Â鶹ԼÅÄ

William Owen: Ei ysgrifau olaf

Rhan o glawr y llyfr

20 Ebrill 2011

  • Adolygiad Glyn Evans o Cân yr Alarch gan william Owen. Y Lolfa. £7.95.

Aeth yr ysgrif yn rhywbeth sobor o anffasiynol erbyn heddiw. Anodd cofio pryd ddiwethaf y bu 'casgliad o ysgrifau' yn destun cystadleuaeth yn y Genedlaethol. Prin iawn yw cyfrolau fel hon. Prinnach fyth rhai gwerth chweil.

Ac mi aiff hi'n brinnach ac yn dlotach ar rywun hefyd achos fel yr awgryma'r teitl, hwn yw casgliad olaf William Owen o'i ysgrifau ef .

Rhag cael ei gyhuddo o sgrifennu yr "un llyfr yn ormod" yna mae am roi'r gorau iddi yn y gobaith nad hwn, yn wir, yw'r un llyfr yn ormod hwnnw.

Clawr y llyfr

Gyda rhes hir o gyfrolau ysgrifol eisoes wrth ei enw prawf diymwad ei gyfrol olaf yw bod digonedd o wynt ar ôl yn ei fegin ac ni all rhywun ond gobeithio y bydd yn newid ei feddwl ac yn parhau i chwythu'r tân sy'n procio, goglais a chynhesu cymaint ohonom.

Cwmni difyr

Yr hyn a gawn mewn ysgrif yw ³¦·É³¾²Ôï²¹±ð³Ù³ó arbennig iawn nas ceir mewn ffordd union debyg mewn ffurfiau llenyddol eraill. Rhaid ichi fwynhau ³¦·É³¾²Ôï²¹±ð³Ù³ó dda i fwynhau'r ysgrif.

Wrth reswm, mae hynny'n dibynnu ar yr ysgrifwr. Mewn tŷ tafarn dieithr fe allwch weithiau fod ddigon ffodus i dynnu sgwrs â llymeitiwr diddan, dro arall â syrffedwr pen peint.

Felly hefyd yr ysgrifwr.

Yn William Owen yr ydym mewn cwmni diddan. Gŵr gwaraidd, diwylliedig eang ac amrywiol ei ddiddordebau a chanddo'r hamdden - a'r bryfôc - i'n tywys hyd lwybrau diarffordd i ben ein taith.

Fel y dywed R Alun Evans yn ei adolygiad ef ar wefan Gwales; "Welais i neb tebyg i William Owen am ddilyn sgwarnog wrth ddal iâr!"

Ychwaneger at hynny, agosatrwydd, ffordd-o-ddweud a Chymraeg mor gyfoethog y mae'n pefrio o sofrenni geiriol.

Pleser ychwanegol i mi yw'r ffaith mai 'Cymraeg Sir Fôn' sy'n brothio drwy'r gyfrol ac yr oedd yr ysgrif gyntaf un - O Ryfel i Ryfel sy'n cyffwrdd a'r stori fer hefyd - yn bleser arbennig wedi ei sgrifennu yn nhafodiaith yr ynys honno.

Pobol

Cyfeiriais at rychwant ei ddiddordebau; yr un peth sy'n uno'r holl ddiddordebau hynny yw ei ddiddordeb canolog mewn pobl. Ei ddyneidd-dra.

Medda ar ddawn arbennig i ddod â nhw yn fyw ar ddalen nid yn unig trwy eu sgwrs ond trwy eu peintio â geiriau:

Dyna ichi John Hughes Llyselw, gŵr o gorffolaeth addas i un a oedd yn frenin ei bentref:

" . . . a chanddo ben fel tarw, dwylo fel rhawiau a thraed fel cychod, gŵr y tyfodd bob mathau o fythau o'i gwmpas ar gyfrif ei faintioli.

"Yn wir, byddai plant yr ardal yn dal y gwelid traed John Hughes yng nghroeslon Bodlew pan fyddai ar ei ffordd i'r Ysgol Sul ymhell cyn iddo ef ei hun ymddangos!

"Fe honnai gweision Llyselw wedyn y cysgai o leia hanner dwsin o gathod yn sgidiau eu meistr bob nos a bod yna ddigon o le i bob un ohonynt i strejio'n braf wrth ddeffro bob bore."

Mewn dyfyniad o adolygiad blaenorol a ddefnyddir ar gefn y gyfrol hon mae John Gruffydd Jones yn cyfeirio ar ddawn "sy'n troi geiriau yn llenyddiaeth a llenyddiaeth yn bleser".

Mae hynny - a sgwarnog a iâr Alun Evans - yn rhoi mewn cneuen ragoriaeth y gyfrol hon a da gweld iddi ddal llygaid tri beirniad Llyfr y Flwyddyn hefyd.

Gobeithio yr â nhw gam ymhellach hefyd a'i chynnwys ar restr fer - ac o wneud hynny cam bach fyddai'r un nesaf.

Dal ati

Un gair ynglŷn â'r ymddeoliad yna. Mae'n arferiad digon cymeradwy mewn rhai cylchoedd yng Nghymru i rai sy'n rhagori yn eu meysydd i ymddeol ddwywaith, dair, bedair o weithiau. Gai awgrymu bod William Owen yn cael gair yn reit handi efo Dafydd Iwan a Hogia'r Wyddfa?

Ac mi edrycha innau ymlaen at ei gyfrol olaf nesaf . . . pwy a ŵyr, efallai y gwêl fod pleser i'w gael o fethu peidio torri pethau yn eu blas.
Glyn Evans


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.