Â鶹ԼÅÄ

Alan Llwyd - Stori Waldo, Bardd Heddwch

Llun Waldo Williams ar glawr y llyfr

20 Ionawr 2011

  • Stori Waldo Williams Bardd Heddwch / The Story of Waldo Williams Poet of Peace gan Alan Llwyd. Barddas. £7.95.

Cyd-ddigwyddiad ffodus fu hi i ddwy wasg, Gomer a Barddas, gyhoeddi tua'r un pryd gyfrolau yn ymwneud â Waldo Williams.

Gwasg Gomer yn cyhoeddi argraffiad cain o Dail Pren a Barddas astudiaeth ddwyieithog Alan Llwyd dan y teitl, Srori Waldo Williams, Bardd Heddwch / The Story of Waldo Williams, Poet of Peace.

Mae cyfrol Barddas yr un natur, ac yn bartneres, i un a gyhoeddwyd rhyw flwyddyn yn ôl am Hedd Wyn.

Mewn dwy iaith

Aeth rhai blynyddoedd heibio bellach er pan gyhoeddai Wasg Prifysgol Cymru gyfrolau dwyieithog yn rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi gyda'r testun Cymraeg a Saesneg ar ddalennau yn wynebu ei gilydd.

Dyw e ddim yn ddull yr oeddwn nac yr ydwyf i yn hoff ohono o gwbl. Gwell gen i fyddai gweld Barddas yn cyhoeddi dwy gyfrol deneuach yn y naill iaith a'r llal.

Ac yn yr achos arbennig hwn mae rhywfaint o afreswm i'm meddwl i fod dyfyniadau o ffynonellau Saesneg yn cael eu gosod heb eu cyfieithu o fewn y testun Cymraeg.

Clawr y Llyfr

O blaid, cyfrol ddwyieithog, fodd bynnag, mae'r trosiadau i'r Saesneg o eiriau a rhai o gerddi cyfarwydd Waldo Williams.

Dim ond canmoliaeth

Ta beth; ar wahân i hynna nid oes ond canmoliaeth yn bosib i'r gyfrol hon gan fod ymdriniaeth Alan Llwyd o fywyd, syniadau a barddoniaeth Waldo Williams mor rhagorol ag y mae gennym yr hawl i'w ddisgwyl gan feirniad llenyddol o'i grebwyll. .

Mae pedair pennod a rhagymadrodd, Teulu a Chefndir, Bardd ar ei Dwf, Blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd a Cyhoeddi Dail Pren a'r Blynyddoedd Olaf.

Mae'r dehongli a'r perthnasu yn addysg, yn ddifyrrwch ac yn grynhoad bendigedig o gyfraniad y bardd arbennig hwn.

Heddychwr a bardd

Yng ngeiriau agoriadol ei ragymadrodd mae'n gosod ei fater gerbron gan dynnu sylw at y ffaith mai heddychwr oedd yn fardd yn hytrach na bardd oedd yn heddychwr oedd Waldo Williams.

"Heddychwr a gwrthwynebydd cydwybodol a ysgrifennai farddoniaeth er mwyn mynegi ei ddaliadau ac er mwyn hyrwyddo'i achos," meddai. Nid rhywbeth i'w broffesu yn rhwydd ddiymdrech oedd heddychiaeth iddo, ond rhywbeth i'w weithredu.

Dyn, meddai, a gredai yn ystod oes o dotalitariaeth mewn unigoliaeth ac a gredai mewn heddwch yn ystod canrif o ryfeloedd."

"Mewn cyfnod o elyniaeth ac erledigaeth credai mewn brawdoliaeth; ar adegau o anobaith cynigiai obaith. Ac uwchlaw popeth, credai mai eiddo i'r unigolyn oedd ei enaid a'i gydwybod ei hun, nid eiddo i'r wladwriaeth," ychwanega.

ZRXhyfeloeddth

Ac mewn crynhoad amheuthun eglura:

"Credai Waldo fod rhyfeloedd yn bosibl yn unig oherwydd bod gwladwriaethau a llywodraethau, trwy orfodaeth gyfreithiol a gwleidyddol, yn meddu ar yr hawl i feddiannu a rheoli enaid yr unigolyn, a thrwy hynny amddifadu'r unigolyn o ryddid ewyllys a'i hawliau fel unigolyn," meddai.

Mewn cneuen, "Bardd rhyddid yr unigolyn oedd Waldo Williams" meddai a hefyd Cristion, Crynwr, sosialydd a chenedlaetholwr.

Wrth eu gweithredoedd

Yr oedd hefyd yn fardd a gredai mai wrth eu gweithredoedd yr oedd mesur pobl.

"I Waldo Williams, fel bardd, roedd bwlch enfawr rhwng geiriau a gweithredoedd. Er mai un brotest fawr yn erbyn rhyfel, militariaeth a thotalitariaeth yw ei farddoniaeth, ac un ble enfawr hefyd o blaid heddychiaeth a brawdoliaeth, credai fod ei gerddi yn amddifad o ddilysrwydd a diffuantrwydd. Nid oedd gan eiriau ar eu pennau eu hunain unrhyw rym nac unrhyw berthnasedd; gweithredoedd yn unig a allai hydreiddio geiriau â gwir ystyr, gwir rym a gwir ddiffuantrwydd," meddai.

Geiriau agoriadol sy'n baratoad rhagorol ar gyfer rhediad gweddill y gyfrol.

