Adolygiad Kate Crockett o Y Trydydd Peth fan Siân Melangell Dafydd. Cyfrol Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2009. Gwasg Gomer. £6.99.
Rhaid cyfaddef fy mod wedi teimlo cryn gynnwrf o weld Siân Melangell Dafydd yn codi ar ei thraed yn y Pafiliwn i hawlio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau.
Ar ôl clywed y disgrifiad o'r gwaith buddugol, ac awgrym gan y beirniad eu bod yn credu bod y gwaith yn seiliedig ar brofiad personol, roeddwn yn disgwyl gweld dyn mewn gwth o oedran yn cael ei anrhydeddu.
Ond na, pwy oedd yno ond awdur ifanc, un yr wyf yn ymwybodol ei bod yn ysgrifennu - a hynny o ddifrif, ac yn gweithio ar nofel Saesneg ar ôl derbyn grant gan yr Academi - ond un nad ydw i wedi darllen dim o'i gwaith erioed.
Ac o glywed canmoliaeth y beirniaid i'w gwaith, Y Trydydd Peth, roedd fy nisgwyliadau yn uchel iawn.
Casgliad o atgofion
Ymson hir yw'r gwaith hwn: casgliad o atgofion dyn 90 oed o'r enw George Owens, ac yn fframio'r cyfan mae ei berthynas ag Afon Dyfrdwy.
Cred yr henwr mai ef sydd biau'r afon, ac mae'r gred honno'n destun gwawd yn y gymdeithas leol. Ond mae George yn teimlo'n un â Dyfrdwy ac fe â ati i'w nofio ar ei hyd.
Wrth iddo ddilyn trywydd yr afon mae'r atgofion yn llifo'n ôl a thalp o hanes yn dod yn fyw. Efallai na chrwydrodd George ymhell ond mae ei adnabyddiaeth - ac wrth gwrs adnabyddiaeth yr awdur - o'r ardal yn ddiguro.
Ni allwn ond edmygu crefft Siân Melangell Dafydd wrth lunio'r gwaith hwn. Mae cyfoeth o wybodaeth yn llifo trwy atgofion George - am hanes, am natur, am yr afon ei hun, am gymunedau a hen arferion y dyffryn, ac am y cymeriadau lleol a'u hiaith - a'r cyfan wedi'i gyfleu yn gelfydd, yn llifo'n rhwydd fel yr afon ei hun.
Does fawr o linyn storïol i'r gwaith heblaw am hanes bywyd George ei hun, a'r portread o'i briodas led anhapus gyda Nan. Hi sy'n gwmni iddo - y back-up vehicle - wrth iddo nofio'r afon a gallwn deimlo siom George wrth iddo ddod i ddeall nad yw ei wraig hyd yn oed yn credu mai ef yw gwir berchennog yr afon.
Nid Nan, ond merch a fu yn y Parc yn ystod y Rhyfel sy'n destun atgofion mwyaf tyner George ond, eto, ar y daith ar hyd yr afon mae Nan a George yn rhannu'r "pethau bychain sy'n gwneud bywyd yn haws rhwng gŵr a gwraig" - fel cytuno ar bwy oedd yn gwneud y sgonsen orau.
I mi, y portread credadwy hwn o'r briodas oedd un o uchelbwyntiau'r gwaith; hynny a sylweddoliad George ar ôl cyrraedd aber yr afon ar ddiwedd y daith:
"Na, dwi'n ddim byd sbesial ond rydw i'n berchen y Ddyfrdwy ac mae hynny'n rhywbeth."
Nid ar ruthr
Heb fawr o blot, dydy Y Trydydd Peth ddim yn llyfr i'w ddarllen ar ruthr, ac o'm safbwynt i roeddwn yn gweld eisiau'r elfen storïol sy'n gwneud i mi awchu am droi'r tudalennau mewn nofel afaelgar.
Ond wedi dweud hynny, does dim dwywaith na ddaeth awdur talentog dros ben i'r amlwg gyda chyhoeddi'r gwaith hwn.
Darllenais y gyfrol yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac wrth ddilyn yr afon Ddyfrdwy wrth deithio yn ôl a 'mlaen rhwng Y Bala a'm llety yn Llangollen, roeddwn wedi dotio at ddychmygu George yn y dŵr gerllaw; ac rwy'n dal i ryfeddu at gamp yr awdur wrth blethu'r stôr yna o wybodaeth leol i greu cyfrol wreiddiol a chofiadwy.