Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Eglwys Teilo Sant yn yr eira Diwrnod cofio Teilo Sant
Cafwyd dathliad blynyddol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i nodi Diwrnod Teilo Sant ar Chwefror 9, 2007.
  • Lluniau o'r digwyddiad

    Symudwyd Eglwys Sant Teilo i'r Amgueddfa fesul carreg, o'i chartref ar orlifdir Afon Llwchwr ger Pontarddulais ac fe'i hagorir yn swyddogol yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 2007 - un o brif ddigwyddiadau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru.

    Felly ag ond wyth mis yn weddill, roedd y digwyddiad yn roi cyfle i ymwelwyr i werthfawrogi'r datblygiadau diweddaraf i'r adeilad; y saernïaeth medrus i greu lloft a sgriniau wedi'u cerfio'n gain; gwaith paent gofalus gan ddefnyddio dulliau traddodiadol; a gosod ffenestri gwydr a wnaethpwyd â llaw.

    Clywodd ymwelwyr y diweddaraf am atgynyrchiadau o gyfres prin iawn o furluniau lliwgar a ddatguddiwyd ar y safle yn Llandeilo Tal-y-bont, bydd yn addurno tu mewn yr adeilad. Dangoswyd un o'r murluniau gwreiddiol yn Oriel 1, oriel newydd sbon fydd yn agor yn Sain Ffagan yn hwyrach yn y Gwanwyn.

    Yn ogystal, dadorchuddiwyd cloch newydd a greuwyd yn arbennig ar gyfer Eglwys Sant Teilo yn ystod gwasanaeth foreol a gynhaliwyd yn yr Eglwys o dan arweiniad Y Parch John Walters, Pontarddulais.

    "Am y tro cyntaf mae ymwelwyr wedi gweld o lygad y ffynnon y broses o ail-godi adeilad hanesyddol," dywedodd Gerallt Nash, Uwch Guradur, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

    "Mae nifer yn teithio o Bontarddulais, cartref wreiddiol yr Eglwys ar Ddiwrnod Teilo Sant er mwyn monitro datblygiad yr Eglwys. Dyma un o'n prosiectau mwyaf uchelgeisiol ac ar ol 15 mlynedd o ymroddiad gan y tîm sydd hefyd wedi rhannu'r broses gyda'r cyhoedd, rydyn ni'n edrych ymlaen at agoriad swyddogol Eglwys Sant Teilo yn yr Hydref."

    Cefnogir Diwrnod Teilo Sant yn Sain Ffagan gan Ymddiriedolaeth Elusennol G.C. Gibson, Ymddiriedolaeth Headley, Sefydliad Jane Hodge, Mr Desmond Perkins a Mrs Audrey Perkins.

  • Lluniau o'r digwyddiad

  • Cliciwch yma i ddarllen dyddiadur wythnosol Sara Huws sy'n gweithio fel dehonglydd Eglwys Sant Teilo yn Sain Ffagan yn sôn am ddatblygiadau diweddaraf y prosiect uchelgeisiol.

  • Lluniau o'r Eglwys

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý