Â鶹ԼÅÄ

Ionawr 2011

Rhan o glawr Cymry Man U

05 Ionawr 2011

Llyfr sy'n rhoi hanes y Cymry hynny sydd wedi chwarae i dîm pêl-droed Manchester United sydd ar ben siart gyntaf gwerthwyr gorau 2011, Cyngor Llyfrau Cymru.

Awdur Cymru Man U yn y gyfres Stori Sydyn ydi'r hanesydd, Gwyn Jenkins.

Mae'r rhestr o chwaraewyr yn un drawiadol ac yn cynnwys Billy Meredith, Jimmy Murphy, Mickey Thomas, Mark Hughes a Ryan Giggs sy'n dal i chwarae i'r clwb.

Mae Gwyn Jenkins yn trafod y berthynas rhwng Jimmy Murphy a Matt Busby a'r ffordd y gwnaeth Alex Ferguson ofalu am Ryan Giggs ymhlith pethau difyr eraill.

Llyfr arall yn y siart a fydd o ddiddordeb i'r un darllenwyr yw cyfrol Lynn Davies am John Hartson yn yr un gyfres o lyfrau byrion hawdd eu darllen.

Dyma'r manylion yn llawn:

  1. Stori Sydyn: Cymry Man U, Gwyn Jenkins (Y Lolfa) 9781847712967 £1.99


  2. Awr y Locustiaid, Fflur Dafydd (Y Lolfa) 9780862439828 £7.95


  3. Cyfres Syniad Da: Llongau Tir Sych - Caelloi Cymru 1851-2011, Thomas Herbert Jones (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845273125 £5.00


  4. Stori Sydyn: Hartson, John Hartson, Lynn Davies (Y Lolfa) 9781847712950 £1.99


  5. Stori Sydyn: Tacsi i Hunllef, Gareth F. Williams (Y Lolfa) 9781847712974 £1.99


  6. Stori Sydyn: Mefin - I Gymru yn ôl, Mefin Davies, Lynn Davies (Y Lolfa) 9781847712981 £1.99


  7. Drwy Lygad y Camera, Arwyn Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272425 £9.50


  8. Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Abertawe a'r Fro 2011 (Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru) 9780956493019 £5.00


  9. Cymru - Y 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw, John Davies, Marian Delyth (Y Lolfa) 9781847711960 £19.95


  10. Creigiau Aberdaron, Gareth F. Williams (Gwasg Gwynedd) 9780860742685 £8.95

LLYFRAU PLANT

  1. Ani-Feil-Aidd, Gwyn Thomas (Gwasg Gomer) 9781848511729 £4.99


  2. Llyfrau Mami a Babi: Ci Bach (Rily Publications) 9781904357605 £4.99


  3. Llyfrau Mami a Babi: Bwni Fach (Rily Publications) 9781904357599 £4.99


  4. Y Gryffalo, Julia Donaldson (Dref Wen) 9781855963443 £5.99


  5. What's the Word For...?/Beth Yw'r Gair Am...? - An Illustrated Dictionary/Geiriadur â Lluniau (Gwasg Prifysgol Cymru) 9780708317365 £6.99


  6. Stori'r Pasg i Blant Bach, Juliet David (Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859946688 £3.99


  7. Babi Cyffwrdd a Theimlo/Baby Touch and Feel: Babis Anifeiliaid/Baby Animals (Dref Wen) 9781855969018 £3.99


  8. Pa Ddewis, Michael Coleman (Rily Publications) 9781904357254 £5.99


  9. Tân ar y Comin, T. Llew Jones (Gwasg Gomer) 9781859020395 £5.99


  10. Beibl y Plant, Anne de Graaf (Bibles for Children) 9788772471815 £15.99

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.