Â鶹ԼÅÄ

Mari Stevens: adolygiad o'i nofel 'Yani'

Rhan o glawr y llyfr

24 Medi 2009

Adolygiad Lowri Rees Roberts o Yani gan Mari Stevens. Cyfres yr Onnen. Lolfa. £5.95.

Mae'n freuddwyd gan lawer ymweld ag Awstralia ac mae'n siŵr i ddylanwad rhaglenni teledu fod yn rhannol gyfrifol am gyda'u bechgyn hynod olygus yn anwesu byrddau syrffio mewn haul poeth.

Erbyn heddiw mae'r freuddwyd wedi pellhau i mi a minnau'n magu plant ac amser yn mynd yn gyflymach na'r gwynt.

Ac efallai nad yw'r ysfa cyn gryfed o fynd yn hÅ·n - ond, ew sa hi'n braf cael chydig o haul hefyd!

Un a gafodd y profiad yw Mari Stevens a fu'n byw yn Bondi, Sydney, yn ystod taith o amgylch y byd.

Clawr y llyfr

Gwnaeth ehangder y wlad, y bobl, eu traddodiadau a'u chwedlau gymaint o argraff arni fe'I hysbrydolwyd I sgrifennu nofel wedi ei seilio yno ar gyfer plant 9 i 13 oed - cyfnod allweddol 2 a 3 yn iaith yr ysgolion!

Cyfle gwych i'r plant hyn ddianc i Awstralia a gweld y wlad drwy lygaid Gwawr, prif gymeriad, Yani.

Taith yn ganolbwynt

Pan ofynnwyd imi adolygu'r nofel ofnwn na fyddai llawer i mi ynddi oherwydd yr oed y'i sgrifennwyd ar eu cyfer ond y gwrthwyneb sy'n wir a buan iawn y cefais fy hun yn cael fy sgubo o dudalen i dudalen - yn frwdfrydig ac yn awyddus iawn i wybod beth fyddai'n digwydd yn ystod taith Gwawr.

Y daith yw canolbwynt y nofel - ei thaith gyntaf i Awstralia i weld ei thad a dwy flynedd wedi mynd ers i'w rhieni wahanu ond yn awr daeth cyfle i aros gyda'i thad dros y Nadolig.

Mae'n ei chael yn anodd gadael ei Mam a mynd ar awyren ei hunan a chawn ei theimladau a'i hargraffiadau o'r diwrnod y bu i'w thad adael y cartref i ddychwelyd yn ôl i'w wlad enedigol:

"Ble mae Dad?" holais yn wan." Anadlodd Mam yn drwm, ac estyn am y llun bach ar y cwpwrdd nesa at fy ngwely . Gafaelodd ynddo a syllu'n hir ar y tri wyneb cyfarwydd yn yr haul.

" Ble mae e?" holais eto.
"Wedi mynd," atebodd yn fflat o'r diwedd.

Gallwn weld fod ei llygaid yn llonydd a dideimlad. Roedd ei chroen yn welw - yn anobeithiol o lwyd - fel pe bai rhywun wedi siglo pob gronyn o liw o'i chrombil.

" Mae e wedi mynd cariad," sibrydodd yn anobeithiol. " Mae e wedi mynd adre."

Rhwbiodd y llun, gan rolio'i bysedd dros wynebau'r tri ohonom - un yn un- cyn gafael yn rhimyn y ffotograff. A'i dynnu'n araf, araf bach yn ddwy ran. Gwyliais y toriad yn lledaenu - yn llifo - fel deigryn ar hyd ei wyneb wrth iddi ei rwygo mas o'r darlun a mas o'n bywydau.

Dirgelwch

Mae'n deimlad rhyfedd i Gwawr cyrraedd Awstralia ac ymgyfarwyddo â bywyd newydd ei thad.

Cawn elfennau o ddirgelwch wrth i Gwawr geisio datrys perthnasau ei thad a gorffennol sydd wedi bod yn gyfnod dychrynllyd i Anti Helen, ei modryb sydd wedi ei magu gyda ei thad.

Ym mhennod gyntaf y nofel ceir cyflwyniad sydd wedi ei leoli yn y Northern Territory yn fis Rhagfyr 1968 gyda merch ifanc yn cuddio yng nghist car rhag ddyn sy'n chwilio amdani.

Ceir cyflwyniad i deulu'r ferch sy'n cuddio, i'w chwiorydd ac i'w Mam.

"Maam. Dwi'n bwrw ac yn brathu. Ond mae'r dyn yn fy llusgo gerfydd fy ngwallt at yr anghenfil metel. Maam... Ond mae'r gri yn anobeithiol ac yn diflannu i'r awyr anferth uwch fy mhen. Mae e'n fy nala'n dynn am fy nghanol a'm taflu'n ddiseremoni ar set gefn ei beiriant. Yna mae e'n tuchan ei ffordd i mewn tuag ata i ac yn cau'r drws yn glep o'i ôl. Clywaf y llafnau metel yn rhwygo fy awel las. A chlywaf Mam yn llefen: "Naaaa... Naaa... Paid ag anghofio amdanom ni..." . . . Edrychaf drwy'r ffenest fach wydr arni hi a Coreen a Jira - yn swatio gyda'i gilydd ar y llawr, yn syllu i fyny tuag ataf."

Yn cydredeg

Gydol y nofel mae hanes y ferch yn cydredeg â hanes Gwawr a'r ddwy stori yn dod ynghyd ar y diwedd ond gwell peidio â dweud mwy rhag difetha'r nofel i ddarllenwyr.

Ond rhaid canmol y nofel am y ffordd y mae'n ymwneud a nifer o themâu cyfoes yn ymestyn o effeithiau tor-priodas a theulu estynedig i deithio'r byd a chreu ffrindiau.

Mae Gwawr hefyd, trwy ei chyfeillgarwch â Mani, mab Anti Helen, yn dod i gysylltiad â chwedlau'r Aborigini - a hynny'n cael ei adlewyrchu yng nghlawr y nofel.

Pob oed

Er mai'r cyfarwyddyd ar gefn y llyfr yw bod y nofel yma yn addas ar gyfer darllenwyr da rhwng naw a thair ar ddeg oed, mae'n rhaid i mi anghydweld a dweud ei bod yn addas ar gyfer rhai o bob oed sy'n mwynhau nofel dda gan fod y stori yma yn un benigamp ac fe ddysgais innau yn fy nhridegau cynnar lawer am gefndir yr Aborogini o'i darllen.
Nofel wych!


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.