Â鶹ԼÅÄ

Gareth Lloyd James

Gareth Lloyd James

  • Enw:
    Gareth Lloyd James.
  • Beth yw eich gwaith?
    Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
    Rwy' wastad wedi bod yn athro.
  • O ble'r ydych chi'n dod?
    O Gwmann ger Llanbedr Pont Steffan.
  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
    Yn Aberystwyth.
  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
    Do, y rhan fwyaf o'r amser. Er imi gael llond bol erbyn diwedd lefel A!
  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dwedwch ychydig amdano?
    Rwy'n credu'n gryf fod 'na stori y tu mewn i ni i gyd, a phan ges i'r syniad rai blynyddoedd yn ôl i fynd ati i ysgrifennu nofel ar gyfer plant oed cynradd am ddirglewch mewn gwersyll, do'n i ddim yn siwr a fyddwn yn llwyddiannus ai peidio! Yn ffodus iawn, wnes i ysgrifennu rhyw dair i bedair pennod y llynedd cyn danfon copi at Gomer a ches i'r cyfarwyddyd i barhau gyda'r ysgrifennu a chomisiwn ar gyfer ysgrifennu cyfres. Es i ati o ddifri am ryw pythefnos yn ystod gwyliau'r haf y llynedd a llwyddo i gwblhau'r nofel gyntaf. Mae'n dilyn anturiaethau criw o blant ar daith breswyl yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Mae 'na dair arall i ddod yn y gyfres - pob un wedi ei lleoli yng ngwersylloedd yr Urdd.
  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
    Dyma'r cyntaf.
  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
    Yn Gymraeg, Ymysg Lladron gan T.Llew Jones.
    Yn Saesneg, The Ring O'Bells Mystery gan Enid Blyton.
  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?
    Byddaf yn aml yn dod ar draws Ymysg Lladron yn yr ysgol!
  • Pwy yw eich hoff awdur?
    Ar hyn o bryd, Llwyd Owen.
  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
    Rwy'n cofio darllen Cysgod y Cryman yn fy arddegau a mwynhau pob tudalen. Dyna pryd wnes i werthfawrogi dawn awdur i gyflwyno cymeriadau yn fyw gyda geiriau.
  • Pwy yw eich hoff fardd?
    Am gwestiwn! Mae 'na sawl un yn dod i'r brig, ond Gerallt Lloyd Owen sy'n mynd â hi!
  • Pa un yw eich hoff gerdd?
    Ga i rannu'r ateb fel hyn: Hoff englyn - Haul ar fynydd gan Hedd Wyn.
    Hoff gywydd - Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen.
    Hoff awdl - Gwaddol gan Ceri Wyn Jones.
  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
    Ni wnawn wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffôl ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ôl.
  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
    Hoff ffilm - The Shawshank Redemption
    Hoff raglen deledu - Top Gear.
  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Fy hoff gymeriad - Barti Ddu!
    Fy nghas gymeriad - Wil James, Cysgod y Cryman.
  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
    Man gwyn man draw.
  • Pa un yw eich hoff air?
    Cymreictod.
  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?
    I ddysgu ieithoedd newydd yn ddiffwdan.
  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
    amyneddgar (ond weithiau'n ddiamynedd); cyfeillgar (dibynnu gyda phwy); a hapus (fel arfer).
  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
    Gormod i'w rhestru!
  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
    Fydden i wedi hoffi bod yn y pafiliwn pan gadeiriwyd Gerallt Lloyd Owen yn Aberystwyth yn 1969.
  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
    Llywelyn, a fydden i'n dweud, "Paid ti mentro trywanu Gelert 'da'r hen gleddyf 'na, mae e wedi achub dy fab di!"
  • Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Y daith adref o'r gwaith ar nos Wener.
  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
    Cinio dydd Sul gyda chig eidion.
  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
    Darllen, gwylio ffilmiau, syrffio('r wê!)
  • Pa un yw eich hoff liw?
    Glas.
  • Pa liw yw eich byd?
    'Sdim dal!
  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
    Fydden i'n croesawu'r gosb eithaf yn ei hôl am drais yn erbyn plant.
  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
    Oes, dwi hanner ffordd drwy'r ail lyfr yn y gyfres.
  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
    Pan feddylia i am un, fyddai'n ei chadw'n gyfrinach, a'i defnyddio gobeithio!

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.