Â鶹ԼÅÄ

War Horse 2012

Rhan o boster y ffilm

16 Ionawr 2012

Adolygiad Lowri Haf Cooke o ffilm fawr Steven Spielberg am geffylau'r Rhyfed Byd Cyntaf

18Tair seren allan o bump

  • Y Sêr: Jeremy Irvine, Tom Hiddleston, Benedict Cummerbatch, Emily Watson, David Thewlis, Peter Mullan.
  • Cyfarwyddo: Steven Spielberg.
  • Sgrifennu: Lee Hall a Richard Curtis.
  • Hyd: 146 munud

Dagrau - a cheffylau o Gymru

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Wythnos yn unig ar ôl i Uggie y ci ddenu'r penawdau fel seren annisgwyl The Artist, a dyma ni gynhyrchiad sy'n talu teyrnged i'r ceffyl - anifail a gaiff ei bortreadu fel arwr tawel y Rhyfel Mawr yn epig ddiweddara Steven Spielgerg, War Horse.

Mae'r ffilm yn seiliedig ar sioe lwyfan hynod lwyddiannus yn y West End a ysbrydolwyd gan nofel Michael Morpurgo ac a gyfieithwyd i'r Gymraeg y llynedd gan Casia Wiliam, Ceffyl Rhyfel, Gwasg Carreg Gwalch.

Mae'n dilyn taith ryfeddol ceffyl o'r enw Joey o gaeau Dyfnaint i feysydd rhyfel Ffrainc.

Ar hyd y ffordd, daw Joey dan ofal sawl cymeriad gan ddechrau gydag Albert (Jeremy Irvine), mab fferm i Rose (Emily Watson) a Ted Narracott (Peter Mullan) - dyn sy 'di torri ers chwarae ei ran yn Rhyfel y Boer, ond sy'n gweld potensial yn Joey fel ceffyl gwedd.

Diolch i ofal ei fab, daw Joey yn ei flaen, ond ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf does gan y teulu tlawd ddim dewis ond gwerthu Joey i'r fyddin.

Trwy ddryswch rhyfel, daw Joey i feddiant capten Prydeinig, gofalwyr Almaenig a ffermwyr Ffrengig gan adael argraff arbennig ar bob un.

Ac fel y milwyr, fe brofa erchyllterau enbyd, dewrder dihafal a theyrngarwch mawr.

Golwg wahanol

Trwy lygaid Joey, cawn olwg wahanol ar hanes y Rhyfel Byd Cyntaf, wrth inni sylweddoli cymaint o ran chwaraeodd yr anifeiliaid annwyl hyn ar faes y gad - a chymaint ohonynt a fu farw.

I'r rhai hynny a brofodd fawredd y sioe lwyfan sy'n dal i ddenu miloedd yn y West End diolch i'w llwyfannu cynnil a phypedwaith pum seren, disgwyliwch gynhyrchiad ffilm gwahanol iawn.

Mae War Horse yn ffilm epig sydd yn benderfynol o gyffroi'r galon a denu'r dagrau o'r cychwyn cynta ac yn hynny o beth mae'n llwyddiant mawr.

Mae'r setiau'n anferthol, y gerddoriaeth gan John Williams yn gyffrous a'r sgript gan Lee Hall a Richard Curtis yn hynod siwgwraidd gan ein hatgoffa drwyddi draw mai'r meistr ei hun sydd wrth y llyw - Steven Spielberg.

Mae ei allu ef i ddod ag egstrafagansa o'r fath ynghyd yn haeddu parch yn wir, yn enwedig o ystyried y cannoedd o geffylau sy'n chwarae rhan mor ganolog.

Cwmni o Gymru

Y mae'r cyfarwyddo technegol gan ei dîm o is gyfarwyddwr a'r holl hyfforddwyr ceffylau yn gwbl ryfeddol ac mae'n wych gallu cyfeirio at ran cwmni o Gymru yn y ffilm. Ers y 1970au y mae cwmni Ceffylau Dolbadarn o Lanberis, dan arweiniad Aneuryn Jones a'i fab Dylan, yn hyfforddi ceffylau ar gyfer y byd ffilm a theledu, a gwelwyd enghraifft ddiweddar o'u gwaith i'r sgrîn fawr yng ngolygfa gofiadwy olaf Robin Hood (2010) gan Ridley Scott ar draeth Freshwater West.

Cyn hir gwelir rhagor ohonynt yng nghyfres nesaf Merlin ar Â鶹ԼÅÄ1 a Clash of The Titans 2 a Snow White and the Huntsman gyda Charlize Theron a Kirsten Stewart.

Yma, gwelwn bymtheg o'r ceffylau Cymreig mewn dwy olygfa fawr; y naill wrth i linell ddi-dor o farchfilwyr Prydeinig garlamu tua'r camera a'r llall wrth bortreadu ceffylau'r Almaenwyr, gan adleisio ffawd nifer o'r anifeiliaid yn y rhyfel wrth gael eu "hailgylchu" gan y gelyn.

Does dim dwywaith fod proffesiynoldeb a pherffeithrwydd y ceffylau hyn yn ychwanegu gwefr wirioneddol at olygfeydd War Horse ac mae'n biti garw, felly, fod y penderfyniad i neidio rhwng cymaint o "berchnogion" dros-dro Joey yn golygu na ddown ni i falio digon am un ohonynt mewn gwirionedd - ac eithrio efallai Albert annwyl, ei ffrind bore oes.

Wrth lwc, daw Albert yn ôl cyn diwedd y ffilm a chydag ef gerddoriaeth gyfareddol a goleuo dramatig yn gefnlen i aduniad anochel Spielbergaidd o sentimental.

Cynnil? Na.
Oes angen bocs o Kleenex? Oes.
Ydy War Horse werth ei gweld? Ydy siŵr. Ewch a mwynhewch - ond ystyriwch daith well fyth i'r West End.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.