Â鶹ԼÅÄ

Fflur Dafydd yn cadw'i lle - siart Medi 2009

Fflur Dafydd

05 Hydref 2009

Mae poblogrwydd nofel Gwobr Goffa Daniel Owen 2009 yn parhau gydag Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd wedi cadw ei lle ar frig rhestr gwerthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru fis Medi.

Dyma'r ail fis yn olynol i'r nofel fod yn rhif un. Mae nofel arall yr Eisteddfod, Y Trydydd Peth a enillodd y Fedal Ryddiaith, wedi llithro oddi ar y rhestr fodd bynnag ar ôl bod yn drydydd ar restr mis Awst.

Does yna ddim golwg ychwaith o'r Cyfansoddiadau a oedd yn ail yn y siart fis Awst.

Yn wir, nofel a gyhoeddwyd gyntaf yn 1997 sydd yn ail ar restr Medi, I Ble'r Aeth haul y Bore gan Eurig Wyn, nofel am ddioddefaint Indiaid y Navahos dan law y dyn gwyn yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr America ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llyfr tra gwahanol sy'n drydydd ar y rhestr, ail gyfrol Bethan Wyn Jones o feddyginiaethau yn defnyddio planhigion sy'n tyfu o'n cwmpas.

Fel mae'r ymateb i golofn yr awdur yn atodiad Cymraeg wythnosol y Daily Post yn dangos mae hwn yn bwnc poblogaidd sy'n cyfareddu ac yn ennyn ymateb a dydi rhywun yn synnu dim gweld Doctor Dail 2 yn y siart.

  1. Y Llyfrgel l - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009, Fflur Dafydd (Y Lolfa) 9781847711694 £8.95.

  2. I Ble'r Aeth Haul y Bore? Eurig Wyn (Y Lolfa) 9780862434359 £5.95

  3. Doctor Dail 2, Bethan Wyn Jones (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272012 £5.50

  4. Cyfres Cip ar Gymru/Wonder Wales: Sampleri Cymreig/Welsh Samplers, Chris S. Stephens (Gwasg Gomer) 9781848511040 £3.50

  5. Yr Amhortreadwy a Phortreadau Eraill, Bobi Jones (Cyhoeddiadau Barddas) 9781906396237 £6.00

  6. Cribinion, Dafydd Wyn Jones (Gwasg y Bwthyn) 9781904845928 £6.00

  7. Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ceredigion 2010 (Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru) 9780903131391 £4.50

  8. Crash, Sera Moore Williams (Atebol) 9781907004162 £6.99

  9. Cyfres Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams 2008: 'Anwir Anwedhys y Mae yn i Ysgrivennv Ymma' - Rhai o Ymylnodau Edward Lhwyd, Brynley F. Roberts (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) 9781907029004 £2.50

  10. Hanes a Thrysorau'r Llyfrgell 1985-2009 /History and Treasures of the Library 1985-2009, Mary Olwen Owen (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru) 9781907029011 £2.50

LLYFRAU PLANT

  1. Y Bachgen Mewn Pyjamas, John Boyne (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845271664 £6.95

  2. Cyfres Bananas Glas: Prawf Coginio, Pippa Goodhart, Jan McCafferty (Dref Wen) 9781855967540 £4.50

  3. Symud, Sam!, Jac Jones (Gwasg Gomer) 9781843238003 £5.99

  4. Cyfres ar Wib: Gwepsgodyn, Martin Waddell (Gwasg Gomer) 9781843234821 £3.99

  5. Ceffyl, Malachy Doyle (Gwasg Gomer) 9781843239437 £5.99

  6. Cyfres Llyffantod: Nadolig Llawen, Sglod, Ruth Morgan (Gwasg Gomer) 9781843232735 £4.95

  7. Cyfres y Teulu Boncyrs: 4. Bili Boncyrs, Seren y Rodeo, Caryl Lewis (Y Lolfa) 9780862437787 £2.95

  8. Annwyl Santa/Dear Santa, Rod Campbell (Dref Wen) 9781855968523 £4.99

  9. Cyfres Gweld Sêr: 8. Sêr Nadolig, Cindy Jefferies (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272210 £4.95

  10. Un Diwrnod Oer, M. Christina Butler (Gwasg Gomer) 9781848510814 £5.99

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.