Enw:
Dewi Prysor
Beth yw eich gwaith?
Awdur a bardd.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Saer Maen, trydanwr.
O ble'r ydych chi'n dod?
Cwm Prysor, Trawsfynydd.
Lle¹r ydych chi'n byw yn awr?
Llan Ffestiniog.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Fy addysg bellach fel myfyriwr h?n, do.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - a dwedwch ychydig amdano?
Wedi bod yn fy mhen ers blynyddoedd, yn cordeddu fel bag o bryfid genwair trydanol. Dwi'n gweld hiwmor bywyd bob dydd fel rwbath anhygoel o ddifyr a digri iawn, iawn, a dwi isio sgwennu amdano o hyd. Pobol ydi fy mhetha fi.
Fel meercats, maen nhw'r creaduriaid mwya digri a difyr dan haul. Ac ar ben hynny, mae gen i ddychymyg fel trên, a dwi'n meddwl am y petha rhyfedda bob yn ail eiliad. Dwi'n sbïo ar fywyd fel rwbath digri a chwerw-ddigri a dwi'n chwerthin lot. Felly dwisio gneud i bobol erill chwerthin bob cyfla ga i.
Ond dwi isio lledaenu apêl llenyddiaeth Cymraeg. Dydi pobol ddim yn uniaethu efo Te yn y Grug mwyach. Mae'r ddwy neu dair cenhedlaeth a anwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd wedi eu magu mewn oes o ddiwylliant poblogaidd rhyngwladol wedi dyfodiad cyfryngau torfol.
Maen nhw wedi agor llygad a throi clust i ddylanwadau allanol - heb golli na chyfaddawdu eu hunaniaeth Gymreig. Mae Cymru wedi newid yn ddiwylliannol. Mae ganddi ei diwylliant ei hun a diwylliant poblogaidd rhyngwladol hefyd.
Ond prin iawn yr adlewyrchir y diwylliant poblogaidd hwnnw mewn llenyddiaeth Gymraeg. O ganlyniad dydi llenyddiaeth Gymraeg ddim yn berthnasol i'r rhan fwya o siaradwyr Cymraeg.
Dwi isio cyfrannu i'r ymdrech i gywiro hynny. Os na wneir hynny, bydd mwy a mwy o'n bobol ifanc yn anghofio am ddiwylliant drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac mae oblygiadau hynny i'r iaith a'n hunaniaeth yn beryglus.
Mae'r nofel,Brithyll, yn gomedi dywyll ac afreolus sy'n darlunio cymdeithas, a newidiadau yr oes, drwy brofiadau a meddyliau criw o ffrindiau sy'n gwrthod cyfaddawdu i'r newidiadau hynny. Mae wedi ei sgwennu mewn arddull a ieithwedd lafar, a thafodiaith lafar gogledd-orllewin Meirionnydd.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Limrigau Prysor (Gwasg Carreg Gwalch), a drama, DW2416.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
To Dream of Freedom gan Roy Clews.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na. Mae rhywun wedi'i ddwyn o!
Pwy yw eich hoff awdur?
Twm Miall, Hunter S Thompson, Charles Bukowski, Roddy Doyle, Peter Berresford Ellis, Llwyd Owen.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Cyw Haul a Cyw Dôl (Twm Miall).
Fear and Loathing in Las Vegas (Hunter S Thompson).
On the Road (Jack Kerouac).
Pwy yw eich hoff fardd?
RS Thomas.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Welsh Landscape a Welsh History gan RS Thomas.
Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen.
Llun Rhuthlyn gan Hedd Wyn.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
A bar cefn heb oriau cau - (Myrddin ap Dafydd.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm - High Plains Drifter.
Teledu - The Sopranos, The Mighty Boosh, Trailer Park Boys.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Dim syniad.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Nid y dillad sy'n gneud y dyn.
Pa un yw eich hoff air?
Pam.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Hypnoteiddio ieir.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Dros bymtheg stôn.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Oes, lot.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Owain Glynd?r
doedd o ddim yn chwarae o gwmpas. Roedd ganddo weledigaeth a phenderfyniad.
Bobby Sands
g?r galluog, deallus a ddysgodd Wyddeleg i gyd-garcharorion gwleidyddol, ac a aberthodd ei fywyd ei hun dros gyfiawnder.
Rhodri Mawr
trechodd y Llychlynwyr a lladdodd eu brenin mewn ymladdfa un-ar-un.
Gwenllian ap Gruffudd
tywysoges brydferth, rhyfelwraig a rebel Cymreig.
Nelson Mandela
cadwodd ei urddas drwy flynyddoedd maith o garchar caled, a dod allan i arwain ei bobol i ryddid.
Tecumseh
arweinydd Indiaid Cochion America a ryfelodd yn erbyn y dyn gwyn.
Cynwrig Hir - a gipiodd Gruffudd ap Cynan o'r carchar.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Dial y Gwylliaid Cochion ar y Barwn Owen, neu fod efo'r Tywysog Madog yn hwylio i'r Amerig.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Gwenllian ap Gruffudd. "Iawn, del?
"
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Dros y mynyddoedd o Domen y Mur drwy Ddolbelydr a Dolau (Dolddinas), heibio Llyn Rhuthlyn ac i lawr i Gwm Prysor. Heddwch, hanes, rhyfeddodau, cyfaredd...
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cig oen Cymreig efo cinio dydd Sul.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Pêl-droed, pysgota, crwydro, ffotograffiaeth, cymdeithasu.
Pa un yw eich hoff liw?
Du.
Pa liw yw eich byd?
Enfys.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Annibynniaeth i Gymru, heb os nac onibai.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes - dilyniant i Brithyll, mwya tebyg.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
O fewn eiliadau i ollwng y meercats yn rhydd yn y gegin gefn roedd Ken Toblerôn wedi sylweddoli fod C?d Racs yn deud y gwir.