Â鶹ԼÅÄ

Catherine Zeta-Jones - portread

Llun Catherine Zeta -Jones

28 Gorffennaf 2010

Lowri Haf Cooke yn pwyso a mesur gyrfa ryfeddol Catherine Zeta-Jones

Catherine Zeta-Jones
Ganed: Abertawe, Medi 25 1969

Yn y ffilm The First Wives Club, cyhoeddir y wireb hon,

"There are only three ages for women in Hollywood: babe, district attorney and Driving Miss Daisy."

Gellid dadlau bod yr actores o Abertawe, Catherine Zeta-Jones, yn eithriad prin i'r rheol gadarn hon, wrth iddi dreulio gyrfa gyfan yn cyfuno'r tair rôl mewn un.

Wedi'r cyfan, pa actores gyfoes arall sydd yn cydbwyso harddwch hynod â phriodas ddedwydd, bywyd teuluol bodlon ac uchelgais sy'n cystadlu â hen stejars y Studio System?

Caiff y Gymraes garismatig ei chyhuddo'n aml o guddio'i hieuenctid dan haenau o golur a gwisgoedd henaidd er mwyn lleddfu ego'i gŵr hŷn, ond yr hyn y mae nifer yn ei anghofio yw bod hon yn ferch a gafodd ei geni â hen ben ar ei hysgwyddau ac a gafodd ei henwi ar ôl dwy nain; Catherine Fair a Zeta Jones.

Y tro cyntaf

Profodd wefr drydanol y tro cyntaf iddi gamu ar lwyfan fel disgybl yn Ysgol Ddawns Hazel Johnson yn Nhreboeth - profiad arweiniodd at ennill ei rhan fawr gyntaf fel Annie ar lwyfan Theatr y Grand yn Abertawe ar ddechrau ei harddegau.

Yna, yn bymtheg oed, enillodd deitl dawnswraig tap orau Prydain ac yn fuan ar ôl hynny gadawodd y Mwmbwls i fynd i astudio 'theatr gerddorol' am dair blynedd mewn ysgol berfformio yn Chiswick.

Mae na sôn iddi wirioni ar ddiwylliant didostur y rhwydwaith rhagbrofion yn Llundain, gan roi ei bryd ar fynd yn chorus girl.

Yn wir, mor benderfynol oedd hi o ennill rhannau, nes ar ddiwedd pob rhagbrawf aflwyddiannus byddai'n newid ei gwallt neu leotard er mwyn ymuno â'r un rhes eto i gael cyfle arall i greu argraff, gan ddod i ddeall yn union beth oedd yr X factor annelwig hwnnw roedd y cynhyrchwyr yn crefu amdano.

Dywedodd unwaith ei bod yn teimlo iddi gael ei geni hanner canrif yn rhy hwyr, gan ofidio na chafodd rannu'r sgrîn arian â Gene Kelly a Fred Astaire.

Mae hi'n sicr o'r un anian ag arwyr y sgrîn arian, oherwydd ar ôl ennill rhannau bychain yn sioeau cerdd y West End, Bugsy Malone a The Pajama Game, ym 1984 cafodd Catherine ei dyrchafu i'r brif ran yn 42nd Street pan aeth y brif actores a'i dirprwy yn sâl.

Pwy a ŵyr pam y ffafriodd ffawd y Gymraes ond o fewn dwy flynedd i'r adlais hwn o All About Eve cafodd ei hanfarwoli fel y "Rhosyn Seisnig" fondigrwybwyll pan laniodd ran Mariette Larkin gyferbyn â David Jason a Pam Ferris yn addasiad ITV o nofelau H.E. Bates, Darling Buds of May ym 1991.

Spielberg yn gwylio!

Parhaodd y gyfres boblogaidd am dair blynedd, a gadawodd perfformiad Zeta argraff ddofn ar genhedlaeth o wylwyr, diolch i'w phortread amheuthun o bishyn amaethyddol

Am gyfnod ddechrau'r Nawdegau, cafodd ei merwino braidd gan Mariette, wrth i gynhyrchwyr geisio'i mwyngloddio i bwrpasau canol y ffordd - canu â David Essex, dêtio John Leslie ac actio mewn cyfres o ffilmiau di-ddim; Splitting Heirs, Carry On Columbus.

