Â鶹ԼÅÄ

Thor 3D

Anthony Hopkins fel Odin

27 Ebrill 2011

Adolygiad Lowri Haf Cooke o ffilm ddiweddaraf Anthony Hopkins

12Tair seren allan o bump

  • Y Sêr: Chris Hemsorth, Anthony Hopkins, Natalie Portman, Stellan Skarskard.
  • Cyfarwyddo: Kenneth Branagh.
  • Sgrifennu: Ashley Miller, Don Payne a Zack Stentz.
  • Hyd: 114 munud

Duwadd annwl - arswyd Asgard

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Flwyddyn yn ôl dros benwythnos y Pasg, lansiwyd y cyntaf o flocbysters Haf 2010, Clash of the Titans - twrci truenus am frwydr fawr rhwng duwiau Groegaidd, a ddiweddodd gyda'r geiriau anffodus, "Made in Llanberis, Wales, England".

Eleni, caiff Cymru ran tipyn mwy blaenllaw yn yr epig enbydus ddiweddara a'i bryd ar hudo'r torfeydd i'r sinemâu a hynny ar ffurf un o'i meibion enwoca, Anthony Hopkins, sy'n chwarae rhan y duw Llychlynaidd, Odin, tad yr arwr anfarwol Thor, a chwareir gan yr Awstraliad Chris Hemsworth.

A Hopkins, yn wir, sy'n ein cyflwyno i fydysawd cyfochrog Thor lle mae Odin yn llywyddu dros deyrnas Asgard ac yn cynnal heddwch rhwng naw byd y nen .

Ond cyn y gall Tony basio awenau ei frenhiniaeth i'w fab cyntaf anedig, llwydda'r Thor taranllyd i gychwyn rhyfel â hen elyn, gan arwain at ddedfryd go ddiflas - cael ei esgymuno, heb ei fwyell bwerus, i'r Ddaear, i fyw ymhlith meidrolion Mecsico Newydd.

Yno, yn ddigon ffodus, mae'n darganfod y Dr Jane Foster (Natalie Portman) i'w arwain.

Oes gobaith i Thor ennyn maddeuant ei dad a chusan gan Jane cyn dychwelyd adre i Asgard?

Maddeuwch y braslun briwsionllyd ond dyna'n wir stori sylfaenol Thor 3D, ac er yr holl heip, effeithiau arbennig, a chefndir chwedlonol ffilm ddigon diflas yw hi.

Enwau mawr

Sut mae hynny'n bosib? Sut ar wyneb Asgard mae siomi gyda'r cast mwyaf ymenyddol yn hanes blocbysters bombastig? Natalie Portman a Stellan Skarsgard yn chwarae'r gwyddonwyr, ac am eiliadau'n unig, Jeremy Renner - enw mawr yn Hollywood ers The Hurt Locker a'r actor sydd newydd ei ddewis i chwarae'r Jason Bourne.

Yr ateb i'r cwestwn, mae'n debyg, yw Kenneth Branagh. Enw annisgwyl ar yr olwg gyntaf i gyfarwyddo ffilm antur o'r fath, ond mae'n debyg bod Thor yn ddewis cwbwl naturiol i'r bachan o Belfast a dreuliodd ei blentyndod, pan nad oedd â'i drwyn yng ngweithiau'r y bardd mawr o Stratford upon Avon, yn dilyn anturiaethau un o gonglfeini comics Marvel Stan Lee, sef The Mighty Thor.

Yn wir, roedd amcanion Branagh wrth gymryd yr awennau yn rhai digon anrhydeddus gan iddo weld tebygrwydd mawr rhwng perthynas Thor a'i dad a hanes Harri V, y Cymro a aeth i ryfel â Ffrainc i brofi ei hun yn ddyn i'w dad ac iddo'i hun - ffilm a gyfarwyddodd ac y disgleiriodd Branagh ynddi ym 1989.

Am unwaith, dyma gyfarwyddwr oedd am wneud ei orau i ddenu'r gwir o gymeriadau cartŵn, gan fynnu actio cryfach na'r arfer mewn genre sy'n adnabyddus am berfformiadau prennaidd.

Rhywsut, profodd yr holl beth yn ormod o bwdin - er nad oes dim byd mawr yn bod ar y ffilm.

Edrych yn dda

Yn wir, yn weledol does yna ddim i godi cywilydd arno gan fod Thor o'r un safon â sawl ffilm debyg o stabal Marvel Comics, gan gynnwys The Fantastic Four, gyda Ioan Gruffudd - ond dydy hi ddim yn yr un cae â Spider-Man - cynhyrchiad ag iddo gyfuniad delfrydol o antur ac anwyldeb diolch i weledigaeth y cyfarwyddwr Sam Raimi a pherfformiadau rhagorol Tobey Maguire, Kirsten Dunst a Willem Dafoe - a'r llwyddiant diweddarach Iron Man, sy'n gweithio'n bennaf oherwydd dewis Robert Downey Jr yn y brif ran, a sicrhau sgript ffraeth a chomig.

I fod yn deg â Thor, mae'r hync ei hun, Chris Hemsworth yn andros o hawdd i'w wylio ac ar yr adegau y gofynnir iddo gael hwyl am ei ben ei hun - yn bennaf ar ôl glanio ar y ddaear, a chadw cwmni â'r gwyddonwyr sydd braidd yn gegrwth - mae e'n llwyddo i'n darbwyllo fod na gryn botensial i ddatblygu'r cymeriad ar gyfer ei ymddangosiad mewn addasiad o gartŵn The Avengers yn 2012.

Ysgwyddo'r bai

Yn anffodus, fel yn achos nifer fawr o flocbysters rhyng-fydysawdol - sy'n gofyn i ni wrando'n hygoelus ar broclamasiynau o bwys mawr cyn dychryn yn llwyr pan ddaw'r cawr o rew neu graca hyll anferthol i'r golwg - mae na ormod o gyffyrddiadau camp sy'n taflu dŵr oer dros gravitas y gofod, ac yma, gwisg Thor sy'n bennaf gyfrifol am ddryllio'r ddelwedd o'r duw-ddyn difrifol, diolch i shoulder-pads fyddai'n ormod hyd yn oed i Krystle Carrington.

Rhaid i rywun ysgwyddo'r bai; a'r tro hwn, y Brenin Branagh yw hwnnw.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.