Â鶹ԼÅÄ

Holi Glenys Mair Lloyd

Glenys Mair lloyd gyda gwobr a enillodd am ffil, 'Yn y Pacrew'

18 Awst 2010

  • Enw:
    Glenys Mair Lloyd
  • Beth yw eich gwaith?
    Awdures, i fod.
  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Athrawes Saesneg yng Nghymru a Lloegr hyd at 1990.
  • O ble'r ydych chi¹n dod?
    Powys.
  • Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?
    Talybont, Bangor.
  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Do a naddo, ond dwi'n ddyledus iawn i rai o'm hathrawon.
  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich nofel gyntaf i blant, 'Rhyfel Sam' a dywedwch ychydig amdano?
    Ysbrydoliaeth gobeithio. Mae hi'n nofel i blant am fachgen dewr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Heldir y Diafol, hanes taith i'r Artig a nofel arobryn Daniel Owen 1995. Bargen y Brenin, arswyd i'r arddegau (2000); Castell y Blaidd, chwedl yn oes y Tywysogion cynnar ym Mhowys (2004); Brenin y Bryniau, stori am lew yn Sŵ Bae Colwyn yn cael llawdriniaeth. (2006)
  • . Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Y Mabinogion a Chwedlau Cymru, addasiad wrth gwrs.
  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?
    Byddaf, yn eitha' rheolaidd yn enwedig y lluniau rhamantus.
  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Ar y funud Kathy Reichs. Patholegydd fforensig archaeolegol sy'n ysgrifennu nofelau am ei phrofiadau mewn arddull feistrolgar.
  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Hanes Cymru, John Davies. Mae'n crynhoi popeth, egluro popeth ac yn ffynhonnell benigamp ar gyfer ymchwil, ac mae'r iaith yn glasurol, caboledig.
  • Pwy yw eich hoff fardd?
    Gerard Manley Hopkins. Dysgodd y Gymraeg yn Nyffryn Clwyd, a'r cynganeddion a defnyddiodd y dechneg yn ei gerddi megis The Wreck of Deutschland. Offeiriad oedd o, wrth gwrs ac efallai iddo ddioddef oherwydd hynny.
  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Morte D'Arthur, Tennyson.
  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    "Stafell Gynddylan ys tywyll heno,
    Heb dân, heb wely.
    Wylaf wers; tawaf wedy."
    Rhybudd i ni yng Nghymru heddiw, o bosib.
  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Doctor Zhivago gan David Lean ac unrhyw raglen ddogfennol hanesyddol ar Â鶹ԼÅÄ 2.
  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Natasha yn War and Peace, Tolstoi.
    Ar y funud, y Brenin yn Bargen y Brenin.
  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    . Y calla' dawo.
  • Pa un yw eich hoff air?
    Cariad, cariad teuluol.
  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    Unrhyw ddawn wyddonol neu fathemategol. Mi rydw i'n hynod o dwp i'r cyfeiriad yna.
  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    Does gen i ddim syniad. Gas gen i feddwl amdana fi fy hun.
  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Arfer a bod yn fyrbwyll fyddwn i braidd ond mi rydw i'n hollol i'r gwrthwyneb rŵan.
  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
    Y Fam Teresa, am resymau amlwg.
  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Yr Ymosodiad ar Balas y Gaeaf, Rwsia 1917, ond go brin. Cefais yr hanes unwaith gan hen, hen wr o Abergele a welodd y cyfan pan oedd o'n lanc ac yn ysgubo'r lonydd o flaen y Czar.
  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
    Elisabeth y Cyntaf. Dweud wrthi ei bod hi'n drasiedi iddi arwyddo gwarant-grogi John Penri a gofyn iddi'n ddigywilydd os oedd John Perrot y Morleidr o Sir Benfro yn hanner-brawd go iawn iddi?
  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Tros Hen Bont Menai ac ar hyd Lôn Penmynydd i Langefni ac yna ar hyd Lôn Llanfihangel-Tre'r-Beirdd i weld y Teulu, ac yna ar hyd y ffordd adref.
  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
    Hwyaden 'di rostio mewn hylif oren a brandi, dyna ein hateb ni i broblemau BSE, fy nghymar a minnau, efo botel o win Califfornia.
  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Darllen a mynd am dro efo Wil, a siarad.
  • Pa un yw eich hoff liw?
    Glas.
  • Pa liw yw eich byd?
    Gwyrdd, diolch byth.
  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Gwarchod bywydau plant yma a thrwy'r byd yn grwn.
  • Beth fyddai'r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
    Geiriau sy'n crynhoi'r thema yn gynnil ac yn eich tynnu chi i mewn i'r stori'n syth.

Ffilmiau

Mae Glenys Mair Lloyd wedi profi cryn lwyddiant gyda ffilmiau hefyd:
2006 - Ffilm Ddogfen - 'Yn y Pacrew - taith olaf y Karluk' (WiI Aaron/David Gullason (Canada)/Cwmni Da/History TV (Canada), S4C Rhyngwladol), enillodd y brif wobr, 'Ffim Orau Gwyl Jules Verne', ym Mharis, (yn y llun uchod) gyda'r Tywysog Albert o Fonaco a'r actor Christopher Lee ('Dracula') yn feirniaid.
2000 - Ffilm ddogfen - 'Ar Drywydd y Dywysoges Lilian o Sweden'. (Wil Aaron, Ffilmiau'r Nant.
2006 - Drama Ddogfen ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales - 'Kingdom of the Sun' - hanes Eluned Morgan, Patagonia, a'r Indiaid. Cynhyrchydd - Aled P Jones.
2007 - Rhaglen Ddogfen - 'An. Honourable Pirate', (hanes Pirs Gruffydd), eto ar gyfer Â鶹ԼÅÄ Radio Wales. Cynhyrchydd - Aled P Jones.
2008 - Drama ddogfen am drychineb RMS Leinster, '1918', Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru. Cynhyrchydd - Aled P Jones.

  • Y mae hwn yn ddiweddariad o eitem a gyhoddwyd y flwyddyn 2000.

  • A - Z llyfrau

    Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Ffilm

    Rhys Ifans

    Pobl y sgrin

    Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

    Theatr

    Llion Williams

    Barn a gwybodaeth

    Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.