Â鶹ԼÅÄ

Alan Llwyd - 'Prifysgol y Werin'

John Morris-Jones ar glawr y gyfrol

Adolygiad Glyn Evans o Prifysgol y Werin - Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1900-1918 gan Alan Llwyd. Cyfres Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Barddas. £10.95

Pan fydd rhywun yn mynd ati ymhen blynyddoedd i sgrifennu hanes ein Heisteddfod Genedlaethol ni heddiw tybed beth gaiff ei ddweud?

Clawr y gyfrol

Rhywbeth tebyg i hyn efallai:
"Cwynai rhai fod yr Eisteddfod wedi mynd yn rhy ddrud oherwydd ei bod wedi cynyddu yn ei maint."

Ac: "Wrth i'r Eisteddfod gynyddu yn ei maint, 'roedd perygl iddi golli ei hunaniaeth a'i hystyr . . ."

Ac: "Fel y cynyddai yn ei maint, âi'r posibiliad o'i chynnal mewn lleoedd bychain yn y Gymru wledig Gymraeg yn llai ac yn llai."

Alan Llwyd biau'r geiriau ond nid sôn y mae am yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw ond am y Brifwyl ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Dim gwobr eisteddfodol i neb am ddweud , 'Does dim yn newid' gyda 'maint' yr Eisteddfod yn bwnc trafod yr union ddyddiau hyn a'r ofnau ei bod "yn rhy fawr" i'w chartrefu mewn ardaloedd arferid eu hystyried ei chadarnleoedd!

Dim ond dwsin

Ganrif union yn ôl yr oedd rhai'n gofidio mai ond rhyw ddwsin o drefi Cymru allai ystyried ei gwahodd yn ôl trydedd cyfrol Alan Llwyd mewn cyfres mawr ei chanmoliaeth sy'n olrhain hanes ein Jyncet Genedlaethol helbulus yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Helbulus yw'r gair hefyd i'w disgrifio; nid yn unig yn weinyddol ond o ran ei chynnyrch - wel, cynnyrch prydyddol o leiaf gan mai hwnnw sy'n cael y sylw pennaf yn y gyfrol hon sy'n dod â'r hanes i 1918, blwyddyn olaf y Rhyfel Mawr a'r flwyddyn wedi 'Cadair Ddu' Hedd Wyn ym Mhenbedw 1917.

Digon, felly, i ymddiddori'r darllenydd mewn cyfrol sydd yn gyfuniad o lyfr hanes ac o feirniadaeth lenyddol ac y mae Alan Llwyd, fel y byddai rhywun yn disgwyl, yr un mor grefftus yn agor y naill gwys a'r llall.

Lladd ar yr Orsedd

Mae'r gyfrol yn agor gydag ymdriniaeth digon cyffrous o frwydr chwyrn a geiriol rhwng John Morris-Jones a Gorsedd y Beirdd ym mherson Hwfa Môn a T Marchant Williams yn bennaf gyda John Morris-Jones yn fflangellu'r hyn a welai'n ddiffygion safonau llenyddol ar ran yr Orsedd a'i "beirdd ymhonnus ac anwybodus" o fewn cyfundrefn oedd yn honni bod yn 'Brifysgol y Werin'.

"Os oedd yr Eisteddfod yn Brifysgol y Werin, yna prifysgol wael a diwerth ydoedd yn ôl John Morris-Jones," meddai Alan Llwyd gan ddyfynnu'r ysgolhaig yn dweud:

"Y mae Cymdeithas yr Orsedd yn ddifudd, a'i graddau'n ddiwerth, oherwydd y rhywddineb y gollyngir pob anheilyngdod iddi. Derbynir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru."

Ac yn waeth byth:

"Pwy bynnag a fo'n berchen cyfoeth, er bod heb ddeall gair o Gymraeg, ac weithiau heb fedru'n gywir un iaith arall, aiff yr Orsedd o'i ffordd i gyflwyno'i hurddau iddo, a hynny'n aml â gwaseidd-dra a fuasai'n warthrudd ar y gymdeithas fwyaf dirymedig."

Coleddu celwyddau

Fe'i gwylltiwyd hefyd gan amharodrwydd yr Orsedd "i dderbyn y gwir ynghylch twyll Iolo Morganwg" ac am gynnal yr hyn a alwodd yn "gyfundrefn o gelwyddau am draddodiadau'r beirdd a'r genedl" gan fod hynny'n "anfadwaith dyhirod yn llygru ffynonellau hanes".

