Â鶹ԼÅÄ

Cefin Roberts - amddiffyn Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru

Cefin Roberts

17 Tachwedd 2009

Mae Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru wedi gwrthod y beirniadu a fu ar gynhyrchiad diweddaraf y cwmni - y ddrama Tyner yw'r Lleuad heno gan Meic Povey.

Dywedodd Cefin Roberts; i'r beirniadu fu ar y cynhyrchiad gael y sylw i gyd ar draul y ganmoliaeth.

Yn siarad ar Wythnos Gwilym Owen ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru ddydd Llun, Tachwedd16 2009, dywedodd nad chafodd y goleuni llawn ei luchio ar yr ymateb â fu i'r ddrama ac i'r cynhyrchiad.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Y drafodaeth hon, rhwng Cefin Roberts, Gwilym Owen a 'r Athro Ioan Williams, cadeirydd Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru, oedd y bennod ddiweddaraf mewn trafodaeth sydd wedi parhau ers cychwyn taith Tyner yw'r Lleuad Heno ddeufis yn ôl ac a ddilynwyd ar wefan 'Cylchgrawn'.

Hwn hefyd oedd y tro cyntaf i Cefin Roberts ei hun ymateb i'r llu o sylwadau beirniadol sydd wedi eu gwneud am y cynhyrchiad penodol hwn a chyflwr y theatr Gymraeg yn gyffredinol.

Erthygl feirniadol

Penllanw'r drafodaeth fu erthygl ddamniol yn Y Cymro ddydd Gwener, Tachwedd 13 2009, gan Emyr Edwards yn bwrw golwg feirniadol ar gyflwr y theatr Gymraeg dros yr ugain mlynedd diwethaf ac y dyfynodd Gwilym Owen ohoni ar ei raglen.

Yn ddramodydd, yn feirniad ac yn un o ffigurau mwyaf blaenllaw y theatr Gymraeg dywedodd Mr Edwards ei bod yn "argyfwng" ar y theatr Gymraeg gyda "diffyg arweiniad, diffyg pobl ysbrydoledig, pobl ryfelgar, ymfflamychol a chyffrous dros achos y ddrama a'r theatr Gymraeg."

Cyfeiriodd hefyd at "anaeddfedrwydd ar lawer lefel" ac yr oedd yn hynod feirniadol o safon actio.

Er nad oedd yn cyfeirio'n benodol at gynhyrchiad diweddaraf y Theatr genedlaethol yr oedd yn amlwg bod hwnnw yng nghefn ei feddwl.

Amddiffyn y cynhyrchiad

Ac wrth drafod sylwadau Emyr Edwards a phethau eraill a ddywedwyd dros yr wythnosau diwethaf prysurodd Cefin Roberts i amddiffyn y cynhyrchiad diweddaraf er yn cydnabod nad dyma o bosib ddrama orau Meic Povey erioed.

"Fe gafwyd sawl adolygiad arbennig o dda," meddai Mr Roberts gan gyfeirio at bobl "oedd wedi adolygu'r ddrama yn ffafriol tu hwnt" .

Cydfeiriodd hefyd at noson olaf y daith yn Theatr Mwldan:

"Roedden ni'n gorffen yn Theatr Mwldan echnos a chwestiynu ag ateb ar ddiwedd y cynhyrchiad a finnau'n tybio y byddai yna ambell i gwestiwn pigon yn dod i fyny ond ynghanol y storm a'r glaw ym Mwldan . . . roedd pawb eisiau diolch i Meic am ei gyfraniad i'r theatr yng Nghymru ac wedi mwynhau yn aruthrol y cynhyrchiad," meddai.

"Felly, i ddechrau, dydw i ddim yn meddwl bod yr hyn sy'n cael ei ddweud wedi bod yn gwbl deg ar hyd y bedlam ynglÅ·n a'r cynhyrchiad yma na drama Meic wedi cael chwarae teg oherwydd hynny," ychwanegodd.

Disgrifiodd Ioan Williams ymateb y cyhoedd i'r cynhyrchiad fel un "cymysg iawn" ac ychwanegodd:

"Ond y peth pwysig yw ein bod yn cydnabod bod rhywbeth o wirionedd yn y cyflwr mae Emyr [Edwards yn Y Cymro] yn weld ar y theatr yn gyffredinol yn y Gymraeg a dwi ddim yn meddwl bod llawer ohonom ni yn mynd i anghytuno â hynny."

'Actio caboledig'

Ond fe anghytunodd Cefin Roberts â sylwadau Emyr Edwards am yr hyn a ddisgrifiodd yn Y Cymro fel "safon wamal actio ar lwyfannau proffesiynol Cymru".

"Da ni wedi cael actio caboledig ac adolygiadau yn cadarnhau hynny dros y cynyrchiadau sydd wedi bod," meddai Cefin Roberts.

Cyfeiriodd at adolygiadau yn canmol yr actio "at yr entrychion" yn Iesu! a'r un modd yn Bobi a Sami gan ddyfynnu pobl yn dweud bod yr actio "yn aruthrol o uchel" a'r un modd "perfformiadau Rhian Morgan a Betsan Llwyd yn cael eu canmol gan bob un adolygydd" yn Ty Bernarda Alba.

"Felly mae'r trac record yn gwrthddweud yr hyn sy'n cael ei ddweud yn fama," meddai.

Gan siarad yn benodol am Tywyll yw'r Lleuad Heno dywedodd:

"Dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un yn meddwl y byddai comisiynu Meic Povey i sgrifennu drama i'r Theatr Genedlaethol yn gamgymeriad" ond cyfaddefodd "dydi Meic na minnau ddim yn meddwl mai hon ydi'r ddrama orau mae o erioed wedi'i sgwennu ond dyda ni ddim chwaith yn meddwl fod hon yn ddrama sydd yn haeddu tynnu y ffasiwn sylw negyddol tuag ati pan mae yna sylw positif wedi cael ei roi hefyd iddi hi."

Ychwanegodd bod rhai o'r areithiau a'r golygfeydd yn adlewyrchiad "o sgrifennu arbennig o dda".

Y dyfodol

Soniodd hefyd am gydweithio gyda'r Eisteddfod a dywedodd Ioan Willaims ei bod yn annheg trafod problem eangach y theatr Gymraeg ar sail un cynhyrchiad unigol.

Pwysleisiodd Cefin Roberts fod y Theatr Genedlaethol ar hyn o bryd yn datblygu sgrifennu newydd a thrafod gydag awduron.

"Fedrwch chi ddim ei ddatblygu fo dros nos - mae o yn cymryd amser ond mae yna nifer o brosiectau yn y pair fel sydd gan y cwmnïau eraill yng Nghymru," meddai.

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.