Â鶹ԼÅÄ

Hywel Griffiths - Banerog

Rhan o glawr Banerog

Adolygiad Eiry Miles o Banerog gan Hywel Griffiths. Lolfa. £5.95.

Dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llwyddiant y daith Crap ar Farddoni a phoblogrwydd eithriadol Stomp y Steddfod, daeth yn amlwg nad 'pobl y pethe' yn unig sy'n mwynhau ac yn gwerthfawrogi barddoniaeth erbyn hyn.

Ond mae darllen barddoniaeth yn brofiad go wahanol i wrando ar gerddi mewn noson gymdeithasol. Felly, a fydd y gyfrol hon o gerddi gan Hywel Griffiths, y prifardd newydd ac un o dalentau disgleiriaf y Stomp, yn llwyddo i apelio at bobl o bob math?

Y llon a'r lleddf

Heb os, mae'r cerddi mor effeithiol ar bapur ag y maent ar lafar. Mae eu themâu'n ddigon eang eu hapêl, a cheir cydbwysedd rhwng y llon a'r lleddf.

Mae yma hefyd wreiddioldeb a chanu crefftus, sy'n llawn syniadau treiddgar.

Cerddi caeth yw'r casgliad yn bennaf, ac er ei fod yn defnyddio llawer o hen gonfensiynau'r canu mawl, mae'n rhoi ei stamp unigryw ei hun arnynt.

Ceir cerdd ganddo i ddiolch i'w gyfaill, Eurig Sailsbury, am lety, a cherddi i gyfarch prifeirdd eraill ynghyd ag arwyr iddo, fel Ffred Ffransis.

Mae'n canu mawl i ambell ffigwr annisgwyl hefyd, fel yr awdur Saesneg Phillip Pullman yn y gerdd Antur.

Dro arall, daw â chwa o awyr iach i'r cywydd trwy ganu am destunau ysgafn a modern, fel y gerdd Kebaber sy'n sôn am ddiweddglo trychinebus i 'oldeiar' yn Aberystwyth.

Ynddi, clywn am ymdrechion y bardd i fwyta ei 'wynfyd mewn melynfocs', a cheir sawl adlais yma o gampwaith slapstig Dafydd ap Gwilym, Trafferth Mewn Tafarn:

Baglais, straffagliais o'r ffordd,
Effiais i mewn o'r briffordd

Ond fel gwaith yr hen Ddafydd, mae tinc o dristwch yng nghanu Hywel hefyd, megis yn y cerddi °ä²¹°ù²¹´Úá²Ô a Pabell, sy'n sôn yn llawn hiwmor am y profiad o wersylla ym Maes B - mewn 'Pabell yng nghanol pibwch'- ond sy'n cydnabod yn drist fod dyddiau ei ieuenctid ffôl yn dirwyn i ben.

Cysgod T H Parry-Williams

Mae cysgod lleddf T.H. Parry-Williams i'w deimlo hefyd dros un o'i gerddi dwysaf, sef Ffynnon, sy'n myfyrio ynghylch dyfodol Cymru:

Ynddi gwelais wragedd, gwelais ddynion
A phlant y Gymru hon, fel ar ben stryd
Yn llifo, troelli, cydio ymhob dim
A'i gario ymaith yn eu chwyldro chwim.

Anodd yw dewis hoff gerdd o gasgliad mor safonol ac amrywiol ond un o'r goreuon i mi yw'r gerdd ddyfeisgar a chwareus, Y Ferch a'r Syniad lle mae'r bardd yn personoli syniadau gwleidyddol yn ferched o gig a gwaed.

Maent yn ei hudo ac yna'n ei dwyllo a'i siomi, fel y ferch sy'n gwisgo '... sbectol haul dywyll ar fore du o Ionawr / yn cuddio'i phechodau ...'

Cawn ddarlun clir o ddaliadau gwleidyddol y bardd yn y diwedd, wrth iddo sylweddoli mai'r ferch â sgarff goch yw gwrthrych teilwng ei serch.

Thema hollbwysig

Yn ôl y disgwyl, ac yntau'n gyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae Cymru a'r Gymraeg yn thema hollbwysig yn y cerddi.

Mae Argyfwng yn mynegi ei gynddaredd ynglŷn â phenderfyniad Cyngor Gwynedd i gau ysgolion bach y wlad, a thrafod coloneiddio Cymru a wna Mae'n Wlad i'r LNG ac Epynt.

Yn Canrannu, ceir ymateb ffraeth i'r hen ddadl wrth-Gymraeg a welir yn ein papurau newydd dro ar ôl tro, sef bod yr iaith yn ddiwerth oherwydd mai 20% o'r boblogaeth yn unig sy'n ei siarad.

Serch hynny, nid yw ei gerddi'n mynegi tristwch ac anobaith am sefyllfa Cymru a'r Gymraeg. Yn Stryd Pleser - cerddi'r Goron yn Eisteddfod Caerdydd - darlun herfeiddiol a gawn o Gymry Cymraeg ifanc yn 'gwladychu ein dinas ni', yn llenwi Caerdydd â sŵn y Gymraeg.

Mae sawl cerdd yn trafod protestiadau Cymdeithas yr Iaith, ac yn cyfleu'r cyffro o fod yn rhan o'r mudiad, ynghyd ag argyhoeddiad dwfn y protestwyr a'u ffydd yn yr achos.

Cymru - a'r byd

Mae ei gerddi hefyd yn ymdrin yn gelfydd â thestunau rhyngwladol ehangach, ac yn gweld cysylltiad rhyngddynt â Chymru.

Mae'r gerdd Y Sychder, er enghraifft, yn trafod dŵr daear Gaza, sy'n cyferbynnu â Dŵr Cymru ar y dudalen flaenorol, sef cerdd am Elan a Thryweryn.

Yn Enaid Hoff Cytûn, clywn am sgwrs y bardd â gyrrwr tacsi o Albufeira; er gwaetha'r gwahaniaethau diwylliannol mawr rhwng y ddau, gall uniaethu ag ef wrth iddo gwyno fod y 'strip yn Seisnig'.

Mae'r casgliad yn adlewyrchu diddordebau eang y bardd - o wleidyddiaeth ryngwladol i bêl-droed - a cheir adlais o'i ddiddordebau gwyddonol yn y delweddau o fyd natur sy'n britho'i waith.

Ond yr hyn sydd fwyaf amlwg yn y casgliad yw cymaint y mae Hywel yn mwynhau ei fywyd; ceir amryw o gerddi sy'n dathlu cyfeillgarwch, priodasau, ei gariad at ei deulu a'i hoffter o fynd am 'sesh'.

I bawb

Mae'n sôn am brofiadau y gall pawb uniaethu â nhw, ac er bod syniadau ambell gerdd yn ddyrys, mae ei iaith bob amser yn naturiol ac yn hawdd ei deall.

Does dim rhaid deall hanfodion y gynghanedd na thanysgrifio i gylchgrawn Barddas i fedru mwynhau Banerog a gobeithio, felly, y bydd pobl o bob oed a chefndir yn cael blas ar y casgliad hwn.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.