Â鶹ԼÅÄ

Rhan o boster y sioe

31 Hydref 2011

Yr yda ni wedi hen arfer efo nhw mid ffîld ond bydd cyfle cyn bo hir i weld sut mae hoelion wyth pêl-droedwyr Bryncoch yn dygymod a bywyd "mid laiff".

C'mon Mid-Laiff ydi cynhyrchiad diweddaraf cwmni theatr Bara Caws a'r sioe wedi ei sgrifennu gan Bryn Fôn, yr ydym yn gyfarwydd ag ef fel Tegwyn y gôl-geidwad yn y gyfres deledu ragorol.

Ar daith sy'n cychwyn Tachwedd 15, 2011, ac yn dirwyn i ben Rhagfyr l7, mae hi bron yn 'Ddolig a George a Sandra yn disgwyl yr efeilliaid adra o'r coleg.

Wrth gwrs, mae blynyddoedd wedi mynd ers dyddiau disglair George yn streicar Bryn Coch y gyfres radio, yn gyntaf, ac wedyn y gyfres deledu C'mon Midffîld ac mae eu priodas, fel hen sgidia' pêl droed George, wedi mynd braidd yn sych a disglein.

Mae hi'n dipyn o greisus canol oed ar y ddau ond wrth i Ŵyl y baban nesáu mae yna obeithio hefyd y gall pethau wella.

Yn un o lwyddiannau prin S4C ym maes comedi sefyllfa awduron y C'mon Midffîld gwreiddiol oed Alun Ffred Jones a Mei Jones ond ar gyfer y sioe lwyfan un o gymeriadau'r gyfres wreiddiol, Bryn Fôn (Tegwyn) yw'r awdur ac ef hefyd sy'n cyfarwyddo yn ogystal ag actio.

Heb os mae troi i faes fu mor llwyddiannus mewn gwisg arall yn dipyn o gambl i Bara caws ond dywedodd Linda Brown o'r cwmni bod diddordeb mawr yn y cynhyrchiad gyda rhai perfformiadau wedi gwerthu'n llwyr yn barod.

"Oherwydd y gofyn mae'r cwmni wedi gorfod rhoddi dau berfformiad pnawn ychwanegol ymlaen, sef prynhawn Sadwrn 19 o Dachwedd 19 am 2.00 yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, a phrynhawn Sadwrn, Tachwedd 26 yn Galeri, Caernarfon," meddai Linda.

Ychwanegodd bod tocynnau Tachwedd l8, l9, 25 a 26 Rhagfyr l7 wedi mynd i gyd.

Dyma'r daith

  • Nos Fawrth 15 Tachwedd Neuadd Goffa Cricieth 7:30 Bethan Williams: 01766 523672 neu Siop D. J. Criccieth: 01766 522308.
  • Nos Fercher 16 Tachwedd Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog 7:30 Gwen Edwards 01766 830435
  • Nos Iau 17 Tachwedd Ysgol Uwchradd Llangefni 7:30 Menter Môn: 01248 725732
  • Nos Wener 18 Tachwedd Neuadd Dwyfor, Pwllheli 7:30 Swyddfa Docynnau: 01758 704088
  • Nos Sadwrn 19 Tachwedd Neuadd Dwyfor, Pwllheli 7:30 Swyddfa Docynnau: 01758 704088
  • Nos Fawrth 22 Tachwedd Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron 7:30 Swyddfa Docynnau: 01570 470697
  • Nos Fercher 23 Tachwedd Canolfan Y Banw, Llangadfan 7:30 Catrin Hughes: 01938 820594
  • Nos Iau 24 Tachwedd Neuadd Egryn, Llanegryn 7:30 Avril: 01654 711232
  • Nos Wener 25 Tachwedd Galeri, Caernarfon 7:30 Swyddfa Docynnau: 01286 685222
  • Nos Sadwrn 26 Tachwedd Galeri, Caernarfon 7:30 Swyddfa Docynnau: 01286 685222
  • Nos Fawrth 29 Tachwedd Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 7:30 Swyddfa Docynnau: 01970 623232
  • Nos Fercher 30 Tachwedd Theatr y Gromlech, Crymych 7:30 Kevin Davies: 01239 831455
  • Nos Iau 1 Rhagfyr Canolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys 7:30 Swyddfa Docynnau: 01443 219589
  • Nos Wener 2 Rhagfyr Neuadd Llanofer, Caerdydd 7:30 Glenys:07970 411697 neu'r Caban neu Swyddfa Docynnau: 02920 631144
  • Nos Sadwrn 3 Rhagfyr Neuadd Llanofer, Caerdydd 7:30 Glenys: 07970 411697 neu'r Caban neu Swyddfa Docynnau: 02920 631144
  • Nos Fawrth 6 Rhagfyr Theatr Twm o'r Nant, Dinbych 7:30 Siop Clwyd: 01745 813431 neu Gaynor Morgan Rees: 01745 812349
  • Nos Fercher 7 Rhagfyr Neuadd Ogwen, Bethesda 7:30 Fflur: Roberts: 01248 602032 neu Siop John: 01248 600251
  • Nos Iau 8 Rhagfyr Canolfan Ucheldre, Caergybi 7:30 Swyddfa Docynnau: 01407 763361
  • Nos Wener 9 Rhagfyr Theatr John Ambrose, Rhuthun 7:30 Siop Elfair: 01824 702575
  • Nos Sadwrn 10 Rhagfyr Neuadd y J. P. Prifysgol Bangor 7:30 Pontio: 01248 382828
  • Nos Fawrth Rhagfyr 13 Canolfan Bro Aled, Llansannan 7:30 Eilir Jones: 01745 870415
  • Nos Fercher Rhagfyr 14 Neuadd Betws y Coed 7:30 Tamzin Lawrence: 07828714378
  • Nos Iau Rhagfyr 15 Neuadd Buddug, Y Bala 7:30 Siop Awen Meirion: 01678 520658
  • Nos Wener Rhagfyr 16 Theatr Harlech 7:30 Swyddfa Docynnau: 01766 780667
  • Nos Sadwrn Rhagfyr 17 Neuadd Goffa Chwilog 7:30 Seimon Menai: 07816602104

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.