Â鶹ԼÅÄ

Geraint V Jones: adolygiad o 'Si Bêi'

Llun ar glawr y llyfr

09 Rhagfyr 2010

  • Adolygiad Lowri Roberts o Si Bêi - Helyntion Wil Bach Saer gan Geraint V Jones. Gomer. £6.99.

Peryglon hiwmor

Mae hiwmor yn rhywbeth personol. Mae jôc dda i un yn jôc sâl ar y naw i un arall.

Wrth fentro i genre y nofel ddigri, felly, mae Geraint V Jones yn cymryd risg anferthol oblegid mae chwaeth bersonol yn golygu na fydd ei hiwmor at ddant pob un darllenwr - er cyn ddonioled yr hanesion.

Mae'r nofel wedi ei lleoli mewn ysbyty, ar ward i bobol oedrannus - C Bay - neu Si Bêi chwedl Wil Bach Saer, y prif gymeriad; hen lanc 70 oed ac undertaker o ran galwedigaeth - sydd braidd yn eironig o ystyried fod y nofel yn troi o gwmpas ei gyfnod ar ward Glasddwr, ysbyty Penrhos.

Clawr y llyfr

Ond er gwaethaf ei salwch mae Wiliam Jôs o Lanlleidiog mor effro ag erioed i'w amgylchiadau a'r bobl y mae'n cwrdd â nhw.

Bron y gellid trosi'r nofel yn gomedi sefyllfa neu'n sgets un dyn achos yr hyn a geir yma yw dadansoddiad a theithi meddwl un dyn. Mae ei ymwneud â'i gyd gleifion - pobl fel Bob Griffiths o Lanrwsutrwsut ym Môn (jôc!) , a'r cyn bêl-droediwr, Len Morris - yn esgor ar sawl sylw bachog a ffraeth. Felly hefyd y tynnu coes a'r gwatwar sydd rhyngddo a'r staff meddygol. Na, nid rhywun i ymatal rhag datgan ei farn mo'r hen Wil!

Ac yn hynny o beth mae'r nofel yn llawn sylwadau beiddgar a chrafog am natur y Gymru gyfoes.

Gwawdio a dychan

Wrth agor soniais fod hiwmor yn rhywbeth personol. Mae yn y nofel hon ddigonedd o wawdio a dychanu ac ambell i jôc dda hefyd ond ar brydiau terfir ar yr hiwmor am fod yr awdur yn teimlo'r angen i esbonio neu bwysleisio'r punchline.

Enghraifft o hyn yw pan fo Wil yn ceisio sgwrsio ag un o'r cleifion ar y ward ac yntau'n gofyn a yw Churchill wedi cyrraedd. Ymateb Wil yw;

'Isho inshiwrio'ch hun dach chi?'

Yn anffodus mae'n mynd ymlaen i gynnig esboniad...

'Y ci efo'r pen aflonydd sy'n addo rhatach inshiwrans na neb arall ar y teli oedd gen i mewn golwg, wrth gwrs. Ond doedd yr hen greadur ddim yn impresd o gwbwl efo'r jôc.'

Yn hytrach na'r jôcs bwriadol teimlaf fod y golygfeydd doniolaf yn codi o'r sgwrsio naturiol rhwng y cleifion ac ymateb Wil i hynny. Ystyriwch yr olygfa lle mae Moses y gweinidog yn dechrau rhegi a phaldaruo dros y lle a Wil yn ymateb:

'Meddyliwch! Gwnidog yr Efengyl yn gweiddi ac yn rhegi fel 'na! Yn rhegi mwy na gŵr y Cwîn hyd yn oed! Er, ma'n siŵr mai fel hyn roedd y Moses-go-iawn yn mynd trwy'i betha hefyd ar ôl stryglo i lawr o Fynydd Seinai efo'r lympia cerrig o dan ei fraich a gweld llo aur yn aros amdano.'

Yr iaith

O ddyfynnu, cewch awgrym o'r math o iaith a ddefnyddir ond er bod y Gymraeg lafar yn naturiol iawn ac yn llifo'n rhwydd rhaid cyfaddef i mi ei chael hi'n anodd i'w darllen ar brydiau. Ystyriwch y ddeialog rhwng Wil Jôs a'r Mêjyr;

'...Ai wos in North Affrica, iw nô? Ffaiting Romel in ddy desyrt. Hâf iw hŷrd of him?'

'Yes I have, actually,' meddai'r Mêjyr yn ôl, mewn llais digon tebyg i un y Pruns-o-Wêls ei hun.

'Hî wos côld ddy Desyrt Ffocs, iw nô?...'

'Was he really? Did you have tea with him?'

'Yes, wans or twais. And wi had sỳm feri nais crîm cêcs, tŵ.'

Mae na enghreifftiau rif y gwlith o'r Saesneg yn cael ei chymysgu â'r Gymraeg. Mae hynny, yn naturiol, yn adlewyrchu'r iaith lafar a chefndir y cymeriad - ond mae darllen y Saesneg wedi ei Chymreigio - i mi beth bynnag - yn mynd yn fwrn ar ôl ychydig.

Efallai fod Saesneg Wil yn garbwl ond mae ei Gymraeg yn gaboledig - ac mae hynny yn codi o ddylanwad ei gyn athro Cymraeg arno - Wili Welsh. Dro ar ôl tro mae Wil yn ceisio gwella Cymraeg y 'portars' sydd byth a hefyd yn gorffen brawddegau gydag arddodiaid...

'Pa wôrd tisho mynd i?

' Aclwy mawr! Hwn eto! Ond cau ceg oedd pia hi! Os na ches i lwyddiant efo Cochyn, doedd gen i ddim gobath pluan eira yn Uffarn efo arddodiaid hwn.

Profiadau tywyll

Ond wrth i'r nofel fynd rhagddi a phrofiadau a digwyddiadau tywyll darfu ar y cleifion yn Si Bêi mae hyd yn oed cywirdeb iaith yn dod yn llai pwysig;

'Oes, ma na rwbath yn dod, o bryd i'w gilydd, i'n sobri ni i gyd ac i'n hatgoffa bod na betha amgenach yn yr hen fyd ma na chynganeddion a threigladau trwynol a lleoliad cywir arddodiaid.'

Mae'r nofel hon yn sicr yn chwa o awyr iach. Prin iawn ar y cyfan yw'r nofelau digri yn y Gymraeg ac yn hynny o beth mae mentergarwch Geraint V Jones i'w ganmol.

Er imi fwynhau'r nofel a gwerthfawrogi dawn yr awdur i droi ambell i sylw crafog yn sylwebaeth gyfoes o'r Gymry sydd ohoni - nid oeddwn yn fy nyblau yn chwerthin.

Efallai mai'r hyn sydd i gyfri am hynny yw'r ffaith fy mod yn ferch yn ei thridegau sy'n digwydd dod o'r de orllewin ac nad ar gyfer y gynulleidfa honno y'i hysgrifennwyd.

Wedi dweud hynny, byddwn yn annog unrhyw un o ba bynnag oed a chefndir i'w darllen. A chofiwch, wrth wneud hynny, dalu sylw i'r cartwnau gwych gan yr artist Anthony Kelly. Efallai y daw cyfres gartŵn i ddilyn gyda Wil Bach Saer yn brif gymeriad? Lowri Roberts


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.