Â鶹ԼÅÄ

Meilyr Siôn

Meilyr sion

22 Mawrth 2010

Holi awdur cyfres o straeon newydd i blant - mewn parc yng Nghaerdydd

  • Enw
    Meilyr Siôn.


  • Beth yw eich gwaith?
    Actor.


  • O ble'r ydych chi'n dod?
    Neuaddlwyd yng Ngheredigion.


  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Y Barri.


  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Do.


  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
    Tra'n gweithio ym meithrinfa Silwli mi fyddwn ni' mynd â'r plant am dro o gwmpas Parc Thompson. Dyna lle cefais i'r syniad ar gyfer y gyfres Parc Deri. Mae'n ymwneud â'r anifeiliaid sy'n byw yn y parc a'u hymdrechion i ymdopi â'r amgylchfyd sydd ohoni ac effaith dyn ar ein bywydau.


  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Dyma'r un cyntaf.


  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Sali Mali ac Asterix.


  • A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
    Na.


  • Pwy yw eich hoff awdur?
    JRR Tolkien.


  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Affluenza gan Oliver James.


  • Pwy yw eich hoff fardd?
    R. S Thomas.


  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Reservoirs.


  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    Come to Wales to be buried - 'Welcome to Wales', RS Thomas.


  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Hoff raglen deledu - Natural World.


  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Hoff gymeriad - Bilbo Baggins, The Hobbit.


  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Yn araf ond yn sicr.


  • Pa un yw eich hoff air?
    Ie.


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Y ddawn o deithio amser.


  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Emosiynol,
    gonest,
    gweithgar.


  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Mae yna ormod i'w nodi!


  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
    Gandhi am ddisodli'r ymerodraeth Brydeinig o India yn heddychlon.


  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Gwrthryfel Merched Beca.


  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
    William Turner. Beth oedd dy hoff olygfa?


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Unrhyw daith am adre.


  • Beth yw eich hoff bryd bwyd?
    Unrhyw beth gan y fam yng nghyfraith - mae'n dda yn y gegin!


  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Pysgota, cerdded a chasglu celf.


  • Pa un yw eich hoff liw?
    Melyn.


  • Pa liw yw eich byd?
    Coch.


  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Gorfodi gyrwyr i ddefnyddio eu indicators ac os nad ydynt, eu bod yn colli eu trwydded!


  • A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
    Ddim ar hyn o bryd ond pwy a ŵyr yn y dyfodol.


  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    So chi'n dal i ddarllen, ydych chi?

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.