Bu cyfle i chwarae Catherine the Great yn ormod o demtasiwn iddi- a thalodd y pris am ei hennyd o hubris.

Yn wir, o edrych ar ran gynta'i rhestr o gynyrchiadau, hawdd yw deall sut y byddai actores llai uchelgeisiol wedi hen roi'r ffidil yn y to ond yr oedd hon yn benderfynol o ddysgu, gwella ac aros am y cyfle perffaith i greu argraff - fel y gwnaeth Lana Turner yn fferyllfa Schwabs ar Sunset Boulevard, hanner canrif ynghynt.

Yna, ym 1996 daeth y Titanic i gynnig achubiaeth. Nid fersiwn enwocach James Cameron, ond cyfres dipyn ratach ar gyfer sianel deledu CBS.

Ac fe'i gwelwyd gan wyliwr craff a synhwyrodd fod yma 'seren'. Steven Spielberg, ac ef awgrymodd ei henw i gyfaill oedd yn castio The Mask of Zorro.

Fel Peggy Sawyer yn 42nd Street glaniodd cymeriad Elena Montero ar yr adeg berffaith, gan gynnig y cyfle i raddio i uchelfannau'r Taffia wrth chwarae merch Anthony Hopkins o Bort Talbot, a rhannu golygfeydd trydanol, llawn antur, fel haden Hisbaenaidd gyferbyn â 'duw rhyw' y cyfnod, Antonio Banderas.

Mae Zeta yn cyfeirio hyd heddiw at Zorro fel antur fwyaf allweddol ei bywyd. Nid yn unig rhoddodd iddi'r cyfle i ddisgleirio fel arwres eofn ond tra'n hyrwyddo'r cynhyrchiad yng ngŵyl Deauville, Ffrrainc, bu'n ddigon ffodus i gwrdd ⠻徱±¹´Ç°ù³¦Ã©±ð dylanwadol, Michael Douglas - dyn oedd yn rhannu'r un pen-blwydd â hi . . . namyn chwarter canrif ac a fynnodd wrthi ei bod yn arddangos ei thalentau tapio yn y tÅ· bach ar eu dêt cynta.

Daeth diwedd i'w deyrnasiad yntau fel sex-addict mwyaf drwgenwog Hollywood. Roedd wedi mopio'n lân â'r ferch o'r Mwmbwls.

Mae'r gweddill yn hanes. Priodas yn y Plaza, ail gartre yn y Mayals a dau o blant bach ag iddynt enwau Cymreig. Mae'r briodas hon am byth.

Prif actorion

Ond yn wahanol i'w gŵr, nid dyma ddiwedd ei hanes hi. Ar ddiwedd y Nawdegau bu Catherine yn bartner i bob prif actor oedd yn mynd; Sean Connery yn Entrapment, Liam Neeson yn The Haunting a John Cusack yn High Fidelity ac wedyn rhan gignoeth, yn Traffic Steven Soderbergh yn y flwyddyn 2000.

Dyma'r cyfarwyddwr lywiodd Julia Roberts at ei hunig Oscar ac, yn wir, derbyniodd Zeta glôd sylweddol ac enwebiadau di-ri am chwarae yn erbyn teip, fel gwraig feichiog yn y ddrama dywyll am gartel cyffuriau yn Ne Califfornia, a ysbrydolwyd gan y gyfres deledu eiconig o'r Almaen, Traffik.

Dechreuodd y Diwydiant drafod Catherine fel talent sylweddol oedd yn aros am y rhan, ac yn wir, dyna a welwyd.

Wedi geni'i phlentyn cynta, Dylan, Awst 2000, profodd faint o 'pro' oedd hi trwy arddangos ei thalentau amryddawn pan laniodd ran yn feriswn sinematig Rob Marshall o'r sioe gerdd boblogaidd Chicago.

