Â鶹ԼÅÄ

Wyn Melville Jones - Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da: Adolygiad

Wyn Melville Jones ar glawr y llyfr

07 Ebrill 2010

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Wyn Mel - Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da gan Wyn Melville Jones. Y Lolfa. £9.95.

Gellir gwrando ar sgwrs rhwng dei Tomos a wyn Melville Jones trwy glicio ar y blwch llwyd

Y mae'r gyfrol hon yn ddifyr tu hwnt a gobeithio na chaiff ei chladdu ymhlith holl gyfrolau eraill wynebau cyfarwydd selebs y cyfryngau Cymraeg.

Nid nad yw Wynne Melville Jones - Wyn Mel - yn wyneb cyfarwydd ar lawer o lwyfannau a sgriniau teledu. Y gwahaniaeth yw, ei fod yn enwog am yr hyn a gyflawnodd - nid am fod yn "ef ei hun". O'r herwydd mae hon yn gyfrol bwysig, ddadlennol.

Iasol gyffrous

Gwyddom i gyd rywbeth am 'Mistar Urdd' ond mae stori ei eni a'i brifiant yn iasol gyffrous. Mae fel stori plentyn. Y geni a'r rhiant (Wyn Mel!) yn cyfeirio'i fywyd, y cymeriad wedyn yn tyfu a dechrau torri ei gŵys ei hun. Mae angen hwb weithiau, mymryn o newid cyfeiriad gan y "tad" ac ymlaen ag e eto.

Daw pob math o bobol i gysylltiad â Mistar Urdd - sêr y byd chwaraeon a'r canu poblogaidd. Mae'n creu gwaith a diwydiant. Mae'n dod ag arian a gwên unwaith eto i wyneb mudiad ddioddefodd fwy na'r un arall yn sgîl syrcas yr Arwisgo.

Clawr y gyfrol

Os mai bwriad George Thomas a'r Swyddfa Gymreig - fel yr awgryma Wyn Mel - oedd torri crib y mudiad cenedlaethol a llesteirio twf Plaid Cymru, lwyddon nhw ddim. Y mudiad a ddioddefodd oedd yr un na fuasai gan fwyafrif y sefydliad unrhyw wrthwynebiad iddo.

Rhyfedd mai dyma'r tro cyntaf i rywun godi cwr y llen ar y stori hon, digwyddiad a holltodd y mudiad Cymraeg poblogodd a gynhaliodd yr ymdeimlad o Gymreictod dros gyfnod hir a du iawn weithiau. Chwalwyd cyfeillgarwch oes yn achos rhai

Oherwydd yr oedd yr Urdd - ac y mae o hyd er efallai i raddau llai - yn fudiad a dynnai at ei gilydd bobol o amrywiol safbwyntiau gwleidyddol.

Sawl safbwynt

Pan oeddwn i'n laslanc yn mynd i'r gwersylloedd - a wedi hynny am gyfnod gweddol fyr yn aelod o staff yr Urdd - ymylol iawn oedd Plaid Cymru a phwnc haniaethol i ddadlau amdano oedd hunanlywodraeth.

Yr oedd ystod wleidyddol arweinyddion gweithgar yr Urddwyr yn bur eang bryd hynny. Holltwyd a pholareiddiwyd yr undod hwnnw gan yr Arwisgo.

Diddorol yw'r hyn sydd gan Wyn Mel i'w ddweud am safbwynt R E Griffith (OBE), oedd newydd ymddeol o'i swydd yn Gyfarwyddwr yr Urdd ychydig cyn yr Arwisgo. Sgwrsiais ag e yn ystod yr helynt a'r argraff ges i oedd ei fod, er yn mesur ei eiriau yn ofalus fel y gwnâi bob amser, yn gandryll na wnaeth yr Urdd ymroi i fanteisio ar yr hyn welai ef yn bosibiliadau'r Arwisgo. Anghytunai llawer yn ffyrnig â hynny.

Rhwydweithio

Ystrydeb yw dweud - fel y dywed Wyn Mel - mai yr Urdd oedd / yw asiantaeth briodas orau Cymru. Mae'n fwy na hynny. Y dyddiau hyn clywaf fy mhlant yn sôn am bwysigrwydd "rhwydweithio". Yr Urdd oedd y cyfrwng rhwydweithio gorau y deuthum i ar ei draws erioed.

