Â鶹ԼÅÄ

Nerys Howell - Cymru ar Blât

Rhan o'r clawr

10 Mawrth 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Cymru ar Blât - Wales on a Plate gan Nerys Howell. Carreg Gwalch. £8.50.

    Cyfuniad blasus o fwydydd ddoe ac o fwydydd-ddoe-gyda-rhywfaint-o-flas-heddiw arnyn nhw ydi Cymru ar Blât gan Nerys Howell.

    Achos camdreuliad

    Ond cyn llenwi'n platiau gwell cael un achos camdreuliad o'r ffordd yn gyntaf.

    Casgliad dwyieithog, fel yr awgryma'r teit,l yw hwn a hynny heb fod wrth fodd rhywun fel fi mewn gwirionedd gan nad yw cyfrolau dwyieithog o'r fath yn plesio na'r darllenydd Cymraeg na'r darllenydd Saesneg.

    Yr eglurhad yw mai cyfrol i'w hyrwyddo yn y Smithsonian Folklife Festival, Washington, yr haf diwethaf oedd hi ond wedi dweud hynny mwy buddiol gen i, fyddai dwy gyfrol deneuach yn y naill iaith neu'r llall - neu, wrth gwrs, dwy gyfrol o'r un trwch gyda dwbl y prydau.

    Yn plesio

    Ar wahân i hynny, plesio mae'r gyfrol gyda'i deuddeg adran ar gyfer gwahanol fathau o fwyd - pysgod, cig eidion, cacennau, cig mochyn, cig eidion, llysiau, cynnyrch llaeth, ffrwythau ac yn y blaen.

    Ond beth bynnag yr amrywiaeth mae'r pwyslais yn llwyr ar gynnyrch Cymru.

    Fel sy'n gweddu i gyfrol o'r fath mae amrywiaeth o luniau lliw trawiadol iawn sy'n gwneud y gyfrol yn un braf ei thrafod.

Nerys Howell

Wyneb cyfarwydd

I fynychwyr eisteddfod, sioeau a gwywyr teledu mae'r awdur, Nerys Howell, yn wyneb cyfarwydd. Bu'n gweithio ym myd bwyd a diod ers dros 30 mlynedd a bellach yn rhedeg ei chwmni ei hun yn arbenigo mewn darparu cyngor a chymorth i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru.

Gall olrhain ei diddordeb i wyliau ysgol a dreuliai yn fechan ar ffermydd ei mam-gu a thad-cu yn Llangeler a Chapel Iwan lle byddai'n helpu i gasglu wyau o'r cwt ieir, tynnu riwbob o'r berllan, codi tatws, bwydo'r lloi, godro, plufio, crafu tatws - a choginio wrth gwrs.

Y dylanwadau hynny fu'n allweddol wrth iddi benderfynu ar yrfa ac maent i'w gweld yn y dewis o ryseitiau yn y gyfrol hon.

Mae'r cyfuniad o'r cwbl draddodiadol a'r amrywiadau mwy diweddar yn plesio'n fawr.

"Mae'r ryseitiau newydd yn adlewyrchu'r dylanwadau arnaf - dysgu am dyfu a pharatoi bwyd i weithwyr fferm gyda'r ddwy fam-gu, coginio gartref gyda Mam a'r amser a dreuliais yn byw a choginio dramor," meddai yn ei chyflwyniad.

Mwynhau cyflwyniadau

Mwynheais hefyd y ddalen o gyflwyniad i bob un o'r deuddeg adran yn y llyfr hefyd gyda'u plethiad hyfryd o'r hanesyddol a'r hiraethus.

Yn yr adran gyntaf - O'r Felin i'r gegin am fara a theisennod - cawn ein hatgoffa o gychwyn telyneg hyfryd Nantlais i blant:
Tu ôl i'r dorth mae'r blawd
Tu ôl i'r blawd mae'r felin,
Tu ôl i'r felin, draw ar y bryn,
Mae cae o wenith melyn.

Mae minceg o wybodaeth flasus hefyd megis wrth drafod "Cawl, Potes a Lobsgows":

"Yn wreiddiol, nid oedd potes fawr mwy na bara ceirch a dŵr berw - yn debyg iawn i'r trwyth a wneid yn draddodiadol ar gyfer bragu cwrw cartref. Mewn rhai ardaloedd yng ngogledd Cymru, 'tŷ potas' yw'r enw ar dŷ tafarn o hyd."

Difyr deall hefyd y byddai'n arferiad ar y glannau ychwanegu gwymon bwytadwy at y potes er mwyn ei wneud yn fwy maethlon.

Mochyn grôt

Mae'n dwyn i gof hefyd ddyddiau prynu'r "mochyn grôt" i'w besgi dros yr haf "ar groen tatws, gwastraff y gegin a mes y coedwigoedd" er mwyn ei werthu i dalu'r rhent.

Ac wrth gwrs yr oedd diwrnod lladd mochyn yn achlysur cymdeithasol o bwys.

"Tarddodd y bridiau moch amaethyddol o'r hen faeddod gwyllt oedd yng nghoedwigoedd Cymru ers talwm. Yn ôl chwedlau cynnar . . . anrhegion o'r is-fyd Celtaidd oedd y moch cynharaf ac yn Nyfed (Sir Benfro bellach) y'u gwelwyd gyntaf. Mae'n ddifyr cofio mai o sir Benfro y daw'r hen gân werin honno am 'gladdu'r mochyn du' hefyd," meddai.

Adar poblogaidd ar gyfer iws tŷ a chegin oedd ieir - a ddaeth i Gymru gyda'r Rhufeiniaid ac y mae yma ddisgrifiad byw iawn o ddal, torri pen a phluo iâr ar gyfer y gegin.

Hawdd deall

Am y ryseitiau eu hunain, mae yna ddewis cwbl dderbyniol a'r cyfarwyddiadau yn gwbl dderbyniol a hawdd eu dilyn gyda'r mesuriadau mewn unedau metrig a phwysi diolch i'r dref.

Cyfeiriais o'r blaen at y lluniau rhai ohonynt yn hen rai ac weithiau heb air o eglurhad oddi tanynt ac mae hynny'n anodd ei faddau.

Yn haeddiannol dewiswyd y gyfrol yn Llyfr Coginio Lleol Gorau (Cymru) a chynrychiolydd Cymru yn rownd derfynol gwobr Llyfrau Coginio Gourmand ym Mharis, Chwefror 2010.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.