Cynigwyd y brif ran iddi'n wreiddiol - Roxie Hart - ond dangosodd Zeta-Jones gymeriad, crebwyll a synnwyr go craff, pan fynnodd chwarae rhan lai Velma Kelly, gan fachu nid yn unig y gân fwyaf adnabyddus, All That Jazz, ond hefyd yr Oscar am yr actores gynorthwyol, gan adael Renee Zellwegger fel Roxie yn waglaw.

Hyd yma, mae ail act y ddegawd ddwetha wedi profi'n gyfnod tawelach o gydbwyso bywyd teuluol ar ynys Bermuda ag un cynhyrchiad y flwyddyn - gyda nifer ohonynt yn chwarae ar ei statws fel seren, ac yn dychan y ddelwedd ddilornus ohoni fel Diva .

Wedi'r cyfan, pwy arall ond Catherine Zeta-Jones allai chwarae chwaer harddach Julia Roberts, fel y gwnaeth yn America's Sweethearts (2001)?

A phwy ond y hi allai gystadlu â Clooney am gynhyrchu gwefr drydanol yn Intolerable Cruelty (2003), a phrofi'n bartner sylweddol i Brad Pitt yn Oceans Twelve (2004)?

Digon gwir i bob un o'r ffilmiau ffôl brofi'n dyrcwn truenus ond fel cynyrchiadau ar y cyd, doedd dim peryg iddynt sarnu sglein 'rhen Zeta,

Mam

Ymddengys i'w statws fel mam lywio'i phrosiectau diwethaf.

Yn No Reservations (2007), chwaraeodd control-freak o'r radd flaenaf- pennaeth ar gegin yn Efrog Newydd sy'n etifeddu merch ei chwaer yn dilyn damwain angheuol ac sy'n dysgu i flaenoriaethu diolch i gyngor cariadus gan ei sous-chef (Aron Eckhart).

Ac yn The Rebound , mae hi'n chwarae'r Cougar, wrth i ysgariad gan ei gŵr anffyddlon ei rhyddhau i ddarganfod ei hun, ac arbrofi â Manny iau y plant, a chwaraeir gan Justin Bartha.

Oes, mae na broblem. Mae'r rhannau yn y rom-coms diddim hyn, er yn talu'n dda, yn rhy bitw ar ei chyfer, ac yn rhy Americanaidd eu naws.

Mae iddi apêl Ewropeaidd anferthol, ac yn Seren yng ngwir ystyr y gair. Mae na rywbeth cwbl gableddus amdani'n chwarae rhannau y gallai hyd yn oed J-Lo eu perfformio yn ei chwsg.

Ac eithrio rhan fechan Velma Kelly, does yna'r un cymeriad wedi ein darbwyllo ni nad CZ-J sydd ar y sgrîn.

Mae na bosibilrwydd y gallai ddychwelyd i Gymru ar gyfer cynhyrchiad cwyrci, cynhenid, i brofi wrth bawb mai merch go iawn yw hi - hyd yn oed os nad yw hynny'n gwbl wir.

Sefydlodd gwmni cynhyrchu 'Milkwood Films' ar y cyd â'i brodyr ac ar un adeg cynhaliodd drafodaethau â'r cyfarwyddwr Marc Evans wrth iddo geisio'i denu i chwarae athrawes ddawns o'r Saithdegau yn Hunky Dory. Collodd hi gyfle euraidd pan benderfynodd beidio â mynd amdani.

Ond ymddengys nad yw hi wedi colli'r plot yn llwyr, gan iddi, yn 2009, dderbyn gwahoddiad i gyflawni breuddwyd oes i serennu ar Broadway, fel yr actores Desiree Armfeldt mewn cynhyrchiad newydd o A Little Night Music gan Sondheim.

Fel ag yn Chicago gynt, dewisodd Catherine chwarae rhan - a berfformiwyd gynta gan Gymraes arall ym 1973, Glynis Johns - sy'n adnabyddus am un gân arbennig; Send in the Clowns.

Mae hi'n showstopper yn sicr, ond nid am yr un rhesymau ag All That Jazz, gan fod hon yn gân deimladwy ac iddi dôn leddf a geiriau llawn pathos, wrth i'r cymeriad wynebu'r gwirionedd torcalonnus nad oes dyfodol iddi hi a chariad ei bywyd.

