Â鶹ԼÅÄ

Gwyn Thomas - Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet

Rhan o glawr y llyfr

21 Mehefin 2010

  • Adolygiad Meg Elis o Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet gan Gwyn Thomas. Cyhoeddiadau Barddas. £6.95.

A, "intimations of immortality" meddyliais wrth ddarllen rhan gyntaf y teitl. Ac y mae hynny'n deyrnged i athro Saesneg oedd gen i yn y Chweched Dosbarth pan oeddem ni'n "gwneud" Wordsworth. (Fedra fo ddim diodda Wordsworth, ac yn ei sgîl o, dda gin inna mo'r dyn, ond mae rhai pethau yn glynu yn y cof os oes gynnoch chi athro da).

Ac yr oedd Gwyn Thomas yn athro da. Mae'r "oedd" yna yn cyfeirio at fy nghyfnod i yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, gyda llaw, nid at bresenoldeb yr Athro ar y ddaear hon. Mae o'n dal yn fyw ac yn gwneud pethau sydd o bwys ac o werth i'r Gymru gyfoes.

Clawr y gyfrol

A yw hynny'n wir am y dywededig sefydliad (aka Bangor University), Duw yn unig a ŵyr.

Dyma ddod, o'r diwedd, at yr adolygiad. Ond mae hyn yn fwriadol. Fel myfyriwr, dysgais osod pethau yn eu cyd-destun. A dysgais fwy am werthfawrogi ceinder, hyd yn oed lle'r oedd creulondeb yn rhan o'r ceinder hwnnw.

Gwyn Thomas y darlithydd oedd yn tynnu ein sylw at "gleddyf yn seinio ym mhen mamau". Ond roedd yno hefyd Gwyn Thomas y bardd - ac y mae o yma hyd, does ond raid i chi ddarllen

"Irác, Irác,
Anfonwyd fy mab,
Fy mab nad oedd o ond ugain,
I Irác ar wasanaeth milwrol.
'Ddaeth o ddim yn ôl;
A ddaw o ddim, byth mwy, yn ôl.
Rydw i am wybod pam."
Cysylltiadau Cyhoeddus: Methodoleg, Rhai Esiamplau

Nodweddion cerddi Gwyn Thomas o'r cychwyn fu gerwinder - ac addfwynder mawr hefyd. Mae ynddynt fyfyrio oesol - a sylwebaeth hollol gyfoes. Elfen ddaeth i mewn i'w waith o gyfnod Enw'r Gair ymlaen oedd myfyrdod ar eirfa a chanfyddiad plant bach ar y byd, ac y mae'r elfen wedi cyfoethogi gwaith y bardd byth ers hynny.

Yn y gyfrol bresennol, mae yna ddimensiwn ychwanegol i'r elfen honno, gan ein bod yn cael myfyrdodau un sydd bellach yn daid; a ninnau ddarllenwyr y cerddi hefyd yn symud ymlaen.

Nid myfyrwraig ydw i bellach, ond nain - un sy'n enbyd ymwybodol o dreigl amser ac o farwoldeb (Neb Yma, Enwau); yn ymhyfrydu yng ngeiriau'r genhedlaeth newydd ( Tomos Leitning Lewis, Pywyr Rênjyrs); ac yn trio deall crefydd ac yn anobeithio o weld dehongliad y byd ohono ( A! Bellach) .

Ydi, mae Gwyn Thomas yn dal i siarad i'n cyflwr ni i gyd a does ond gobeithio y bydd ambell sefydliad addysgol yn parhau yn ddigon goleuedig i adael i genedlaethau'r dyfodol glywed ei lais hefyd.

Mae yna olud mwy na marciau i'w ennill o "wneud" bardd ac, fel y gwyddom o brofiad chwerw diweddar, mwy nac unigolion yn diflannu pan fyddwn yn colli ein beirdd.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.