Cefndir teuluol

Dengys yn y gyfrol sut yr etifeddodd Waldo ei werthoedd o'i gefndir teuluol ymneilltuol o ochr ei dad a'i fam gan danlinellu dylanwad arbennig ei dad, J Edwal Williams, arno a'i ewythr.

"Roedd Ymneilltuwyr o ryw fath ar y ddwy ochr i deulu Waldo," meddai Alan Llwyd.

Annibyniaeth barn a dyngarwch lefeiniai ei fywyd neu fel y dywed Alan Llwyd:

"Roedd Waldo wedi cael ei fagu i feithrin annibyniaeth barn, i goledd brawdoliaeth fel yr egwyddor fwyaf sylfaenol mewn bywyd, ac i barchu hawliau dyn fel unigolyn."

Hyn liwiodd farddoniaeth y bachgen a fagwyd ar aelwyd "anghyffredin" ac a lywiodd ei weithredoedd gydol ei oes.

Hynny a'r frawdoliaeth gydweithredol naturiol - gyntefig ei thras - a welodd ar waith bob dydd yn y gymdeithas wledig yr oedd yn rhan ohoni yn Sir Benfro.

Grym dinistriol

Dengys Alan Llwyd hefyd mai "gair allweddol" yn ei farddoniaeth yw elw gyda "golud bydol" yn rym dinistriol yn ei olwg.

Dengys hefyd sut y bu blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhai mor ffurfiannol yn ei fywyd gyda nifer o elfennau yn dod ynghyd i greu ei fydolwg a'i weledigaeth.

Blwyddyn bwysig arall yn ei yrfa fel bardd oedd 1936 - y flwyddyn y cystadlodd am Gadair y Genedlaethol yn Abergwaun gyda'i awdl Tyddewi; awdl a oedd yn ôl y beirniaid yn rhagori ar bopeth yn y gystadleuaeth ond na allai'r beirniaid ei gwobrwyo oherwydd y gwallau oedd ynddi ac yn ei lyfr mae Alan Llwyd yn egluro sut y digwyddodd hynny. Stori ryfeddol o golli Cadair oherwydd gwallau teipio D J Williams a baratôdd y deipysgrif i'w hanfon i mewn!

Marw ei wraig

Mae'r gyfrol yn ymdrin yn deimladwy iawn a'r ergyd galed a brofodd Waldo o golli ei wraig a hwythau ar y pryd wedi ymgartrefu ym Mhen LlÅ·n lle'r oedd Waldo'n athro.

Yr oedd yn ergyd front, hir ei heffaith, a dyfynnir Anna Wyn Jones yn dweud:

"Yn raddol lleddfodd amser beth ar ei ofid, a gwelsom eto o bryd i'w gilydd gysgod o'r hen asbri a'i nodweddai gynt. Eithr o dan y bwrlwm gorweddai rhyw dristwch yr oeddem i gyd yn ymwybodol ohono."

Mae hyn yn arwain Alan Llwyd i fyfyrio am y ddwy ochr i Waldo oedd y rhai â'i hadnabu yn ymwybodol ohonynt - y cellweiriwr ffraeth a heulog ar ymboeniwr dwys yn cael ei gordeddu gan argyhoeddiadau dwfn.

Dyfynnir Syr Thomas Parry:

"Yr oedd gallu ymroi i londer bywyd, a hefyd bryderu ynghylch y gwerthoedd uchaf a phuraf, yn peri fod Waldo Williams yn byw bywyd tra chyfoethog, er gwaethaf y boen yr oedd ei argyhoeddiadau yn ddiau yn ei hachosi iddo ar brydiau," meddai gan fynd ymlaen i egluro "fwynder gwastad ei feddwl" hyd yn oed yn ystod cyfnod mwyaf adfydus ei einioes wedi colli ei wraig:

"Yr esboniad ar hyn, os esboniad hefyd, yw fod ganddo ffynhonnell o nerth yn ei enaid ei hun. Er gwaethaf rhai ysbeidiau wendid ac o fethu ymgynnal heb help, yr oedd y nerthoedd mewnol yn gadarn iawn, a'r 'canol llonydd' yn sadio ac yn sefydlogi ei holl gymeriad yn y diwedd," meddai."

A hynny, wrth gwrs ar gyfer pob achlysur a phob brwydr yr ymrôdd iddi.

'Dail Pren'

Gyda chymaint yn y gyfrol - fer, dim ond 224 dalen yw hi yn y ddwy iaith, mae rhywun yn cael ei demtio i ddyfynnu'n helaeth a chyfeirio at sylwadau gwerthfawr am gerddi unigol fel Mewn Dau Gae, y drafferth a gafwyd i berswadio Waldo Williams i gyhoeddi ei unig gasgliad o gerddi, Dail Pren a'r rheswm am ei amharodrwydd ac arwyddocâd y teitl.

Ac fel y dywedwyd ar gychwyn hyn o werthfawrogiad mae'n gyd-ddigwyddiad ffodus i wasg Gomer argraffu fersiwn cain o'r gyfrol honno yr union adeg y cyhoeddwyd cyflwyniad Alan Llwyd - bydd cael y ddwy ochr yn ochr ar silff lyfrau yn ieuad cymharus iawn.

Ychwanegiadau eraill gwerthfawr fyddai rhifynnau diweddar o'r Faner Newydd gan gynnwys Rhifyn 53, Hydref 2010 lle mae Emyr Llywelyn yn ymhelaethu am awdl Tyddewi a rhifyn 54 Gaeaf 2010 lle mae'r diweddar Ganon dewi Thomas yn cofio noson "Abertawe'n Fflam" yng nghwmni Waldo.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.