Meddai: "Gellir maddau i Hwfa Môn a Chlwydfardd a'u tebyg yn yr oes o'r blaen, wedi eu twyllo oeddent hwy. Ond beth am y rhai sy'n cario'r twyll ymlaen yn awr? . . . ymddygant fel ped fai'n wir, a thwyllant yr anwybodus, a dieithriaid fel y Llydawiaid druain, sydd wedi bod mor amryfus a'u dynwared."

Oedd yn wir yr oedd siarad plaen o'r pegynnau barn ac fel hyn y mae Alan Llwyd yn crynhoi'r sefyllfa:

"Prifysgol a fynnai ymwrthod â dysg oedd Prifysgol y Werin, a dyna un o'i ffaeleddau mwyaf yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Gwrthodai ysgolheictod John Morris-Jones gyda dirmyg a thrahauster. O safbwynt ei llên prifysgol dila ryfeddol oedd hi," meddai.

Ac fe chwerwodd y dadlau dan y cenllysg o eiriau cryfion.

Rhy Seisnig

Cwmwl arall - ac un y mae rhai yn dal i ofni ei gysgod dros ein Prifwyl Genedlaethol - oedd Seisnigrwydd a oedd yn fygythiad i holl hanfod yr ŵyl - ac yn rhywbeth y safodd yr Orsedd yn yn ei erbyn.

Ac er yn cael ei hystyried yn sefydliad gwir genedlaethol "drwy gydol y blynyddoedd a arweiniai at y Rhyfel Mawr, sefydliad digion Seisnigaidd oedd Eisteddfod Genedlaethol y Cymry" meddai Alan Llwyd.

Yr oedd "rhannau helaeth o drafodion y gyfrol Cofnodion a Chyfansoddiadau hefyd yn dryfrith o Saesneg," meddai.

A'r Seisnigrwydd hwnnw yn mynd law yn llaw, meddai, â datblygiadau newydd mewn addysg ac mae'n dyfynu y Prifardd Ben Davies yn cwyno:

"Hawdd yw gwaeddi 'Oes y byd i'r iaith Gymraeg . . . [ond] pan yn gwneyd hyny yr ydym yn teimlo ein bod yn myned yn erbyn y llanw a'r gwynt."

Condemiodd y nofelydd Gwyneth Vaughan hithau yr hyn a eilw Alan Llwyd yn "taeogrwydd y Cymry eisteddfodol".

"Nid lle i Gymry ddysgu Saesneg ydyw yr Eisteddfod. Ac nid ydynt yn dyfod yno er mwyn gweled i ba fesur y mae y llenor hwn neu y gerddores arall wedi meistroli yr isith Seisonig. Nid ydynt yn dyfod yno chwaith i glywed boneddigion estronol, nad ydynt yn deall ond ychydig am y sefydliad, yn siarad am dano mewn iaith estronol," meddai hi.

Merched y bleidlais

Eraill fu'n tarfu ar yr Eisteddfod yn y cyfnod hwn oedd y suffragettes ac mae'n ddiddorol iawn darllen nid yn unig am ymateb yr awdurdodau ond ymateb eisteddfodwyr cyffredin i'w protestiadau hwy.

Torfeydd yn cael eu gwylltio gan "haerllugrwydd" merched protestgar y bleidlais yn torri ar draws anerchiad yr eilun cenedl Lloyd George a'r cyfan yn atgoffa'r darllenydd o'r hyn fyddai'n digwydd drigain mlynedd yn ddiweddarach pan fyddai Cymdeithas yr Iaith yn troi maes yr Eisteddfod yn faes eu protestiadau hwythau.

Wedi'r materion hyn mae'r awdur yn symud ymlaen i drafod eisteddfodau'r Rhyfel Mawr a barddoniaeth y cyfnod hwnnw ac ni fydd yn syndod i'r rhai sy'n gyfarwydd a gwaith Alan Llwyd bod yma drafod treiddgar a gwybodus o awdlau a phryddestau a'u harwyddocad yn hanes datblygiad a thwf ein llên.

Mewn broliant ar gefn y gyfrol dyfynnir adolygydd yn dweud am un arall o gyfrolau'r gyfres hon nad yw gwybodaeth Alan Llwyd am y pwnc yn ail i neb.

Mae Prifysgol y Werin yn cadarnhau hynny. Yr ydym yn ffodus ohono ef a'i lyfrau.

Mawrth 2009


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.