Â鶹ԼÅÄ

Cwmni'r Fran Wen - Babis yr arddegau

Golygfa o'r cynhyrchiad

12 Tachwedd 2009

Cynhyrchiad am ferched ifanc yn eu harddegau yn beichiogi

Gwewyr ac argyfwng merched ifanc yn cael babis yn eu harddegau cynnar ydi testun sioe ddiweddaraf Cwmni'r Fran Wen a fydd yn perfformio yng Ngwynedd tan ddiwedd Rhagfyr 2009.

Awdur Dim ID ydi Bedwyr Rees a deilliodd y gwaith ar gyfer pobl ifanc 14 i 15 oed o gais gan Gynllun Ysgolion Iach Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy i ddatblygu prosiect theatr mewn addysg yn ymdrin â'r thema sensitif o feichiogi ymysg merched ifanc.

Yn ôl Cwmni'r Fran Wen mae yna yng Nghymru y niferoedd gyda'r uchaf yn Ewrop o ferched yn disgwyl babis yn eu harddegau gydag oddeutu 500 wedi beichiogi y llynedd.

Mae'r cynhyrchiad sy'n ymwneud â'r broblem yn addo bod yn ddull "gwahanol" o gyflwyno Addysg Rhyw a Pherthnasoedd trwy gyffroi, herio ac ysbrydoli.

Chloe a Natasha

Mae'r stori'n dilyn hanes Chloe sy'n troi at yfed a meddwi i gael gwared a'i swildod naturiol ac yn cael ei hun yn feichiog.

Actorion Dim ID

Dilynir Chloe drwy'r eiliadau preifat a'r eiliadau cyhoeddus a thrwy'r llon a'r lleddf - rhialtwch y meddwi, ansicrwydd y 'caru', sioc y beichiogrwydd a gorfoledd disgyn mewn cariad â'r babi, iselder ei gasáu ac unigrwydd nos Calan.

Yn rhan o'r stori hefyd mae ei ffrind, Natasha, sy'n mynd allan efo Jordan fostfawr sy'n brolio faint mae o'n medru'i yfed a'i lwyddiant gyda merched genod. Mae'n condemnio unrhyw fath o uchelgais. .

Ymhlith y rhai sydd wedi gweld y cynhyrchiad mae disgyblion Blwyddyn 9, Ysgol John Bright, gyda sesiwn 'cadair boeth' yn gyfle i'r myfyrwyr ymchwilio yn ddyfnach i'r pwyntiau a godwyd yn y ddrama trwy holi'r cymeriadau am eu profiadau meddai Seamus O'Sullivan, Dirprwy Bennaeth yr ysgol.

Trafod gyda'r ifanc

Bu nifer o sesiynau trafod gyda phobl ifanc yn ystod y cyfnod ymchwil hefyd gyda chyfle iddyn nhw gyfrannu at y sgript. .

"Roedd o'n brofiad gwych a theimlad grêt fod pobl eisiau ein barn ni fel pobl ifanc wrth wneud y sgript. .

"Wnes i wirioneddol fwynhau a dwi'n meddwl ei bod o'n dda fod y cwmni yn dewis trafod pynciau sy'n bwysig i bobl ifanc a rhoi cyfle i ni siarad yn agored amdanyn nhw," meddai disgybl Blwyddyn 11 o Ysgol David Hughes, Porthaethwy. .

Bu'r cwmni'n cydweithio hefyd â Chyfle, Wrecsam, uned sy'n cynorthwyo merched beichiog a mamau ifainc. .

"Roedd dod i wybod mwy am eu profiadau nhw yn rhan allweddol o ddatblygiad y sgript a llwyddiant y diwrnod hyfforddiant i athrawon a drefnwyd i gyd-fynd â'r prosiect, meddai Iola Ynyr, cyfarwyddwraig artistig Cwmni'r Fran Wen.

Dywedodd yr awdur, Bedwyr Rees, bod Dim ID yn ffrwyth ymchwil trylwyr y cwmni. .

"Roedd hi'n bwysig i mi ein bod yn ceisio cyflwyno gwaith oedd yn real ac yn amlochrog. Roedd gwreiddio'r peth yn y byd go iawn yn hanfodol yn hynny o beth.

'Wastad yn her'

"Mae ysgrifennu ar gyfer y gynulleidfa yma wastad yn her ond yn fwy fyth felly pan mae rhywun yn ymdrin â phwnc sydd ar y naill law mor ddifrifol ac ar y llall yn gallu cynnig ei hun ar gyfer hiwmor tywyll, stoic," meddai. .

Eglurwyd i'r set gan Gwyn Eiddior Parry gael ei chynllunio'n benodol i gyfleu caethiwed Chloe. .

"Ond hefyd i greu amgylchiadau perfformio lle nad yw'r gynulleidfa'n gweld ei gilydd oherwydd natur sensitif y ddrama," meddai Iola Ynyr.

Yr actorion ydi Elen Gwynne, Aaron Morris a Fflur Medi Owen a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Osian Gwynedd.

65 o berfformiadau

Bydd y cynhyrchiad - Cymraeg a Saesneg - ar daith tan Ragfyr 11, 2009 gyda 65 o berfformiadau mewn 29 ysgol uwchradd gan sicrhau cynulleidfa o 2,920 o bobl ifanc rhwng 14 a 15 oed yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy.

Hefyd, bydd perfformiad Cymraeg o yn Galeri Caernarfon nos Fawrth, Tachwedd 17 fel rhan o ddathliadau 25 mlynedd Cwmni'r Frân Wen.

Mae Cwmni'r Frân Wen yn cael ei gynnal gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

[Y lluniau gyda'r erthygl hon gan Lluniau Llwyfan.]


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.