Βι¶ΉΤΌΕΔ

Llyfr y Flwyddyn 2010 - y can lle i'w gweld cyn marw

Rhan o glawr y llyfr

01 Gorffennaf 2010

Llyfr y Dr John Davies a Marian Delyth, Cymru - y 100 lle i'w gweld cyn marw yw Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2010.

Cyflwynwyd y wobr i'r Dr John Davies mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Fercher, Gorffennaf 30, 2010 yn dilyn cecru na chafodd y ffotgraffydd, Marian Delyth, y sylw yr oedd hi'n ei haeddu o fewn y gystadleuaeth am ei chyfraniad hi.

Ond dywedodd yr Academi mai gwobr lenyddol yw hon i gydnabod cyfraniad awduron.

Mae hynny wedi peri i rai alw am ailenwi'r gystadleuaeth yn gystadleuaeth Awdur y Flwyddyn yn hytrach na Llyfr y Flwyddyn.

Bu dadlau na fyddai'r gyfrol yr hyn yw oni bai am y lluniau trawiadol.

Doedd Marian Delyth ddim yn y noson yng Nghaerdydd ond yn treulio cyfnod ar Ynys Enlli.

Dim amheuaeth

O'r deg llyfr ar y rhestr hir doedd dim llawer amheuaeth yn y byd llyfrau mai Can Lle fyddai'n mynd ΓΆ hi ond yr oedd rhai yn gwaradwyddo i nifer o lyfrau teilwng fethu a gwneud y rhestr hir o ddeg - yn fwyaf arbennig nofel Lloyd Jones, Y Dwr

Aeth John Rowlands yn Barn cyn belled ag awgrymu diffyg chwaeth ar ran y beirniaid!

Y ddwy gyfrol Gymraeg arall ar y rhestr fer oedd Naw Mis gan Caryl Lewis a Banerog gan Hywel Griffiths.

Y gyfrol enillodd y wobr Saesneg oedd barddoniaeth Philip Gross, I Spy Pinhole Eye.

Derbyniodd y ddau awdur buddugol Β£10,000 yr un gyda'r lleill ar y rhestr fer yn cael Β£1,000 yr un.

Barn y beirniaid

Y beirniaid Cymraeg oedd John Gwilym Jones, Aled Lewis Evans a Branwen Gwyn.

Meddai John Gwilym Jones:

"Hanfodion testun rhyddiaith ar gyfer cyfrol fel hon oedd cael hanesydd deallus sydd yn meddu ar fynegiant llenor. Cafwyd cyfuniad o'r ddwy ddawn yn yr awdur hwn."

Mae John Davies yn un o haneswyr mwyaf adnabyddus Cymru. Yn frodor o Gwm Rhondda bu'n aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Warden Neuadd Pantycelyn yno am 18 mlynedd. Ef yw awdur y gyfrol gyfansawdd awdurdodol ar hanes Cymru, Hanes Cymru (1989).

Mae Can Lle yn cynnwys erthyglau am gant o ymweliadau ΓΆ lleoedd o ddiddordeb arbennig ym mhob rhan o Gymru gyda lluniau lliw gan Marian Delyth.

"Dyma gyfrol a fydd yn eich annog i godi pac a theithio Cymru benbaladr i ymweld ΓΆ'r can lle," meddai'r Academi am y llyfr.

.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.