Â鶹ԼÅÄ

Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn '09 - ymateb Kate Crockett cyflwynydd 'Stiwdio'

Aled Jones yn sgwrsio gyda June Jones a  Geraint Lloyd Owen o Wasg y Bwthyn a Derec Llwyd Morgan un o'r beirniaid

'Niwsans' i awduron!

Wrth recordio cyfweliad ar gyfer y rhaglen Stiwdio yn noson gyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, disgrifiodd un o'r awduron llwyddiannus, Aled Jones Williams, y gystadleuaeth fel "niwsans".

Hynny, am fod cymaint o sôn amdani ac awduron yn poeni a fyddan nhw'n cyrraedd y nod.

Siawns go dda

Tua hanner cant o lyfrau Cymraeg oedd yn gymwys ar gyfer y wobr eleni, sy'n golygu bod gan bob un ohonynt siawns go dda o'u henwi ar y rhestr o ddeg, a'r siom o fethu â gwneud hynny yn siŵr o fod yn waeth o ganlyniad.

Mae siom ymhlith darllenwyr hefyd os nad yw eu hoff lyfrau nhw wedi plesio'r beirniaid - mae gan bob un ohonom sy'n ddarllenwyr brwd ffefrynnau sy'n haeddu'r clod yn ein barn ni.

A'r peth cyntaf a wnawn wrth ddarllen y rhestr hir felly yw gweld pa rai o'r rheiny sydd heb eu cynnwys.

Yn bersonol, o blith y cyfrolau creadigol byddwn wedi hoffi gweld Yr Anweledig gan Llion Iwan ar y rhestr, yn ogystal â'r nofel a'i curodd am y Fedal Ryddiaith y llynedd, O Ran gan Mererid Hopwood.

Er nad yw llyfrau plant yn cael eu hystyried fel arfer, cafodd Annwyl Smotyn Bach - nofel i rai yn eu harddegau gan Lleucu Roberts - ei chynnwys gan yr Academi ar y rhestr o lyfrau cymwys, a byddai cyrraedd y rhestr hir wedi tynnu sylw rhagor o oedolion at y gyfrol ragorol hon.

Ni fyddwn wedi synnu gweld sawl bardd yno eleni: Iwan Llwyd, Eurig Salisbury a T James Jones, er enghraifft, ond ym marn y beirniaid roedd deg llyfr arall yn rhagori ar y rhain.

Y deg

Felly dyma nhw'r deg llyfr llwyddiannus.

  • Pedair nofel: Y Maison du Soleil gan Mared Lewis, Yn hon bu afon unwaith gan Aled Jones Williams, Teulu Lòrd Bach gan Geraint V Jones, a Petrograd gan Wiliam Owen Roberts.
  • Un gyfrol o farddoniaeth wedyn - Bore Newydd gan Myrddin ap Dafydd.
  • Un hunangofiant - Bwystfilod Rheibus gan Robyn Léwis;
  • Lllyfr taith Hefin Wyn, Pentigili;
  • Portreadau gan Harri Parri: Iaith y Brain ac Awen Brudd;
  • Cyfrol Gwilym Prys Davies, Cynhaeaf Hanner Canrif: Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005;
  • A llyfr J Towyn Jones ar y goruwchnaturiol, Rhag Ofn Ysbrydion.

Cymaint yn trafod

Mae'r ffaith bod cynifer o bobl bellach yn trafod Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn yn arwydd sicr bod y gystadleuaeth wedi ennill ei phlwyf erbyn hyn yn y calendr llenyddol Cymraeg.

Mae'n wobr sy'n codi cwestiynau bob blwyddyn: sut gall y beirniaid gymharu cyfrol sy'n ffrwyth llafur blynyddoedd o waith ymchwil gyda nofel boblogaidd, er enghraifft?

Oes angen ei rhannu'n gategorïau gwahanol?

Mewn ymateb eleni mae nifer o restrau amgen wedi'u creu gan feirniaid eraill, ac mae'r ffaith fod anghytundeb rhyngddynt yn profi mai goddrychol - os nad mympwyol - yw rhestrau fel hyn, yn anorfod felly.

Mantais y beirniaid

Ond mae gan y beirniaid swyddogol: Luned Emyr, yr Athro Gwyn Thomas a'r Athro Derec Llwyd Morgan, fantais ar y rhan fwyaf ohonon.

Mae'n debyg - ond rydw i'n barod i gael fy nghywiro - mai nhw'n unig sydd wedi darllen pob un o'r llyfrau cymwys ac er y gallwn - ac y byddwn - yn anghytuno â nhw, mae'r ffaith iddyn nhw ddarllen pob llyfr yn rhoi rhagor o hygrededd i'w dewis.

Ymlaen â'r dadlau felly - ac ymhen llai na mis, byddwn yn clywed pa dri llyfr sydd ar eu rhestr fer, gan agor y bennod nesaf yn y drafodaeth flynyddol, ddifyr hon.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.