Mae'r ffaith i Zeta-Jone ennill gwobr Tony am yr Actores Orau Mewn Sioe Gerdd am ei rhan fel Desiree yn gynnar yn 2010 yn brawf fod y Diva hefyd yn deall distryw.

Byddai'n braf pe byddai'r actores yn cofio, y tro nesa y bydd yn ystyried rhan fawr, fod na sawl math o arwres sy'n denu cynulleidfaoedd cyffredin y sinema.

Dwy ran fawr

Ac os yw'r sibrydion yn wir, ni fydd yn rhaid aros yn hir tan hynny; mae'n debyg ei bod eisoes yn ystyried dwy ran fawr y byddai'n berffaith ar ei chyfer, gan barhau â'i hymchwiliad i'r berthynas rhwng cariad a cholled.

Mae na sawl rheswm pam y byddai Zeta-Jones yn ddewis gwell na'i phrif gystadleuydd Angelina Jolie i chwarae'r seren eiconig Elizabeth Taylor mewn addasiad posib o'r gyfrol Furious Love; Elizabeth Taylor, Richard Burton, and the Marriage of the Century.

Yn ogystal ag ymrwymo i bortreadu Cleopatra, gyferbyn â Ray Winstone fel Iwl Cesar yn y ffilm gerdd Cleo y flwyddyn nesa, mae gan y ddwy actores yr union yr un graith ar eu gyddfau diolch i lawdriniaethau tracheotomy pan yn iau, ac yn ddiweddar cyhoeddwyd y bydd Zeta-Jones derbyn y CBE am ei chyfraniad i adloniant ac elusen, ddegawd ar ôl i'r Fonesig Ms Taylor dderbyn y DBE.

Mae'n debyg bod yr eicon ei hun wedi wfftio'r adroddiadau, gan fynnu na chaiff neb ei phortreadu nes y bydd yn ei bedd!

Erbyn meddwl, efallai bod hynny'n ddigon synhwyrol, gan roi'r cyfle i Matthew Rhys, neu efallai Michael Sheen, aeddfedu digon i ymgymryd â'r gravitas angenrheidiol i wneud cyfiawnder â'r hen Rich.

Yn y cyfamser, mae na un cyfle arall wedi codi, fyddai'n addas iawn o gofio stori Sinderela "Cath o'r Cymoedd", sef portreadu'r nympho niwmatig Lana Turner gyferbyn â Keanu Reeves yn hanes bywyd y giangstar Johnny Stompanato.

Roedd y bombshell beryglus yn adnabyddus am bortreadu cyfres o Gangsters' Molls, cyn i lofruddiaeth ei gwr gan ei merch ei hun daenu cysgod dros ei gyrfa.

Mi fyddai'n sicr yn ddiddorol gweld Catherine Zeta yn gwneud yn fawr o'i rhywioldeb synhwyrus- fel blond y tro hwn- a gallai cyfuno hynny â chwarae'r Fam Gre' sicrhau pob math o wobrau iddi.

Gwisgo mantell

Ac eithrio Kathleen Turner, Lindia Fiorentino, ac efallai'r Eidales Monica Bellucci, does na fawr neb o blith actoresau cyfoes Hollywood wedi ffwdanu â'r Femme Fatale - rhan oedd mor allweddol yn hanes cynnar y Sinema.

Yn fy marn i, gallai Catherine Zeta Jones wisgo'r fantell honno yn gwbl ddidrafferth. Yn wir, awn ym mhellach hyd yn oed na hynny; gallai'r actores- sy'n uniaethu cymaint â ser y gorffennol- adael argraff yr un mor ddofn ag y gwnaeth Ava Gardner, Rita Hayworth a Judy Garland pe bai hi mond yn gwneud cyfiawnder â'i statws di-gwestiwn fel Seren o sylwedd.

Ac wrth ddewis ei rhannau'n fwy dethol, does dim amheuaeth y gallai'r ferch o'r Mwmbwls wireddu'i breuddwyd pennaf oll o gael ei hanfarwoli fel un o Dduwiesau pennaf y Sgrîn Fawr.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.