Βι¶ΉΤΌΕΔ

Bet Jones

Enw:
Bet Jones

Beth yw eich gwaith?
Athrawes yn Ysgol y Graig, Llangefni.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweithio yn Butlin's ac mewn amryw o wahanol siopau ym Mhwllheli yn ystod gwyliau ysgol a choleg.

O ble'r ydych chi'n dod?
Cefais fy ngeni a'm magu ym mhentref Trefor yn yr hen Sir Gaernarfon.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Rwyf bellach yn byw ym mhentref Rhiwlas, ger Bangor.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Mae gennyf atgofion da o'm bywyd ysgol a choleg. Yn anffodus, doedd yr addysg ddim yn cael gymaint o sylw ΓΆ'r cymdeithasu!

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dwedwch ychydig amdano?
Ysgrifennu ar gyfer Cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith pan sylwais mai 'Plentyndod' oedd y testun. Mae'n stori led-hunangofiannol am blentyndod mewn pentref chwarelyddol yn y 1950au.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim un.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na, dim er pan oeddwn i'n blentyn.

Pwy yw eich hoff awdur?
Yn y Gymraeg, Angharad Tomos.
Yn y Saesneg, Sebastian Foulkes.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Cysgod y Cryman gan i mi gredu am gyfnod yn fy arddegau fy mod yn gomiwnydd rhonc!

Pwy yw eich hoff fardd?
R Williams Parry.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Eifionydd.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Nid cerrig ond cariad yw'r meini.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hedd Wyn a The Apprentice.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy nghas gymeriad yw Monica (Saunders Lewis). Cymeriad anghynnes ac annymunol.
Fy hoff gymeriad yw Kunta Kinte yn Roots gan Alex Hayley am ei fod yn gwbwl, gwbwl ddigyfaddawd.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Yn ddelfrydol, Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain.

Pa un yw eich hoff air?
Gobaith.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu'r piano.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Bodlon,
Amyneddgar,
Siaradus.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy mhwysau!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chiΒΉn ei edmygu fwyaf a pham?
Fy nhad am ei gadernid a'i egwyddorion.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Rwy'n dal i ddifaru i mi anobeithio a mynd i fy ngwely cyn diwedd y cyfri noson refferendwm 1997.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Y Brenin Edward I.
Mi fuaswn yn hoffi dweud wrtho ein bod yma o hyd!

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Fy nhaith adref o Langefni bob dydd ac Eryri yn ei gogoniant yn fy wynebu.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio Dydd Sul gyda chig eidion a phwdin Swydd Efrog.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Arlunio.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Clawr Beti Bwt

Pa liw yw eich byd?
Amryliw.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Cael ffordd well o ogledd i dde Cymru.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ambell syniad ond dim byd pendant ar hyn o bryd.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
"Yn y dechreuad yr oedd y Gair..."
Yn anffodus, mae wedi ei ddefnyddio o'r blaen!


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.