Clywais brifathro ysgol lwyddiannus yn Lloegr yn dweud mai unig werth mynd i brifysgol oedd gwneud cysylltiadau a allai fod o ddefnydd i chi yn hwyrach mewn bywyd. Waeth cyfaddef na fu cysylltiadau na choleg na phrifysgol o fawr werth i mi ond bu'r cysylltiadau cynnar drwy'r Urdd yn amhrisiadwy.

Dyn busnes

Er mai yr Urdd a Mistar Urdd gaiff sylw'r adolygwyr, a dyna'r gogwydd a fynn y marchnatwr cyfrwys Wyn Mel ei hybu, mae llawer mwy i'w ddysgu yn y gyfrol hon i'r sawl a ymddiddora ym myd busnes a chysylltiadau cyhoeddus.

Wyn, am wn i, oedd un o'r Cymry Cymraeg cyntaf i sylweddoli bod mwy i gysylltiadau cyhoeddus a marchnata na chael storiâu mewn papurau newydd. I rai oedd yn gweithio yn y maes hwnnw i gyrff mawr gyda delwedd gadarn - dybiem ni - nid oedd yn wers yr oeddem yn gweld angen ei dysgu. Ef oedd yn iawn.

Yr hyn a'm synnodd yw mai 14 tudalen o'r gyfrol 173 tudalen a neilltuwyd i'r hyn, goelia i, yw camp fwyaf Wynne Melville Jones, hanes cwmni cysylltiadau cyhoeddus Strata a unwyd wedyn gyda chwmni yng Nghaerdydd i greu StrataMatrix. Dyma fenter enfawr.

Dywed iddo fod o fewn dim i golli ei dŷ ddwywaith wrth i'r busnes fynd i ddyfroedd dyfnion ond nid yw'n ymhelaethu ar gyfnod a digwyddiadau fuasai'n ddiddorol iawn i ddarllenydd. Câf y teimlad fod ganddo lawer mwy i'w ddatgelu am y cyfnod hwn.

Llwyddodd, wedi'r cwbl, i sefydlu o ddim gwmni - ac is-gwmnïau - sy'n creu gwaith a chyflogi nifer yn ei sir enedigol. Rwy'n argyhoeddedig, gyda llaw, ei bod yn haws gweld posibiliadau a llwyddo mewn lleoedd eraill na gwneud hynny, fel y gwnaeth Wyn, yn eich bro eich hun.

Llwyddodd Wyn Mel ddwywaith, y tro cyntaf o fewn diogelwch - cymharol - sefydliad yr Urdd. Yr eilwaith allan ar ei ben ei hun yn y byd mawr digroeso, digysur. Bu'n rhan o sefydlu Golwg, cwmni arall a lwyddodd ac a ehangodd.

Y gyfrinach

Beth yw ei gyfrinach? Cyfeiriais at werth yr Urdd fel lle i ddysgu crefft rhwydweithio. Daw Wyn o Dregaron, a mae rhwydweithio'n rhywbeth mor naturiol i bobol Tregaron ag anadlu.

Mae ganddyn nhw ganrifoedd o gysylltiadau â Llundain, o'r porthmyn i werthwyr llaeth y ganrif ddiwetha. Yn Llundain y gwnaeth Syr David James ac Evan Evans eu harian - dau y mae'n cyfeirio atynt yn y gyfrol. Mae gan yr ardal hen gysylltiad o fasnachu gyda chymunedau glo a haearn y de.

Ychwanegwch ddylanwad arall, mae'n fab i weinidog a dyna i chi berson y mae rhwydweithio yn ei waed. Person cysurus mewn unrhyw gwmni. Rwy'n amau a ddaw llawer o syniadau mewn vacuum, yn sicr wna'n ddim tyfu yno.

Os oes yna Gymry Cymraeg ifanc a'u bryd ar fod yn entrepreneurs, dyma gyfrol y dylent eu phrynu, ei darllen ac ystyried wedyn.

Dwy feirniadaeth sy gen i - y gyntaf yw clawr nad yw'n ddeniadol o gwbl. Y llall yw bod yr arddull yn barchus 'Urddaidd', ond mae cythgam o stori dda yn gwneud iawn â'r gwendid hwnnw.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.