydd, ond eto'i gyd, dim syniad sut i fynd ati! Mae'n demtasiwn weithiau, pan fydd ymwelwyr yn gofyn 'Did you paint all this then?' i gymryd peth o'r clod, er na fyddwn i'n meiddio go iawn.

    Cyrrhaeddodd bedwar cerflun ddoe - mae Teilo a'r Fair wedi dychwelyd wedi'u peintio ac mae Ioan yr Efengylwr a cherflun arall o Fair newydd gyrraedd. Maent mewn steil reit wahanol i'r cerfluniau wedi'u peintio - sydd yn steil y 14eg ganrif - a gellir gweld ôl dwy law reit wahanol arnynt. Ein bwriad yw peintio'r rheiny hefyd, cyn eu gosod ar ben y Groglofft.

    Mae Mair ac Ioan yn ddwy draean o'r 'Gros Fendigaid', neu'r holy Rood - Iesu ar y groes fydd yn cwblhau'r grŵp a bydd y tri yn ganolbwynt gweledol yn yr eglwys. Dyn ni'n dal i aros am Iesu i gyrraedd (dwi'm yn trïo bod yn gellweirus, mae'n wir - mae'r cerflun yn hwyr!), a gobeithio y gallwn ei osod yn ei le ar gyfer yr agoriad.

    Wrth sôn am hynny - cadwch lygad ar y blog yn ystod amser yr agoriad am luniau a straeon. Dyn ni'n disgwyl nifer fawr o bobl - dipyn o'r rheiny wedi'u hatynnu gan y cyfle i weld Archesgob Caer-gaint yn y cnawd - a'r lliain: efallai eu bod yn gweld yr achlysur fel homecoming i'r llanc o Abertawe nath yn "olreit iddo'i hun"! Pa bynnag fydd maint y dorf, fydda i yno - o'n i bron a gweud yn y 'set flaen', ond bydd dim meinciau o'r fath yn yr eglwys: felly, fyddai rywle yn y rhengoedd yn cadw llygad ar bethau!

    Tan tro nesa


    Medi 18, 2007

    Cofnod bach byr yr wythnos hon - gan obeithio y gallai ddod â newyddion ichi o faes y gad (yn llythrennol - mae safle'r eglwys dafliad carreg o le oedd brwydr fawr Sain Ffagan ym 1648) yn rheolaidd nawr tan yr agoriad swyddogol mis nesa'.

    Dwi'n siwr y bydd y lluniau dwi'n eu hamgàu efo'r cofnod hwn o ddiddordeb - lluniau o liwie llachar, aur, arian, a'n criw o grefftwyr golygus wrth eu gwaith. Cliciwch yma i weld y lluniau.

    Dwi'n llon heddiw o gael copi blaen-llaw o lyfr newydd yr eglwys ar fy nesg - llyfr llawn lluniau a ffeithiau diddorol am daith eglwys Teilo Sant i Sain Ffagan o'i chartre' gwreiddiol ym Mhontarddulais. Bydd ar gael, mae'n siŵr, yn siopau'r amgueddfa o fis nesaf ymlaen.

    Dilema'r wythnos, nawr, yw penderfynu beth i'w wisgo ar gyfer y seremoni agoriadol - ydwi'n mynd fel morwyn Tuduraidd (mae'r wisg dal gen i yng nghefn y cwpwrdd...), neu fel dehonglydd 21 ganrif?

    O'n i'n darllen dros y penwythnos mewn cylchgrawn ffasiwn (nid dim on 'sgrythur dwi'n ei ddarllen 'chwel) fod 'episcopalian purple' yn un o'r lliwiau allweddol ar gyfer wardrob hydrefol pob fashionista - dwi'm isio i nillad i ragori'n fwy disglair na rhai'r Archesgob felly pwyll piau hi, efallai!


    Medi 5, 2007

    Pnawn da o Sain Ffagan! Mae'r 'tymor uchel' bron ar ben, ond dim ond dechre prysuro mae safle'r eglwys. O'i chwmpas, mae gwaith tirlunio yn mynd yn ei flaen. Rhaid dilyn canllawiau iechyd a diogelwch cadarn - dwi'n falch iawn fod y swydd o ddewis y graean i'r llwybr yn un sydd uwch fy mhen i.

    Oddi fewn, mae gynno ni waith plastro mân, un darlun i'w gwblhau, cwpwl o batrymau i'w peintio a thair ffenestr i'w gosod.

    Mae gwydr y ffenestri wedi'i bobi a'i osod yn siâp y ffram - y cwbl sydd ar ôl i'w wneud yw eu gwasgu gan bwyll bach i fewn i'r adwy! Soniodd Alun Adams, ein arbenigwr gwydr o Abertawe, fod ffenestr ddwyreiniol yr adeilad am gael ei haddurno. Mae llawer yn gofyn pam nad oes ffenestri lliw yn yr eglwys (mewn gwirionedd, maen nhw wedi'u lliwio, ond yn gynnil iawn - rhaid gwasgu dy drwyn arno*, bron, i weld y lliw!) - a nawr bydd symbolau'r croeshoelio'n disgleirio mewn gwydr aur yn amlwg i bawb ei weld!

    Un nodyn bach (cymharol) gyffrous (dwi ddim wedi ennill y loteri na dim felly...) - daeth ffotograffau o gerflun drwodd heddiw gan Emyr Hughes, meistr-gerfiwr o Lanrwst.

    Does dim un cerflun canol-oesol o Teilo yn bodoli yng Nghymru - yn lwcus, mae'r Llydawyr (sy'n aml yn llawer gwell 'na ni'r Cymry am gadw chwedlau'r seintiau yn fyw ...) yn berchen ar rai ohonyn nhw. O sbïo ar rheiny, mae'n anodd gwybod ai carw, ceffyl neu shetland pony y 'mae Teilo yn ei farchogaeth, ond maen nhw'n esiamplau gwell na'r rhai Cymraeg - am resymau amlwg!

    CerflunTa waeth, yn fuan ar ôl cerfio Mair a'r Baban Iesu, mae Emyr Hughes wedi cynllunio a cherfio Teilo ar ei garw. Dwi'n atodi llun ohono i chi gael ei weld - cofiwch, bydd y cerflun gorffenedig yn baent llachar i gyd!

    Rhaid i fi fynd rŵan - dyw seremoni agoriadol eglwys ganol oesol fodern ddim yn trefnu'i hunan!

    * am resymau cadwriaethol, rydym ni'n gwahardd ymwelwyr rhag rwbio'u trwynau yn erbyn unryw ran o'r casgliad cenedlaethol ...

    Nodyn Pwysig: Bydd adeilad yr Eglwys wedi'i gau o bryd i'w gilydd yn ystod y mis nesaf yn arwain at yr agoriad, i'r gwaith uchod gael ei gwblhau. Byddai'n well ffonio o flaen llaw os ydych chi eisie ymweld - neu'n well fyth dewch i ymweld ar ôl Hydref 15 i weld y lle yn ei ogoniant!"


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý