Βι¶ΉΤΌΕΔ

Elfyn Pritchard

Beth yw eich gwaith?
Ymgynghorydd Addysg Gynradd yng Ngwynedd nes ymddeol.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athro a phrifathro cynradd.

O ble'r ydych chi'n dod?
Gwyddelwern oedd bryd hynny yn Sir Feirionnydd.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Sarnau ger Y Bala.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do.

Beth sydd orau gennych; sgrifennu ar gyfer oedolion ynteu plant?
Ydi un yn anos na'r llall?
Sgrifennu ar gyfer plant yn mynd yn fwyfwy anos fel mae rhywun yn pellhau oddi wrth ei ieuenctid ond mae wyrion a wyresau yn gyswllt gwerthfawr.

Ydi hi'n braf bod yn awdur yng Nghymru?
Ydi o safbwynt trefn gyhoeddi a grantiau a chyfle drwy eisteddfoda sylw.
Nac ydi o safbwynt pawb yn nabod pawb ac mae'n anodd cael gwrthrychedd gan ddarllenwyr ac adolygwyr.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Ynys y Trysor, R Lloyd Jones;
Plant y Mynachdy, Elisabeth Watkin Jones.

A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Byddaf.

Pwy yw eich hoff awdur?
Cymraeg: D Tecwyn Lloyd.
Saesneg: Thomas Hardy.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Amryw ond dim un yn arbennig.

Pwy yw eich hoff fardd?
T H Parry-Williams.

Pa un yw eich hoff gerdd?
The Bright Field, R S Thomas.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Gormod o ddewis.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm - Kind Hearts and Coronets.
Rhaglen deledu - Criced pan fydd Morgannwg yn chwarae.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff - Gabriel Oak Far from the Madding Crowd.
Cas - Tony Maddocks Cefnydfa (fersiwn Geraint Dyfnallt Owen o'r stori).

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Am Gymru - Mae'r cyrn yn mygu er pob awel groes.

Pa un yw eich hoff air?
Heb ateb.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae offeryn cerdd yn dda.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Heb ateb.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Heb ateb.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Owain Glyndwr oherwydd ei weledigaeth am sefydliadau cenedlaethol Cymreig gan gynnwys senedd.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Owain Glyndr yn llosgi tref Rhuthun!

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
D Lloyd George.
Be ddigwyddodd i'ch cenedlaetholdeb Cymreig chi?

Pa un yw eich hoff daith a pham?
I Lyn neu Sir Benfro oherwydd yr awyrgylch a'r golau.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Dibynnu ar yr achlysur a'r amser o'r flwyddyn.
Cas fwyd, unrhyw beth efo madarch ynddo.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, cerdded, gwrando cerddoriaeth, gwylio criced, y gymdeithas leol.

Pa un yw eich hoff liw?
Heb ateb.

Pa liw yw eich byd?
Heb ateb.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gwahardd perchnogion cwn rhag mynd ΓΆ nhw am dro ond yn eu tiriogaeth/gerddi eu hunain.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Dyw'r frawddeg ddelfrydol ddim wedi ei hysgrifennu eto.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.