Â鶹ԼÅÄ

Beca - Theatr Arad Goch: Adolygiad

Rhan o boster y sioe

10 Mehefin 2010

Adolygiad Gwyn Griffiths o gynhyrchiad Theatr Arad Goch, Mehefin 2010.

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Beca gan Jeremy Turner, Cynhyrchiad Arad Goch yng Nghanolfan y Miwni, Pontypridd. Mehefin 2010.

Y mae stori Beca yn arbennig. Fel stori am wrthryfel y mae'n un o'r enghreifftiau prin - o bosib yr unig un ym Mhrydain - a gododd o blith y werin bobl.

Y drefn arferol yw bod ymgyrchoedd o'r fath yn codi oherwydd bod uchelwr neu ffefryn ymysg llys brenin neu'r dosbarth llywodraethol yn colli ei statws a chychwyn gwrthryfel.

Yn wahanol, hefyd, i'r Siartwyr, oedd yn perthyn i'r un cyfnod, yr oedd Beca yn wrthryfel cwbl Gymreig a Chymraeg. Er mor bwysig yn ein hanes, mudiad a ddaeth o'r tu allan a chanfod tir ffrwythlon yn y de-ddwyrain a'r canolbarth oedd y Siarwyr.

Felly, dylem ymfalchïo'n arbennig yn stori Merched Beca a da gweld cwmni ardderchog Arad Goch yn mynd i'r afael â'r stori gyffrous hon a'i chyflwyno'n ddifyr a bywiog i ddisgyblion ysgol.

O safon uchel

O sgript Jeremy Turner, yr actorion, y llwyfan, y goleuo - yn arbennig y goleuo - yr oedd hwn yn gynhyrchiad o safon uchel ac yn addas, fel y dywedir, i bawb o saith oed i fyny gyda digon o jôcs i foddio'r ifancaf ac o sylwedd hanesyddol i blesio'r llawer hŷn fel fi.

Mae'r stori'n troi o gwmpas Thomas Rees - Twm Carnabwth - a'i fab Jacob, eu ffrindiau a rhai gelynion o blith y breintiedig. Cawn, yn gryno a syml hanes y gwrthryfel, yr ymateb iddo ac ymdeimlad o'r tyndra a'r gwrthdaro oedd yn gefndir iddo.

Mae'r holl stori wedi ei britho â chaneuon, alawon gwerin traddodiadol a gemau llafar oedd yn boblogaidd hanner canrif yn ôl, fel: Be sydd dan y ddaear, ar y ddaear ac yn yr awyr? Ateb: "Coeden."
Deunydd i gyfoethogi a miniogi meddwl plentyn.

Yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arnaf, er hynny, oedd y goleuo. Yr oedd y goleuadau llachar ar flaen y llwyfan yn bwrw cysgodion cryf ar y gefnlen gan ychwanegu at awyrgylch y cynhyrchiad.

Weithiau, yr oedd yn gynnes i greu ymdeimlad o gysur stori'n cael ei hadrodd wrth blant o amgylch y tân cyn mynd i'r gwely; dro arall cysgodion yr actorion wrth ddinistrio'r iet yn peri bod y llwyfan fel pe'n llawn cymeriadau bygythiol, sinistr.

Dro arall, tua'r diwedd, teflir golau coch ar gefndir y llwyfan gan ddwyn atgof o lowyr a gweithwyr haearn yn codi'r Faner Goch ar fynydd Hirwaun. Cynhyrchiad llawn symbolaeth, yn wir.

Pwysig dal i gofio

Mae'n bwysig ein bod yn dal i gofio ac adrodd yr hanesion hyn. Bu'r cynhyrchiad egnïol a hwyliog hwn yn fodd i sicrhau na fydd y plant a'i gwelodd yn anghofio hanes Merched Beca.

Clywais ryw sibrydion fod perygl y bydd y cwmnïau theatr mewn addysg yn dioddef yn y wasgfa ariannol sydd ohoni. Byddai hynny'n drychineb. Nid yn unig y maen nhw'n cyfoethogi addysg a dychymyg plant ond maen nhw, goelia i, yn flaengar yn eu defnydd o dechnegau dramatig.

Mae gen i deimlad bod llawer o driciau a welais yn nehongli a dyfeisgarwch cynyrchiadau fel Deep Cut a Llwyth yn tarddu o waith y theatrau hyn. Colled fawr fyddai colli'r rhain.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.